SpanglefishCenarth Community Council | sitemap | log in
This is a free Spanglefish 1 website.

CYFARFOD MEHEFIN 2023

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn y Ganolfan, Capel Iwan Ddydd Iau, y 1af o Fehefin 2023 am 7.00y.h.

1. PRESENNOL: Yn y Gadair - Cyng. Guto Jones, Cynghorwyr: Don Griffiths, Hywel Bowen, Pat Thomas, William Davies, Philip Gibbons, Meurig Thomas. Clerc - Manon Thomas.

2. YMDDIHEURIADAU: Cyng. Richard James, Anthony John, Cyng. Ken Howell, Cyng. Hazel Evans a Jeff Kedward PCSO.

3. DATGANIADAU DIDDORDEB:

A. Datganodd y Cyng. Guto Jones bod ganddo ddiddordeb yn mater 10.A-3/MAR o’r Agenda.

4. HEDDLU: Dim

5. COFNODION: Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Misol Mai 2023. Cynnig: Cyng. Nigel Williams Eilio: Cyng. Don Griffiths

6. MATERION YN CODI O’R COFNODION:

A. 6.B-1/JUL21 - Diffibrylydd - Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons bod yr arwyddion yng Nghwm Morgan wedi newid i fod yn llai, wedi’u sillafu’n gwyir ac yn bwrpasol. Dywedodd ei fod o blaid cael arwyddion yno. Datganodd y Clerc bod e-bost wedi’i dderbyn ynghylch darparu hyfforddiant defnyddio Diffibrylwyr yn yr ardal. Cytunwyd y dylid gweld os gellid cael hyfforddiant am ddim.

B. 11.8-1/JUL21 - Kiosk Capel Iwan -Dim Diweddariad.

C. 10.A-3/MAR - Plac o Ddiolch y Winjen - Dywedodd y Cyng. Hywel Bowen y byddai’n rhoi’r arwydd i fyny yn y neuadd yfory.

D. 11.B-7/APR - Twll heol Glannant a Chlos Glas - Dim Diweddariad.

E. 10.A-12/MAY - Coeden rhwng y Ganolfan a Maes Gwyn - Clerc yn aros i glywed nôl wrth y cwmni trydan. Clerc i gwrso.

F. 10.C-12/MAY - Heol Cornel Blaenpant - Dim Diweddariad.

G. 10.D-12/MAY - Heol Heibio Blaengwyddon - Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas bod y Cyngor Sir wedi delio gyda hwn i raddau.

H. 10.E-12/MAY - Heol ar dro Bryngolau - Dim Diweddariad.

I. 10.F-12/MAY - Heol rhwng Tŷ Cerrig a Brohedydd - Dim Diweddariad.

J. 10.A-4/NOV - Heol Penrheol Isaf i Derlwyn - Dim Diweddariad..

K. 10.B-2/FEB - Biniau Ailgylchu - Dywedodd y Cyng. William Davies nad oedd wedi derbyn bocs ailgylchu gwydr o hyd.

L. 10.F-6/APR - Heol Cilwaunydd Fawr - Dywedodd y Cyng. Pat Thomas bod y Cyngor Sir wedi delio gyda hwn i raddau.

7. GOHEBIAETH:

A. Ebost 13/5/23 - Chris Fraser am hyfforddiant Deffibrylydd

8. CYNLLUNIO: Dim

9. MATERION ARIANNOL - Dywedodd y Clerc bod y taliadau canlynol wedi’u gwneud dros y mis diwethaf:

A. Cyflog y Clerc

B. Taliadau Mewn 

C. Taliadau Allan 

10. MATERION ANGEN TRAFODAETH -

A. Dywedodd y CYng. Meurig Thomas bod twll gwael ar y tro ger Hendy.

B. Dywedodd y Cyng. Pat Thomas bod 2 goeden wedi cwympo ar draws y llwybr yng Ngodremamog ger Panteg. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod rhai wedi’u gadael ar lawr oherwydd y gyrrwyr beiciau modur. Dywedodd y Cyng. William Davies mai Ken Cilwaunydd wnaeth eu torri ddiwethaf a bod angen rhoi gwybod iddo ef.

C. Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas bod yr heol i Penrherber yn wael iawn.

D. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod yr heol ger sgwâr Ardywn i Bentre Isaf yn wael hefyd.

11. SYLWADAU CYNGHORWYR - Dim

12. CYFARFOD NESAF - Cynhelir y cyfarfod nesaf ar y 6ed o Orffennaf. Daeth y Cyfarfod i ben am 7:20yh

 

 

JUNE 2023 MEETING

Minutes of the meeting held at the Center, Capel Iwan on Thursday, 11th May 2022 at 7.25pm.

1. PRESENT: In the Chair - Cllr. Guto Jones, Councillors: Don Griffiths, Hywel Bowen, Pat Thomas, William Davies, Philip Gibbons, Meurig Thomas. Clerk - Manon Thomas.

2. APOLOGIES: Cllr. Richard James, Anthony John, Cllr. Ken Howell, Cllr. Hazel Evans a Jeff Kedward PCSO.

3. DECLARATIONS OF INTEREST:

A. Cllr Guto Jones noted that he has an interest in matter 10.A-3/MAR of the Agenda.

4. POLICE: None

5. MINUTES: Minutes for the May 2023 Meeting were proposed by Cllr. Nigel Williams and Seconded by Cllr. Don Griffiths.

6. MATTERS ARISING FOR MINUTES:

A. 6.B-1 / JUL - Defibrillator - Cllr said. Philip Gibbons that the signs in Cwm Morgan have changed to be smaller, spelled correctly and on purpose. He said he was in favor of having signs there. The Clerk declared that an email had been received regarding the provision of training in the use of Defibrillators in the area. It was agreed that it should be seen if free training could be obtained.

B. 11.8-1/JUL21 - Capel Iwan Kiosk - No Update.

C. 10.A-3/MAR - Plaque of Thanks to the Winjen - Cllr Hywel Bowen stated that he would be putting up in the Hall tomorrow.

D. 11.B-7/APR - Pothole at Glannant and Clos Glas - No Update.

E. 10.A-12/MAY - Tree between the Center and Maes Gwyn - Clerk waiting to hear back from the electricity company.

F. 10.C-12/MAY - Turning on Blaenpant Road - No Update.

G. 10.D-12/MAY - Blaengwyddon Road - Cllr Meurig Thomas stated that the County Council had improved this section somewhat.

H. 10.E-12/MAY - Turning on Bryngolau road -No Update.

I. 10.F-12/MAY - Road between Tŷ Cerrig and Brohedydd - No Update.

J. 10.A-4/NOV - Penrheol Isaf Road to Derlwyn - No Update.

K. 10.B-2/FEB - Recycling Bins - Said Cllr. William Davies who still had not received a glass recycling box.

L. 10.F-6/APR - Cilwaunydd Fawr Road - Cllr Pat Thomas stated that the County Council had improved this section somewhat.

7. CORRESPONDENCE:

A. Email 13/5/23 - Chris Fraser regarding Defibrilator training.

8. PLANNING: None

9. FINANCIAL MATTERS

The Clerk stated that the following payments were made over the past month:

A. Clerk wage 

• June wage 

• June ’Expenses’ 

B. Payments In

C. Payments Out 

10. MATTERS NEEDING DISCUSSION

M. Cllr. Meurig Thomas said that there was a bad pothole on the bend near Hendy.

N. Cllr Pat Thomas said that 2 trees have fallen across the path in Godremamog near Panteg. Cllr Don Griffiths said that some were left on the ground because of the motorbike drivers. Cllr William Davies said that Ken Cilwaunydd cut them last and that he needs to be informed.

O. Cllr Meurig Thomas said that the road to Penrherber is very bad.

P. Cllr Don Griffiths said that the road near Ardywn square to Pentre Isaf is also bad.

11. COUNCILLORS’ COMMENTS -

B. Cllr sent. Nigel Williams congratulations to the Clerk on her recent engagement.

C. The new Chairman thanked Nigel Williams for his good work as Chairman over the past year.

12. NEXT MEETING - The next meeting will be held on the 6ed o Orffennaf. The Meeting ended at 7:20pm

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy