![]() |
![]() |
||
This is a free Spanglefish 1 website. | ||
CYFARFOD CHWEFROR 2022Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn y Ganolfan, Capel Iwan Ddydd Iau, y 3ydd o Chwefror 2022 am 7.00 y.h. PRESENNOL: Yn y Gadair - Cyng. Meurig Thomas, Cynghorwyr: Hazel Evans, William Davies, Anthony John, Don Griffiths, Nigel Williams, Richard James. Clerc - Manon Thomas. YMDDIHEURIADAU: Hywel Bowen, Guto Jones a Jeff Kedward PCSO MATERION YN CODI O’R COFNODION: A. 6.B-1/JUL - Diffibrylydd Dywedodd y Clerc ei bod y 4 Defibrylydd wedi cyrraed a’u bod gyda hi heno. Dywedodd bod Alan Jones wedi mynd i fyny i Ogledd Cymru i’w casglu. Dywedodd Alan Jones nad oes angen ‘wireo’ y Diffibrylwyr i fyny i’r gyflenwad trydan gan bod batri ynddynt ond bod angen gofalu amdanynt adeg tywydd oer a rhoi blanced drostynt i’w hatal rhag rhewi. Dywedodd Alan Jones hefyd bod angen cofrestru’r 4 Diffibrylydd gyda’r ‘Circuit’ sy’n sicrhau bod unigolion o’r Ambiwlans yn dod o amgylch i gynnal a chadw’r Diffibrylwyr a bod cofnod cyhoeddus i gael o ble mae Diffibrylwyr i’w cael. Dywedodd y Clerc ei bod hi’n hapus i’w cofrestru unwaith bydd y Diffibrylwyr i fyny yn eu lleoliadau. Gofynnodd y Clerc os oedd pawb dal yn hapus gyda ble dylai’r Diffibrylwyr i’w cael eu rhoi i fyny. Dywedodd y Clerc eu bod yn ddigon hawdd i’w gosod ar y wal a bod ‘screws’ wedi dod gyda’r Diffibrylwyr. Dywedodd y Clerc hefyd bod côd i gael er mwyn cael mynediad i’r bocsys a dylai pob aelod o’r Cyngor wneud cofnod ohono gan fydd y wybodaeth yma ddim yn gyhoeddus. Gofynnodd y Clerc pwy ddylai fod yn gyfrifol am roi’r Diffibrylwyr i fyny. Cytunwyd y byddai’r Cynghorwyr William Davies, Don Griffiths a Nigel Williams yn rhoi’r Defibs i fyny a byddai’r Clerc yn trefnu eu cofrestru ar y ‘circuit’. Cytunwyd hefydd y byddai’r Clerc yn anfon y cȏd mynediad i bob aelod o’r Cyngor. Cytunwyd y byddai angen 4 arwydd i’w rhoi i fyny er mwyn hysybysu’r gymuned o’u bodolaeth a byddai’r Clerc yn archebu rhain erbyn y cyfarfod nesaf. B. 7.2-1/JUL - Hysbysfwrdd safle bws Cenarth - Dywedodd y Cyng. Nigel Williams ei fod wedi rhoi’r hysbysfwrdd i fyny a cytunwyd y byddai ef yn cadw un allwedd a’r Clerc yn cadw’r llall. C. 11.8-1/JUL - Kiosk Capel Iwan - Dywedodd y Clerc bod y Cyng. Hywel Bywen wedi dweud wrthi mewn ebost ei fod wedi siarad gyda Nia Stokes ac ei bod hi wedi cysylltu gyda’r person sy’n gyfrifol a fydd mewn cysylltiad cyn hir gyda diweddariad. D. 11.A-7/OCT - Sgwâr Pentre Isaf - Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod dau bwll wedi’u llanw wythnos diwethaf. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans ei bod wedi siarad gyda Tony Williams am hyn a bod angen i’r tyllau fod dyfnder penodol cyn gall y Cyngor ddod allan i’w llanw. D. 11.B-7/OCT - Hill View a Pen Banc, Capel Iwan Dywedodd y Cyng. William Davies bod ychydig o’r cloddiau wedi’u torri. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod y cloddiau wedi’u torri ddoe. Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas bod y cloddiau yn tueddi bod yn waeth yn yr haf. E. 11.A-4/NOV - Cloddiau Mount a Sgwâr Capel Iwan -Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod y planhigion wedi’u torri ar y sgwâr. F. 11.B-2/DEC - Giât Cefn y Neuadd - Dywedodd y Cyng. Richard Jame ei fod wedi mesur y bwlch yn barod. Gofynnodd y Cyng. Don Griffiths beth ddylid gwneud o ran cloi’r giât a cytunwyd y dylid cael ‘padlock’ gyda chôd a fydd yn cael ei ddosbarthu rhwng aelodau’r cyngor, cyngor y neuadd ac aelodau CFfI Capel Iwan ac unigolion y gymuned sy’n defnyddio’r neuadd. G. 11.A-13/JAN - Tyllau ochr yr heol rhwng Llain a Blaengwyddon Dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n gofyn i Tony Williams am hyn. 7. GOHEBIAETH: A. Ebost 19/01/2022 wrth Emma Davies, Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cadarnau mai cyfanswm Praesept y Cyngor ar gyfer 2022/2023 yw £3,000. B. Ebost 25/01/2022 wrth Cadeirydd y Cyngor Sir yn gofyn am nawdd. Cytunwyd y byddwn yn gadael hwn am y tro a chyfrannu rhywbryd eto. 8. CYNLLUNIO: A. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans bod Dragon Storage wedi cael caniatâd cynllunio. B. Dywedodd y Cyng. Nigel Williams ei fod yn pryderi am ddatblygiadau yn ardal Cenarth heb ganiatâd cynllunio a dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n edrych i mewn i hyn. 9. MATERION ARIANNOL 10. MATERION ANGEN TRAFODAETH - Dim 11. SYLWADAU’R CYNGHORWYR A. Dywedwyd bod heol Cwm Cych wedi ailagor. Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas bod coed wedi torri ar yr ochr dde. B. Dywedodd y Cyng. Nigel Williams bod angen bod yn wyliadwrus o ddynion yn tremasu yn yr ardal gyda lampau. 12. CYFARFOD NESAF Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Iau, 3ydd o Fawrth am 7yh yn y Ganolfan, Capel Iwan. Daeth y Cyfarfod i ben am 8y.h
Minutes of the meeting held at the Center, Capel Iwan on Thursday, 3rd February 2022 at 7.00 pm PRESENT: In the Chair - Cllr. Meurig Thomas, Councilors: Hazel Evans, William Davies, Anthony John, Don Griffiths, Nigel Williams, Richard James. Clerk - Manon Thomas. APOLOGIES: Hywel Bowen, Guto Jones and Jeff Kedward PCSO DECLARATIONS OF INTEREST: None POLICE: None MINUTES: To confirm the Minutes of the Monthly Meeting of January 2021. Proposed: Cllr. Don Griffiths Seconded: Cllr. Anthony John
7. CORRESPONDENCE:
8. PLANNING:
9. FINANCIAL MATTERS 10. DISCUSSION MATTERS - None 11. COUNCILOR'S COMMENTS
12. NEXT MEETING The next meeting will be held on Thursday, 3rd March at 7pm at Y Ganolfan, Capel Iwan. The Meeting closed at 8pm | ![]() |
|
![]() |