SpanglefishCenarth Community Council | sitemap | log in
This is a free Spanglefish 1 website.

Cyfarfod Cyngor Cymuned Cenarth

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn y Ganolfan, Capel Iwan Ddydd Mawrth, y 4ydd o Chwefror am 7y.h.

1. PRESENNOL: Yn y Gadair - Cyng. Hywel Bowen. Cynghorwyr, Pat Thomas, Richard James, Meurig Thomas, Don Griffiths, Nigel Williams, Cyng. Ken Howell, Helen Williams, Philip Gibbons, Jeff Kedward PCSO. Clerc - Manon Thomas.

2. YMDDIHEURIADAU:, Cyng. Hazel Evans, Leah Jones PCSO, William Davies, Anthony John.

3. DATGANIADAU DIDDORDEB: - Dim

4. HEDDLU: -

• Dywedodd Jeff Kedward PCSO bod newyddion da ganddo bod y gwaith ar y to yng ngorsaf heddlu CNE yn cychwyn yfory a’i fod yn gobeithio bod nôl yno cyn hir gan ei fod yn gweithio o Grymych ar hyn o bryd.

• Dywedodd hefyd bod llawer o fyrgleriaethau wedi bod yn ddiweddar felly byddai’n syniad i gloi eich eiddo gan gynnwys ceir a siediau. Dywedodd bod un achos wedi bod yn Llanarth yn ddiweddar a byddai wedi bod yn ataliadwy cyn belled â bod pethau wedi’u cloi. Dywedodd bod gangiau yn cael eu cludo mewn fan a’u gollwng mewn pentrefi i ddwyn beth y gallant. Dywedodd bod y bobl a wnaeth lladrata yn Llanarth yn dod o Abertawe. Dywedodd y Cyng. Nigel Williams bod hwn yn bryderus iawn a’i fod wedi gweld eitem ar S4C ynghylch dwyn offer adeiladu gwerth miloedd. Gofynnodd y Cyng. Philip Gibbons beth fyddai’r sefyllfa os byddai ci yn cnoi lleidr wrth i nhw geisio lladrata. Dywedodd Jeff Kedward PCSO y byddai pob achos yn cael ei ystyried ar y ffeithiau a’i fod yn bwysig nad yw’r ci yn cael ei ddefnyddio fel arf.

• Dywedodd Jeff Kedward PCSO bod yr heddlu yn rhoi marc ar beiciau cwad ar hyn o bryd am ddim os oes diddordeb gydag unrhyw un. Dywedodd y Cyng. Richard James a Meurig Thomas bod diddordeb gyda nhw.

5. COFNODION: Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Misol Ionawr 2025. Cynnig: Cyng. Don Griffiths Eilio: Cyng. Meurig Thomas

6. MATERION YN CODI O’R COFNODION:

A. 6.B-1/JUL21 - Diffibrylydd - Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod angen gwirio un Capel Iwan a Penrherber gan eu bod wedi cael eu defnyddio. Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas byddai’n dda os byddai nodyn yn y bocsys yn dweud i rhoi gwybod os ydynt wedi’i defnyddio. Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons mai ei ddealldwriaeth ef yw mai’r Gwasanaeth Ambiwlans sydd â chyfrifoldeb i’w gwirio ond eu bod yn rhy brysur. Cytunwyd y byddai’r Clerc yn gwirio hyn.

B. 10.A-4/NOV - Heol Penrheol Isaf i Derlwyn - Dywedodd y Cyng. Richard James eu bod wedi bod mas ond hanner job sydd wedi’i neud. Dywedodd y Cadeirydd bod dŵr dros yr heolydd yn broblem hefyd. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod math newydd o darmac i gael nawr sy’n medru trwsio y tyllau eu hunain.

C. 10.A-1/JUN - Twll ar dro Hendy, Cenarth - Dim Diweddariad.

D. 10.A-1/FEB - Dŵr ar dro Bryngolau - Dywedodd y Cadeirydd bod hwn yn waeth.

E. 10.B-9/MAY - Tarmacio cefn y neuadd - Dim Diweddariad.

F. 10.E-9/MAY - Heol o Gwm Morgan i Glyncoch - Dim diweddariad. Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons bod y coed wedi cwympo yn wael yno hefyd ac nid yw’r ‘delivery drivers’ yn fodlon dod lawr ar yr heol yna bellach gan ein fod yn rhy beryglus. Gofynnodd y Cadeirydd pwy oedd â chyfrifoldeb dros y coed. Dywedodd y Cyng. Ken Howell mai’r ffermwyr sydd â chyfrifoldeb ac os bydd rhywun yn cysylltu â’r Cyngor, byddan nhw yn cysylltu â’r ffermwyr.

