Cyfarfod Cyngor Cymuned Cenarth
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn y Ganolfan, Capel Iwan Ddydd Iau, y 5d o Ragfyr am 7y.h.
1. PRESENNOL: Yn y Gadair - Cyng. Hywel Bowen Cynghorwyr: Cyng. Hazel Evans, Pat Thomas, Helen Williams, Richard James, Meurig Thomas, William Davies, Jeff Kedward PCSO, Cyng. Ken Howell . Clerc - Manon Thomas,
2. YMDDIHEURIADAU:, Leah Jones PCSO, Don Griffiths, Nigel Williams, Anthony John, Philip Gibbons.
3. DATGANIADAU DIDDORDEB: - Dim
4. HEDDLU: -
- Dywedodd Jeff Kedward PCSO bod Swyddfa’r Heddlu CNE ar gau achos llif dŵr a’u bod yn gweithio o Landysul a Crymych ar hyn o bryd. Dywedodd y byddai’n fwy na thebyg mis Mawrth cyn byddan nhw nôl mewn.
- Dywedodd bod llawer o goed lawr ar hyn o bryd achos y tywydd gwael.
5. COFNODION: Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Misol Tachwedd 2024. Cynnig: Cyng. Meurig Thomas Eilio: Cyng. Pat Thomas
6. MATERION YN CODI O’R COFNODION:
6.B-1/JUL21 - Diffibrylydd - Dim Diweddariad.
10.A-4/NOV - Heol Penrheol Isaf i Derlwyn - Dim Diweddariad.
10.A-1/JUN - Twll ar dro Hendy, Cenarth - Dim Diweddariad.
10.A-1/FEB - Dŵr ar dro Bryngolau - Dim Diweddariad.
10.B-9/MAY - Tarmacio cefn y neuadd - Dim Diweddariad.
10.E-9/MAY - Heol o Gwm Morgan i Glyncoch - Dim diweddariad.
10.A-3/OCT - Dŵr Bwlchcaebrith i Blaendyffryn - Dim diweddariad - dywedodd y Cyng. Hazel Evans bod hwn o ganlyniad i ‘natural runoff’ o fferm Blaendyffryn.
10.B-3/OCT - Twll rhwng Bronygarn a Hendy - Dywedodd y Cadeirydd bod hwn wedi’i wneud.
10.C-3/OCT - Llwybr heibio’r neuadd - Dywedodd y Cyng. Richard James bod hwn wedi craco ond gwell aros a gwneud y tarmac yr un pryd. Dywedodd y Cyng. Ken Howell os byddwn yn ceibo a symud tir bydd angen caniatâd cynllunio. Cytunwyd dylid rhoi’r cais mewn cgap. Dywedodd y Cyng. Helen Williams bydd angen cynllun a mesur faint bydd angen a byddwn yn ailywmeld â’r mater yn y flwyddyn newydd.
7.D-7/NOV - Toiledau Cenarth - Cytunwyd y dylid cynnig cyfarfod gyda’r Cyngor Sir ar Ddydd Iau 19eg o Ragfyr. Os na fyddwn ni’n prynu’r adeilad, bydd y Cyngor Sir yn eu cau yn gyfan gwbwl.
10.A-7/NOV - Coed Llwybr Godremamog - Dim diweddariad
7. GOHEBIAETH:
‘Asset Transfer’ Toiledau Cenarth - Wedi trafod uchod.
