![]() |
![]() |
||
This is a free Spanglefish 1 website. | ||
CYFARFOD RHAGFYR 2022Cyfarfod Cyngor Cymuned Cenarth Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn y Ganolfan, Capel Iwan Ddydd Iau, y 1af o Ragfyr 2022 am 7.00 y.h. 1. PRESENNOL: Yn y Gadair - Cyng. Nigel Williams, Cynghorwyr: y Cyng. Hazel Evans, y Cyng. Ken Howell, Anthony John, Hywel Bowen, Don Griffiths, Philip Gibbons, Pat Thomas, Meurig Thomas, Richard James, a Jeff Kedward PCSO. Clerc - Manon Thomas. 2. YMDDIHEURIADAU: Guto Jones, William Davies, a Jeff Kedward PCSO 3. DATGANIADAU DIDDORDEB: Dim 4. HEDDLU: Dim 5. COFNODION: Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Misol Tachwedd 2022. Cynnig: Cyng. Don Griffiths Eilio: Cyng. Meurig Thomas 6. MATERION YN CODI O’R COFNODION: A. 6.B-1/JUL21 - Diffibrylydd - Datganodd y Cyng. Hazel Evans ei bod wedi holi’r Cyngor Sir amdano ar y 20/11. B. 6.A-3/MAR - CCTV - Dywedodd y Cyng. Don Griffiths ei fod wedi cyfarfod gyda ComLink a diolchodd y Cadeirydd iddo am ei amser. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod angen un gwifren arall yna bydd popeth yn ei le. Cytunwyd pe tai angen anfon hysbysiad tremasu i un o’r Cyngor y dylid ei anfon i’r Cyng. Meurig Thomas gan ei fod yn byw’n agos. Gofynnwyd os mai aelod o Bwyllgor y Neuadd dylid cael gwybod a dywedodd y Cyng. Pat Thomas y byddai’n holi’r Pwyllgor. Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons bod y broses o setio i fyny yn gallu bod yn gymhleth a gellid cael sawl galwad ffȏn y dydd ond gall fod yn fuddiol wrth benodi pa ffordd dylai’r cameráu bwyntio. C. 11.8-1/JUL21 - Kiosk Capel Iwan - Dim Diweddariad. D. 10.A-3/MAR - Plac o Ddiolch y Winjen - Dim Diweddariad. E. 11.A-3/MAR - Ffens tu ȏl i’r Festri - Dywedodd y Clerc bod y ffens wedi gorffen bellach a cytunwyd y byddai’r Clerc yn talu Mr Davies. F. 11.A-7/APR - Dŵr wrth ochr heol Bwlchydomen i Bwlchcaebrith - Dim Diweddariad. G. 11.B-7/APR - Twll heol Glannant a Chlos Glas - Dywedodd y Cyng. Richard James fod twll yno o hyd a’i fod wedi bod yno ers blynyddoedd. H. 10.A-12/MAY - Coeden rhwng y Ganolfan a Maes Gwyn - Dywedodd y Cyng. Richard James pan oedd yn torri’r clawdd ar y ffîn, bod y perchennog wedi dweud mai ef sydd berchen ar y goeden. Cytunwydd y byddai’r Cyng. Richard James a’r Cyng. Don Griffiths yn cyfarfod i drafod y mater gyda’r perchennog. I. 10.C-12/MAY - Heol Cornel Blaenpant - Dim Diweddariad. J. 10.D-12/MAY - Heol Heibio Blaengwyddon - Dim Diweddariad. K. 10.E-12/MAY - Heol ar dro Bryngolau - Dim Diweddariad. L. 10.F-12/MAY - Heol rhwng Tŷ Cerrig a Brohedydd - Dim Diweddariad. M. 10.B-7/JUL Maes Picnic Cenarth - Cytunwydd y dylid aros tan fis Ionawr cyn cychwyn gyda’r ‘pressure washer’. N. 10.C-7JUL - Mynediad Cadair Olwyn Cenarth - Dywedodd y Cadeirydd bod y llwybr wedi’i drasio bellach O. 10.D-7/JUL - Tirlithriad Cwm Morgan - Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons nad yw’r tro’n edrych mor wael bellach ond ei fod yn anwastad i yrrwyr beiciau modur. Dywedodd y dylid rhoi sylw iddo os oes rhywun yn gwithio yn yr ardal. P. 10.C-6/OCT - Briciau Gellidywyll - Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyng. Hazel Evans gan iddi gyfarfod gyda’r Cyngor Sir a bod y broblem wedi’i lanw bellach. Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyngor Sir hefyd am wneud y swydd mor gyflym. Q. 10.A-4/NOV - Heol Penrheol Isaf i Derlwyn - Dywedodd y Cyng. Hazel Evans ei fod hi’n debygol nad yw’r heol digon gwael i’r Cyngor Sir wneud unrhywbeth amdano oherwydd cyllid prin y Cyngor Sir. R. 10.B-4/NOV - Gwifrau Ffôn Penrheol Isaf i Derlwyn - Dim Diweddariad. S. 10.C-4/NOV - Erydiad Heol Penrheol Isaf i Derlwyn - Dim Diweddariad. T. 10.D-4/NOV - Coeden Pont Cenarth - Clerc wedi cysylltu gyda CNC. U. 10.E-4/NOV - Blwch Post Tŷ Cerrig - Cytunwyd y dylai’r Clerc gwneud ymholiad gyda’r Swyddfa yn Horeb. Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons bod y broblem yn wael iawn a’i fod ef a’i wraig wedi colli apwyntiadau ysbyty o ganlyniad i’r streiciau post. V. ‘Manhole’ tu allan i’r Fynwent - Dywedodd y Cyng. Don Griffiths ei fod wedi bod allan yn clirio’r broblem ond bydd hi ddim yn hir cyn i’r broblem ddod i’r golwg eto gan fod cymaint o adeiladu wedi digwydd yn y pentref, does dim lle i’r dŵr ffo fynd. 7. GOHEBIAETH: A. Llythyr 10/11/12 - Cyngor Sir am newid terfynnau cyflymder a fydd yn dod i rym ar 17/9/2023. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans na fydd yr heddlu yn medru monitro’r holl newidiadau. Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons ei fod hi’n ‘ridiculous’ bod angen newid yr holl arwyddion. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans mai’r bwriad yw annog pobl i ddefnyddio bysiau a beiciau. Dywedodd y Cyng. Pat Thomas y bydd beiciau yn goddiweddyd ceir. Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas y dylid defnyddio synnwyr cyffredin. B. E-bost wrth Circuit yn datgan bod angen gwirio os yw’r Diffibrilwyr yn iawn. 8. CYNLLUNIO: A. PL/04943 - Full Planning Permission - One Planet Development on existing Smallholding - Cwm Lancych, Boncath, SA37 0LH - Under Consultation. Dywedodd y Cyng. Ken Howell eu bod wedi ceisio gwneud hyn yn Llandeilo a’i fod wedi bod yn fethiant o ganlyniad i’r tir gwlyb. Dwedodd bod rhaid gwneud elw o £5,800 ar ôl 10 mlynedd. Dywedwyd mai’r bwriad yw creu lle cynaliadwy. Dywedodd y Cyng. Don Griffths bod tir gwlyb iawn yng Nghwm Lancych. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans ei bod wedi darllen yr ymgynghoriad o 93 tudalen a’r bwriad yw byw oddi wrth y tir a gwerthu’r nwyddau organig a bydd y cartref yn un gwair gyda tho byw. Dywedodd y Cyng. Ken Howell mai’r bwriad yw bod y tŷ yn cael ei osod ar y tir ond nid yw’n rhan o’r tir ac wedi 5 mlynedd, os nad yw’n gweithio, gallant ei newid. 9. MATERION ARIANNOL - Dywedodd y Clerc bod y taliadau canlynol wedi’u gwneud dros y mis diwethaf: A. Cyflog y Clerc - • Cyflog mis Rhagfyr • ’Expenses’ mis Rhagfyr • Cyflog hanner blwyddyn swyddfa adref B. Taliadau Mewn - • Field Rents Guto Jones • Field Rents Meribah C. Taliadau Allan - • Anfoneb SO Garden am dorri porfa ger y cofgolofn yng Nghenarth • Anfoneb Simon Davies am godi’r ffens • Chairman’s Allowance - Cyfriflen Banc diweddaraf Hydref 27- Tachwedd 26 10. MATERION ANGEN TRAFODAETH - A. Dywedodd y Cyng. Richard James bod twll mawr i gael yn yr heol ger Blaenpant. 11. SYLWADAU CYNGHORWYR - A. Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons ei fod yn credu bod cerrig wedi’u gosod yn yr afon Cych er mwyn atal llif. B. Anfonodd y Cyng. Hywel Bowen gydymdeimlad i Janet o Gapel Iwan wedi marwolaeth ei gŵr a cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn anfon llythyr o gydymdeimlad. C. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn bleser cael bod yn Gadeirydd i Gyngor lle mae pawb yn cydweithio a helpu. Diolchodd hefyd i Llinos o Trywydd am gyfieithu. Dymunodd Nadolig Llawen i bawb. 12. CYFARFOD NESAF - Cynhelir y cyfarfod nesaf ar y 12fed o Ionawr. Daeth y Cyfarfod i ben am 8yh.