G. 10.A-3/OCT - Dŵr Bwlchcaebrith i Blaendyffryn - Dim diweddariad. Dywedodd y Cadeirydd ein bod wedi bod yn trafod hwn ers blynyddoedd. Dywedodd y Cadeirydd

H. 10.C-3/OCT - Llwybr heibio’r neuadd - Dim Diweddariad.

I. 7.D-7/NOV - Toiledau Cenarth - Dim Diweddariad. Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons bod hwn yn ‘bottomless pit’ a’n risg o gymryd nhw drosodd heb wybod y gwir cost. Dywedodd y Cyng. Nigel Williams ei fod yn pryderu wrth fynd yn hŷn os na fyddai toiledau yno byddai’n broblem yn enwedig os bydd bysiau yn galw yno. Dywedodd y Cadeirydd nad yw’n sicr os yw’r toiledau ochr Ceredigion wedi cau am byth - o bosib bod hwn dros cyfnod y gaeaf.

J. 10.A-7/NOV - Coed Llwybr Godremamog - Dim Diweddariad.

K. 10.A-7/JAN - Arwydd Cenarth - Dywedodd y Cyng. Nigel Williams ei fod wedi cael golwg arno ac nid yw wedi torri ond y gwynt sydd wedi plygu’r arwydd yn ôl a’i fod yn solid ac mae’n hapus na fyddai’n cwympo ond byddai angen JCB bach i godi’r arwydd ac ail goncritio neu i dynnu’r arwydd nôl. Dywedodd y Cyng. Nigel Williams o bosib gallai Gwilim neu Geraint Davies gael golwg arno. Cytunwyd y byddai’r Cyng. Richard James a Nigel Williams yn mynd i weld yr arwydd.

L. 10.C-7/JAN - Twll ger Blaenbowi - Dywedodd y Cyng. Helen Williams bod y twll yma wedi’i neud.

M. 10.E-7/JAN - Arwydd Sgwâr Capel Iwan - Dywedodd y Cadeirydd gallai cael gwybod am arwydd erbyn y cyfarfod nesaf. Cytunwyd mai’r geiriad byddai ‘Neuadd Capel Iwan Hall’. Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas bod angen iddo ‘fatsho’ beth sydd yno nawr. Gofynnodd y Cyng. Helen Williams os byddai angen un dwyochrog gan fod dwy heol yno.

7. GOHEBIAETH:

• Clwb Strôc Caerfyrddin - gofyn am gyfraniad - Dywedodd y Cyng. Richard James ei fod yn achos da a cytunodd y Cyng. Pat Thomas. Dywedodd y Cyng. Nigel Williams y dylwn ni genfogi achos gallai effeithio unrhywun. Cynnigodd y Cyng. Richard James £150 ac eiliwyd hyn gan y Cyng. Don Griffiths.

• Llythyr nawdd Eisteddfod Genedlaethol 2026 - Dywedodd y Cyng. Nigel Williams ei fod yn enfawr. Awgrymwyd aros tan byddai Hazel Evans yma gan fod hi’n fwy na thebyg bydd pwyllgor lleol.

• Precept - Cyng. Philip Gibbons mai’r cwestiwn yw cadw’r ffigwr yr un peth neu cynyddu’r ffigwr. Dywedodd y Cyng. Helen Williams ei fod yn dibynnu os ydym yn mynd i brynu’r toiledau. Cytunwyd i’w gadw yr un peth am nawr.

• Llythyr CFfI Capel Iwan - Cynnigodd Cyng. Philip Gibbons £200 ac eiliwyd hyn gan y Cyng. Pat Thomas.

8. CYNLLUNIO:

• PL/08725 - Hendy, Capel Iwan - Proposed earth banked nutrient store to comply with The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021 (Resubmission of previously refused application PL/07176) - Hendy Cenarth - Dywedodd y Cyng. Richard James ei fod wedi’i wrthod o’r blaen achos y coed ond bod y coed wedi cwympo adeg y storm.