Mark Fenn ‘Men in Sheds’ - Llythyr Saesneg yn gofyn os byddai diddordeb gyda’r Cyngor i roi arwydd symudadwy i fyny yn sgwâr y Pentref yn dangos y ffordd i’r neuadd, tra bod y llythyr Cymraeg yn gofyn os byddai diddoreb gyda’r Cyngor i roi arwydd parhaol i fyny. Y Clerc i gysylltu i ofyn pa un mae nhw eisiau rhoi i fyny gan fod y ddau lythyr yn dweud pethau gwahanol. Dywedodd y Cyng Hazel Evans byddai angen cysylltu gydag adran ‘Highways’ y Cyngor Sir os am arwydd parhaol tra byddai ddim angen am arwydd symudadwy. Dywedodd y Cyng. Helen Williams bod y Cyngor Cymuned wedi trafod rhoi arwydd parhaol i fyny yn barod a’i bod yn cytuno bod angen un ar y sgwâr ac un yn y fynedfa. Dywedodd y Cyng Hazel Evans byddai angen trafod hyn gyda Dylan Davies, perchennog yr ysgol i weld ble fyddai’n bosib rhoi arwydd i fyny gan mai dim ond hawl tramwy sydd gan y Cyngor Cymuned. Dywedodd y Cadeirydd byddai’n cysylltu gyda Dylan i gael caniatâd.
Ambiwlans Awyr Cymru - Llythyr yn diolch am y cyfraniad.
Ben Graham - Llythyr am ddefnyddio’r cae chwarae - Cytunodd y Cynghorwyr ei fod yn beth da bod y cae yn cael ei ddefnyddio a’i fod yn cynnig rhoi gwybod o flaen llaw os am drefnu digwyddiad er mwyn osgoi ‘clashes’ gyda phwyllgorau a chlybiau’r ardal. Cyn belled â bo’r oedolion sy’n gwirfoddoli yn derbyn yr hyfforddiant ‘safeguarding’ addas a gwiriadau ‘DBS’ a bo yswiriant addas gennynt o ran anafiadau.
8. CYNLLUNIO:
PL/08450 - Full planning permission - Land adjecent to Mount Pleasant, Capel Iwan - Proposals are for two new semi detached dwellings - wedi cael planning fan hyn o’r blaen - dim gwrthwynebiad.
PL/08527 - Full planning permission - Argoed, Heol y Gelli, Cenarth - Above ground cylindrical slurry store to comply with The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021 - dim gwrthwynebiad
9. MATERION ARIANNOL - Dywedodd y Clerc bod y taliadau canlynol wedi’u gwneud dros y mis diwethaf:
A. Cyflog y Clerc -
Cyflog mis Rhagfyr
‘Expenses’ mis Rhagfyr
Taliad 1/2 Blwyddyn Swyddfa Adref
B. Taliadau Mewn
C. Taliadau Allan -
Anfoneb Trywydd
Jenny Wheeler
WH Bowen
10. MATERION ANGEN TRAFODAETH - Dim
11. SYLWADAU CYNGHORWYR -
- Coeden nadolig yn edrych yn dda tu allan i Festri’r Capel. Dywedwyd bod angen gwirio o ble mae’r trydan yn dod a phwy sy’n gyfrifol am dalu am hyn.
- Diolch i Dragon Storage i ddiolch am y goeden a’i fod yn werth gweld!
- Dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i Philip Gibbons a’r gorau i deulu’r Cyng. Anthony John a’r Cyng. William Davies.
12. CYFARFOD NESAF - Cynhelir y cyfarfod nesaf ar NOS FAWRTH y 7fed o Ionawr. Daeth y Cyfarfod i ben am 8yh.
___________________________________________
Cenarth Community Council Meeting
Minutes of the meeting held at the Center, Capel Iwan on Thursday, 5th of December 2024 at 7pm.
1. PRESENT: In the Chair - Cllr. Hywel Bowen Councillors: Cllr. Hazel Evans, Pat Thomas, Helen Williams, Richard James, Meurig Thomas, William Davies, Jeff Kedward PCSO, Cllr. Ken Howell. Clerk - Manon Thomas,
2. APOLOGIES: Leah Jones PCSO, Anthony John, Philip Gibbons, Don Griffiths, Nigel Williams.
3. DECLARATIONS OF INTEREST: None
4. POLICE:
- Jeff Kedward PCSO said that the NCE Police Office is closed due to a water leak and that they are currently working from Llandysul and Crymych. He said it would probably be March before they come back in.
- He said there are many trees down at the moment due to the bad weather.
5. MINUTES: Minutes for the November 2024 meeting were proposed by Cllr. Meurig Thomas and Seconded by Cllr. Pat Thomas.
6. MATTERS ARISING FOR MINUTES:
6.B-1 / JUL - Defibrillator - No update.
10.A-4/NOV - Penrheol Isaf Road to Derlwyn - No update.
10.A-1/JUN - Pothole on Hendy turning - No update.
10.A-11/JAN - Panteg Salt Box - No update.
10.A-1/FEB - Water on Bryngolau turn - No update.
10.B-9/MAY - Tarmac at back of the Hall - No update.
10.E-9/MAY - Road from Cwm Morgan to Glyncoch - No Update.
10.A-3/OCT - Water from Bwlchcaebrith to Blaendyffryn - No update - Cllr. Hazel Evans stated that this is as a result of natural runoff from Blaendyffryn farm.
10.B-3/OCT - Pothole between Bronygarn and Hendy - The Chairman stated that this has been done.
10.C-3/OCT - Path by the Hall - Cllr Richard James said that this is cracked but it would be better to wait and do the tarmac at the same time. Cllr Ken Howell said if we dug up and moved land we will need planning permission. It was agreed that the application should be put in asap. Cllr Helen Williams said we will need a plan and measure how much will be needed and we will revisit the issue in the new year.
Cenarth Toilets - It was agreed that Councillors should attend a meeting on the 19th of December. It was stated that if the Council don’t purchase the toilets, then the County Council will close them all together.
7. CORRESPONDENCE:
Cenarth Toilets 'Asset Transfer' - Discussed above.
Mark Fenn 'Men in Sheds' - English letter asking if the Council would be interested in putting up a movable sign in the Village square showing the way to the hall, while the Welsh letter asks if there would be interest in putting up a permanent sign. The Clerk to contact to ask which one they want to give up as the two letters say different things. Cllr Hazel Evans said it would be necessary to contact the County Council's 'Highways' department if a permanent sign was required while there would be no need for a removable sign. Cllr Helen Williams said that the Community Council has already discussed putting up a permanent sign and that she agrees that one is needed on the square and one at the entrance. Cllr Hazel Evans said it would be necessary to discuss this with Dylan Davies, the owner of the school to see where it would be possible to put up a sign as the Community Council only has a right of way. The Chairman said he would contact Dylan to get permission.
Cymru Air Ambulance - Letter thanking you for the contribution.
Ben Graham - Letter about the use of the playing field - The Councilors agreed that it is a good thing that the field is being used and that he proposes to inform in advance if an event is to be organized in order to avoid 'clashes' with committees and clubs in the area. As long as the adults who volunteer receive the appropriate 'safeguarding' training and 'DBS' checks and have suitable insurance in terms of injuries.
8. PLANNING:
PL/08450 - Full planning permission - Land adjecent to Mount Pleasant, Capel Iwan - Proposals are for two new semi detached dwellings - no objection.
PL/08527 - Full planning permission - Argoed, Heol y Gelli, Cenarth - Above ground cylindrical slurry store to comply with The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021 - no objection.
9. FINANCIAL MATTERS
The Clerk stated that the following payments were made over the past month:
A. Clerk Wage -
December wage
December Expenses
1/2 Year Home Office Salary
B. Payments In
C. Payments Out -
Trywydd Invoice
Jenny Wheeler
WH Bowen
10. MATTERS NEEDING DISCUSSION - None
11. COUNCILLORS’ COMMENTS -
- The Christmas tree is looking good outside the Chapel Vestry. It was said that we should check where the electricity is coming from and who is responsible for paying for this.
- Thanks to Dragon Storage for the tree and that it is worth seeing!
- The Chairman wished Philip Gibbons a speedy recovery and the best to the family of Cllr. Anthony John and Cllr. William Davies.
12. NEXT MEETING - The next meeting will be held on the TUESDAY 7th of January. The meeting was closed at 8pm.