DECEMBER 2022 MEETINGCenarth Community Council MeetingMinutes of the meeting held at the Center, Capel Iwan on Thursday, 1st of December 2022 at 7.00 pm. 1. PRESENT: In the Chair - Cllr. Nigel Williams, Councillors: Cllr. Hazel Evans, Cllr. Ken Howell, Anthony John, Hywel Bowen, Don Griffiths, Philip Gibbons, Pat Thomas, Meurig Thomas, Richard James, and Jeff Kedward PCSO. Clerk - Manon Thomas. 2. APOLOGIES: Guto Jones, Anthony John and Jeff Kedward PCSO. 3. DECLARATIONS OF INTEREST: None 4. POLICE: None 5. MINUTES: Minutes for the November 2022 Meeting were proposed by Cllr. Don Griffiths and Seconded by Cllr. Meurig Thomas 6. MATTERS ARISING FOR MINUTES: A. 6.B-1 / JUL - Defibrillator - Cllr. Hazel Evans declared that she had asked the County Council about it on 20/11. B. 6.A-3/MAR - CCTV - Cllr. Don Griffiths said that he had met with ComLink and the Chairman thanked him for his time. Cllr. Don Griffiths said that one more wire is needed then everything will be in place. It was agreed that if a trespass notice needed to be sent to one of the Council it should be sent to Cllr. Meurig Thomas as he lives nearby. It was asked if a member of the Hall Committee should be informed and Cllr. Pat Thomas said that he would question the Committee. Cllr. Philip Gibbons said that the process of setting up can be complicated and there could be several phone calls a day but it can be beneficial when appointing which way the cameras should point. C. 11.8-1/JUL21 - Capel Iwan Kiosk - No update. D. 10.A-3/MAR - Winjen Thank You Plaque - No update. E. 11.A-3 / MAR - Fencing Behind the Vestry - The Clerk said that the fence was now finished and it was agreed that the Clerk would pay Mr Davies. F. Water by the side of the road between Bwlchydomen and Bwlchcaebrith - No Update. G. 11.B-7/APR - Hole in the road between Glannant and Clos Glas - Cllr. Richard James said that the hole is still there and that it has been there for years. H. 10.A-12/MAY - Tree between the Center and Maes Gwyn - Cllr. Richard James said when he was cutting the hedge on the boundary, that the owner said that he owns the tree. It was agreed that Cllr. Richard James and Cllr. Don Griffiths meets to discuss the matter with the owner. I. 10.C-12/MAY - Road on Blaenpant corner - No Update. J. 10.D-12/MAY - Road past Blaengwyddon - No Update . K. 10.E-12/MAY - Road on Bryngolau corner - No Update. L. 10..F-12/MAY - Road between Tŷ Cerrig and Brohedydd - No Update. M. 10.B-7/JUL Cenarth Picnic Area - It was agreed that we should wait until January before starting with the pressure washer. N. 10.C-7JUL - Cenarth Wheelchair Access - The Chair said that the route had now been trashed. O. 10.D-7/JUL - Cwm Morgan Landslide - Cllr. Philip Gibbons said that the bend doesn't look so bad anymore but it is uneven for motorbike drivers. He said that it should be addressed if someone is working in the area. P. 10.C-6/OCT - Gellidywyll Bricks - The Chairman thanked Cllr. Hazel Evans as she met with the County Council and that the problem has now been resolved. The Chairman also thanked the County Council for doing the job so quickly. Q. 10.A-4/NOV - Heol Penrheol Isaf i Derlwyn - Cllr. Hazel Evans said that the road is likely nod bad enough for the County Council to spend their limited budget on it. R. 10.B-4/NOV - Roadside Errosion to Derlwyn - No Update. S. 10.C-4/NOV - Cenarth Tree - The Clerk stated that she had contacted NRW. T. 10.D-4/NOV - Ty Cerrig Post Box - It was agreed that the Clerk should make an inquiry with the Office in Horeb. Cllr Philip Gibbons said that the problem is very bad and that he and his wife have missed hospital appointments as a result of the postal strikes. U. 10.E-4/NOV - Manhole outside Cemetery- Cllr. Don Griffiths said that he has been out clearing up the problem but it won't be long before the problem comes to light again as so much construction has taken place in the village, there is nowhere for the runoff to go. 7. CORRESPONDENCE: A. Letter 10/11/12 - County Council about changing speed limits which will come into force on 17/9/2023. Cllr said. Hazel Evans that the police will not be able to monitor all the changes. Cllr Philip Gibbons said that it is 'ridiculous' that all the signs need to be changed. Cllr Hazel Evans said that the intention is to encourage people to use buses and bicycles. Cllr said. Pat Thomas that bicycles will overtake cars. Cllr said. Meurig Thomas that common sense should be used. B. Email from Circuit stating that it is necessary to check if the Defibrillators are OK. 8. PLANNING: A. PL/04943 - Full Planning Permission - One Planet Development on existing Smallholding - Cwm Lancych, Boncath, SA37 0LH - Under Consultation. Cllr Ken Howell said that they tried to do this in Llandeilo and that it was a failure as a result of the wet ground. He said that a profit of £5,800 must be made after 10 years. It was said that the intention is to create a sustainable place. Cllr said. Don Griffths that there is very wet ground in Cwm Lancych. Cllr Hazel Evans said that she has read the 93 page consultation and the intention is to live off the land and sell the organic goods and the home will be one thatched with a living roof. Cllr Ken Howell said that the intention is for the house to be placed on the land but it is not part of the land and after 5 years, if it doesn't work, they can change it. 9. FINANCIAL MATTERS The Clerk stated that the following payments were made over the past month: A. Clerk wage - • October wage • October ’Expenses’ • 1/2 Year Home Office Fee B. Payments in - • Field Rents Guto Jones • Field Rents Meribah C. Taliadau Allan - • Invoice SO Garden for cutting grass in Cenarth • Simon Davies Invoice for fence • Chairman’s Allowance Bank Statement October 27- November 26 10. MATTERS NEEDING DISCUSSION - A. Cllr Richard James stated that there is a large hole by Blaenpant. 11. COUNCILLORS’ COMMENTS - A. Cllr Philip Gibbons said that he believed that stones had been placed in the river Cych to stop the flow. B. Cllr Hywel Bowen sent condolences to Janet from Capel Iwan after the death of her husband and it was agreed that the Chairman would send a letter of condolence. C. The Chairman said it was a pleasure to be Chairman of a Council where everyone works together and helps. He also thanked Llinos o Trywydd for translating. He wished everyone a Merry Christmas. 12. NEXT MEETING - The next meeting will be held on the 12th of January. The Meeting ended at 8pm | ![]() |
|
![]() |