9. MATERION ARIANNOL - Dywedodd y Clerc bod y taliadau canlynol wedi’u gwneud dros y mis diwethaf:

A. Cyflog y Clerc -

• Cyflog mis Ionawr

• ‘Expenses’ mis Ionawr 

B. Taliadau Mewn -

• Field Rents Guto

C. Taliadau Allan -

• Cyngor Sir ‘Lanternau’ 

• Clwb Strôc Caerfyrddin

• CFfI Capel Iwan 

10. MATERION ANGEN TRAFODAETH -

• Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod dŵr yn casglu ger Ardwyn gyda’r gwteri wedi blocio.

• Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas bod heol Cwm Cych ar gau eto oherwydd y coed. Dywedodd y Cyng. Pat Thomas mae’n debyg bydd hi’n costu £57,000 i glirio’r heol heibio i Lancych.

• Dywedodd y Cyng. Pat Thomas bod lein ffôn yn croesi’r ffordd ger Clwb ar yr heol i Gwm Morgan a bod pob car yn cael eu arallgyfeirio y ffordd hynny gan fod heol wedi cau yn Cwm Cych.

11. SYLWADAU CYNGHORWYR -

N. Anfonodd y Clerc gydymdeimlad at deulu’r Cyng. William Davies ac i deulu’r Cyng. Anthony John wedi eu colled diweddar.

12. CYFARFOD NESAF - Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Nos Iau y 6ed o Fawrth. Daeth y Cyfarfod i ben am 8.30yh.

____________________________________________________

Cenarth Community Council Meeting

Minutes of the meeting held at the Center, Capel Iwan on ddydd Mawrth, 4ydd o Chwefror 2025 at 7pm.

1. PRESENT: In the Chair - Cllr. Hywel Bowen. Councillors Pat Thomas, Richard James, Meurig Thomas, Don Griffiths, Nigel Williams, Cyng. Ken Howell, Helen Williams, Philip Gibbons, Jeff Kedward PCSO. Clerk - Manon Thomas.

2. APOLOGIES: Cllr.Hazel Evans, Leah Jones PCSO, William Davies, Anthony John.

3. DECLARATIONS OF INTEREST: None

4. POLICE:

• Jeff Kedward PCSO stated that he had some good news in that hopefully the work on the roof in NCE station is starting tomorrow so hopefully they will be back there soon, as he is based in Crymych at the moment.

• He also stated that there have been a lot of burglaries at the moment so if people leave keys in vehicles and doors unlocked it may be a good time to start thinking about it now. He stated that he had been up in Llanarth recently where there have been burglaries reported. He stated that all were preventable as long as things are locked. He stated that people are getting dropped off in a van and going around in gangs stealing what they can. He stated that the people who did the thefts in Llanarth were from Swansea. Cllr. Nigel Williams stated that this was very alarming and he added that there was a feature on S4C regarding building tools being stolen worth thousands of pounds. Cllr. Philip Gibbons asked what the situation would be if a dog bit a theif when trying to steal. Jeff Kedward PCSO stated that each case would be taken on its own merit and as long as the dog isn’t being used as a weapon then this wouldn’t be too much of an issue.

• Jeff Kedward PCSO stated that the police can put a mark on quad bikes for free if anyone has an interest. Cllrs Richard James and Meurig Thomas stated that they were interested.

5. MINUTES: Minutes for the January 2025 meeting were proposed by Cllr. Don Griffiths and Seconded by Cllr. Meurig Thomas.

6. MATTERS ARISING FOR MINUTES:

A. 6.B-1 / JUL - Defibrillator - Cllr Don Griffiths said that Capel Iwan and Penrherber need to be checked as they have been used. Cllr Meurig Thomas said it would be good if there was a note in the boxes saying to let the Clerk know if they have been used. Cllr Philip Gibbons said that it was his understanding that the Ambulance Service has the responsibility to check them but that they are too busy. It was agreed that the Clerk would check this.

B. 10.A-4/NOV - Penrheol Isaf Road to Derlwyn - Cllr. Richard James said that they have been but only done half a job. The Chairman said that water over the roads was also a problem. Cllr Don Griffiths said that there is now a new type of tarmac that can repair the holes themselves.

C. 10.A-1/JUN - Pothole on Hendy turning - No update.

D. 10.A-1/FEB - Water on Bryngolau turn - The Chairman stated that this was worse.

E. 10.B-9/MAY - Tarmac at back of the Hall - No update.

F. 10.E-9/MAY - Road from Cwm Morgan to Glyncoch - No update. Cllr Philip Gibbons said that the trees have fallen badly there too and the delivery drivers are not willing to come down that road anymore as we are too dangerous. The Chairman asked who was responsible for the trees. Cllr Ken Howell said that the farmers are responsible and if someone contacts the Council, they will contact the farmers.

G. 10.A-3/OCT - Water from Bwlchcaebrith to Blaendyffryn - No update. The Chairman stated that the Council have been discussing this for years.

H. 10.C-3/OCT - Path by the Hall - No update.

I. Cenarth Toilets - No Update. Cllr Philip Gibbons said that this is a bottomless pit and our risk of taking them over without knowing the true cost. Cllr Nigel Williams said that he was concerned as he got older if there were no toilets there it would be a problem especially if buses called there. The Chairman said that it is not certain if the toilets on the Ceredigion side have closed forever - possibly this is over the winter period.

J. 10.A-7/NOV - Coed Llwybr Godremamog - No update.

K. 10.A-7/JAN - Cenarth Sign - Cllr. Nigel Williams said that he has had a look at it and it has not broken but the wind has bent the sign back and that it is solid and he is happy that it would not fall but a small JCB would be needed to lift the sign and reconcrete or to pull the sign back. He suggested that possibly Gwilim or Geraint Davies could have a look at it. It was agreed that Cllr. Richard James and Nigel Williams would go to see the sign.

L. 10.C-7/JAN - Pothole near Blaenbowi - Cllr. Helen Williams said that this hole has been filled.

M. 10.E-7/JAN - Capel Iwan Square Sign - The Chairman said he could find out about a sign by the next meeting. It was agreed that the wording sould be ‘Neuadd Capel Iwan Hall'. Cllr Meurig Thomas said that it needs to match what is there now. Cllr. Helen Williams asked if a two-way signwould be needed as there are two roads there.

7. CORRESPONDENCE:

• Carmarthen Stroke Club - asking for a contribution -Cllr. Richard James said that it was a good case and Cllr Pat Thomas. agreed. Cllr Nigel Williams said that we should be careful because it could affect anyone. Cllr Richard James proposed £150 and this was seconded by Cllr. Don Griffiths.

• National Eisteddfod 2026 sponsorship letter -Cllr. Nigel Williams said that it was an important event. It was suggested to wait until Hazel Evans was here as there will more than likely be a local committee.

• Precept - Cllr. Philip Gibbons said that the question is whether to keep the figure the same or increase the figure. Cllr Helen Williams said that it depends if we are going to buy the toilets. It was agreed to keep it the same for now.

• Capel Iwan YFC Letter - Cllr. Philip Gibbons proposed £200 and this was seconded by Cllr. Pat Thomas.

8. PLANNING:

B. PL/08725 - Hendy, Capel Iwan - Proposed earth banked nutrient store to comply with The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021 (Resubmission of previously refused application PL/07176) - Hendy Cenarth - Cllr. Richard James stated that this had been rejected in the past because of the trees but he stated that the trees had fallen during the storm.

9. FINANCIAL MATTERS

The Clerk stated that the following payments were made over the past month:

A. Clerk Wage -

• February wage 

• February Expenses 

B. Payments In -

• Field Rents Jones 

C. Payments Out -

• Carmarthenshire Council Lanterns

• Carmarthen Stroke Club

10. MATTERS NEEDING DISCUSSION -

• Cllr Don Griffiths said that water is collecting near Ardwyn where the gutters are blocked.

• Cllr Meurig Thomas said that Cwm Cych road is closed again because of the trees. Cllr Pat Thomas said it will apparently cost £57,000 to clear the road past Lancych.

• Cllr Pat Thomas said that a telephone line crosses the road near Clwb on the road to Cwm Morgan and that all cars are diverted that way as a road is closed in Cwm Cych.

11. COUNCILLORS’ COMMENTS -

A. The Chairman sent his condolonces to the family of Cllr William Davies and to the family of Cllr. Anthony John following their recent losses.

12. NEXT MEETING - The next meeting will be held on the Thursday, 6th of March. The meeting was closed at 8.30pm

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy