SpanglefishCenarth Community Council | sitemap | log in
This is a free Spanglefish 1 website.

CYFARFOD MAWRWTH 2022

PRESENNOL: Yn y Gadair - Cyng. Meurig Thomas, Cynghorwyr: Hazel Evans, William Davies, Don Griffiths, Nigel Williams, Richard James, Jeff Kedward PCSO. Clerc - Manon Thomas.

YMDDIHEURIADAU: Hywel Bowen, Guto Jones ac Anthony John.


DATGANIADAU DIDDORDEB: Dim
 

HEDDLU: 

  1. Dymunodd y Cadeirydd yn dda i Jeff Kedward PCSO wedi ei anaf. Dywedodd Jeff Kedward PCSO na fyddai ar y llinell flaen am gyfnod a does neb i gymryd ei lle gan fod Brad Davies PCSO yn hyfforddi i fod yn heddwas.
  2. Dywedodd Jeff Kedward PCSO nad oedd unrhywbeth i’w adrodd.
  3. Dywedodd y Cyng. Nigel Williams ei fod yn bryderus am olew yn cael ei ddwyn yn yr ardal yn enwedig gyda phrisiau olew yn codi. Dywedodd bod Cerbyd ‘suspicious’ wedi i weld yn ardal Adpar. Dywedodd Jeff Kedward PCSO mai’r cyngor gorau yw i guddio’r tanc o’r golwg. Dywedodd nad oes pwynt rhoi clo ar y tanc gan ei fod hi’n bosib drilio trwyddynt. Dywedodd y dylid reportio unrhyw ymddygiad rhyfedd. 

COFNODION: Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Misol Mawrth

            Cynnig: Cyng. Nigel Williams         Eilio: Cyng. Don Griffiths 

MATERION YN CODI O’R COFNODION:

6.B-1/JUL - Diffibrylydd

Diolchodd y Clerk i’r Cynghorwyr a helpodd i roi’r Diffibrylwyr i fyny yn yr ardal. Datganodd y Cyng. Nigel Williams nad oedd        modd rhoi’r Diffibrylydd i fyny yng Nghwm Morgan a byddai’n well siarad gyda’r Cyng. Guto Jones am y trefniadau.            Datganodd y Clerc y byddai’n cofrestru’r Diffibrylwyr gyda’r ‘circuit’. Dywedodd y Clerc hefyd ei bod wedi anfon côd            mynediad y Defibrylwyr i’r Cynghorwyr ond bod angen cadw hwn yn gyfrinachol. Dywedodd y Cyng. Nigel Williams bod y        Diffirbylwyr sydd yn y safleoedd bws yn llai amlwg na’r gweddill. Datganodd y Clerc fodd bynnag ei bod wedi cael arwyddion        i dynnu sylw atynt. Cytunwyd y byddai’r Cyng. William Davies yn rhoi’r arwyddion i fyny. Trafodwyd hefyd bod angen gofalu        bod y Diffibrylwyr ddim yn cael difrod o ganlyniad i dywydd oer a cynnigodd y Cyng. Richard James y dylid rhoi blanced o        amgylch diffibrylydd Penrherber yn enwedig a byddai’n trefnu hyn. 

Dywedodd y Cyng. Hazel Evans ei bod wedi ceisio cael grant o £500 ar gyfer y Diffibrylwyr ond gan ein bod wedi prynu’r            Diffibrylwyr yn barod, roedd y Cyngor Sir wedi gwrthod. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans fodd bynnag y byddai’n gallu cael grant i’r Cyngor am unrhywbeth arall a fyddai o fudd i’r gymuned megis system CCTV neu golau o amgylch y neuadd.            Dywedodd y Cyng. William Davies bod system CCTV yn arfer bod gyda’r neuadd yn yr atic a dylai’r Clerc ofyn i’r cyn-Glerc        Ken Davies am hyn. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans bod Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn yn talu trwydded gwarchod data        ar gyfer system CCTV a larwm. Cytunwyd y byddai’r Clerc yn gwneud ymholiadau gyda Dyfed Alarms ac FAS erbyn y            cyfarfod nesaf. 

11.8-1/JUL - Kiosk Capel Iwan - Dim Diweddiariad.

11.A-7/OCT - Sgwâr Pentre Isaf - 

Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod y Cyngor Sir wedi llanw’r tyllau yma.

11.B-2/DEC - Giât Cefn y Neuadd - 

Dywedodd y Cyng. Richard James ei fod yn aros am bris ar gyfer galfaneiddio’r giât.

7. GOHEBIAETH:

  1. Llythyr o ddiolch 7/2/22 wrth Stephanie Jones - Macmillan Cancer Supprot am y cyfraniad o £200.
  2. Llythyr wrth Gadeirydd Eisteddfod Llangollen yn gofyn am gyfraniad ariannol. Cytunwyd na fyddai’r Cyngor yn cyfrannu am nawr.

8. CYNLLUNIO: Dim 

9. MATERION ARIANNOL

10. MATERION ANGEN TRAFODAETH - 

  • A. Dywedodd y Cyng. William Davies bod angen anfon llythyr o ddiolch am yr arian a dderbyniwyd wrth y Winjen. Cytunwyd y byddai’r Clerc yn trefnu hyn. Dywedodd y Cyng. William Davies hefyd y dylid rhoi cyfraniad o’r swm i Gyngor y Neuadd a cytunwyd y dylid rhoi cyfraniad. Awgrymodd y Cyng. Richard James y dylid rhoi plac o ddiolch am y Winjen i fyny yn y Neuadd. 

    Cynnig - Cyng. William Davies     Eilio - Cyng. Don Griffiths

  •  B.  Dywedodd y Cyng. William Davies ei fod wedi siarad gyda Chyngor y Neuadd am y ‘Broadband’ a’u bod wedi cytuno parhau gyda’r gwasanaeth. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans bod BT fod gosod ‘Fibre Optic’ ym mhobman. Datganwyd y dylai Gyngor y Neuadd ofyn am brisiau rhatach gyda ResQ a ‘Fibre Optic’. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n bosib cael grant i dalu am rhain.

11. SYLWADAU’R CYNGHORWYR 

  1. Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas ei fod wedi bod yn siarad gyda Jenny Wheeler a bod y ‘ranch fencing’ rhwng ei chartref hi a festri’r capel, tu ȏl i’r toiledau yn pydru ac mai cyfrifoldeb y Cyngor yw hi i drwsio hyn gan mai’r Cyngor adeiladodd y ffens. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths y byddai’n mynd i weld beth sydd angen gwneud cyn y cyfarfod nesaf. 
  2. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans nad oes modd rhoi ‘chevron’ ar ‘junction’ heol a dyma oedd un problem pan gafodd y gyrrwr beic modur ei ladd rhai misoedd yn ȏl
  3. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans bod ambell berson o’r gymuned wedi bod mewn cysylltiad o ran yr etholiad. Dywedodd bod y bwlch nomineiddio’n agor ar yr 21ain o Fawrth a’n cau tua’r 1af o Ebrill.
  4. Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas bod y cyn-Glerc Ken Davies wedi cael gwahoddiad gan yr High Sheriff Sarah Edwards i Barti        Gardd y Frenhines ym mis Mai a’i fod yn diolch yn fawr am hyn. 

12. CYFARFOD NESAF

Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Iau, 7fed o Ebrill am 7yh yn y Ganolfan, Capel Iwan.

Daeth y Cyfarfod i ben am 8y.h

 

MARCH 2022 MEETING

PRESENT: In the Chair - Cllr. Meurig Thomas, Councilors: Hazel Evans, William Davies, Don Griffiths, Nigel Williams, Richard James, Jeff Kedward PCSO. Clerk - Manon Thomas.

APOLOGIES: Hywel Bowen, Guto Jones and Anthony John.


DECLARATIONS OF INTEREST: None


POLICE:

  • The Chair wished Jeff Kedward PCSO well after his injury. PCSO Jeff Kedward said he would not be on the front line for a while and no one was to replace him as Brad Davies PCSO was training to be a police officer.
  • PCSO Jeff Kedward said there was nothing to report.
  • Cllr. Nigel Williams that he was concerned about oil being stolen in the area especially with rising oil prices. He said a 'suspicious' Vehicle had been seen in the Adpar area. PCSO Jeff Kedward said the best advice is to hide the tank from view. He said that there is no point in locking the tank as it is possible to drill through them. He said any strange behavior should be reported.

MINUTES: To confirm the Minutes of the March Monthly Meeting

         Proposed: Cllr. Nigel Williams Seconded: Cllr. Don Griffiths

MATTERS ARISING ON THE MINUTES:

  • 6.B-1 / JUL - Defibrillator - The Clerk thanked the Councilors who helped to put the Defibrillators up in the area. Cllr. Nigel Williams said that the Defibrillator could not be put up in the Morgan Valley and it would be best to speak to Cllr. Guto Jones for the arrangements. The Clerk stated that he would register the Defibrillators with the 'circuit'. The Clerk also stated that she had sent the Defibrillators access code to Councilors but this needed to be kept confidential. Cllr. Nigel Williams that the Defibrillators at the bus stops are less obvious than the rest. However, the Clerk stated that she had received signage to highlight them. It was agreed that Cllr. William Davies gives up the signs. It was also discussed that care needed to be taken to ensure that the Defibrillators were not damaged as a result of cold weather and Cllr. Richard James said that a blanket should be put around the Penrherber defibrillator in particular and he would arrange this. Cllr. Hazel Evans said she had tried to get a grant of £ 500 for the Defibrillators but as we had already purchased the Defibrillators, the County Council had refused. Cllr. Hazel Evans, however, would be able to obtain a grant to the Council for anything else that would benefit the community such as a CCTV system or lighting around the hall. Cllr. William Davies stated that the hall in the attic used to have a CCTV system and the Clerk should ask the former Clerk Ken Davies about this. Cllr. Hazel Evans that Newcastle Emlyn Town Council pay a data protection license for a CCTV and alarm system. It was agreed that the Clerk would make inquiries with Dyfed Alarms and FAS by the next meeting.
  • 11.8-1 / JUL - Capel Iwan Kiosk - No Update.
  • 11.A-7 / OCT - Lower Pentre Square - Cllr. Don Griffiths reported that the County Council had filled in these holes.
  • 11.B-2 / DEC - Hall Gate - Cllr. Richard James that he was waiting for a price for galvanizing the gate.

7. CORRESPONDENCE:

  • Letter of thanks 7/2/22 from Stephanie Jones - Macmillan Cancer Supprot for the donation of £ 200.
  • Letter from the Chair of the Llangollen Eisteddfod requesting a financial contribution. It was agreed that the Council would not contribute for now.

8. PLANNING: None

9. FINANCIAL MATTERS

10. MATTERS NEEDING DISCUSSION -

  • A. Cllr. William Davies that a letter of thanks be sent for the money received from the windmill. It was agreed that the Clerk would arrange this. Cllr. William Davies also suggested that a contribution of the sum be made to the Hall Council and it was agreed that a contribution would be made. Cllr. Richard James that a plaque of thanks for the Windmill be placed up in the Hall.

    Proposed - Cllr. William Davies Seconded - Cllr. Don Griffiths

  •  B. Cllr. Mr. William Davies stated that he had spoken to the Hall Council about the 'Broadband' and that they had agreed to continue with the service. Cllr. Hazel Evans said that BT was installing 'Fiber Optic' everywhere. It was stated that Hall Council should ask for cheaper prices with ResQ and 'Fiber Optic'. Cllr. Hazel Evans said that it would be possible to get a grant to pay for these.

11. COUNCILOR'S COMMENTS

  • Cllr. Meurig Thomas said he had been talking to Jenny Wheeler and that the ranch fencing between her home and the chapel vestry, behind the toilets was rotting and that it is the Council's responsibility to repair this The fence was built by a council. Cllr. Don Griffiths would go and see what needs to be done before the next meeting.
  • Cllr. Hazel Evans says that it is not possible to put a 'chevron' on a junction road and this was one problem when the motorcycle driver was killed some months ago
  • Cllr. Hazel Evans that a few people from the community had been in contact with the election. He said the nomination gap opened on March 21st and closed around April 1st.
  • Cllr. Meurig Thomas reported that former Clerk Ken Davies had been invited by the High Sheriff Sarah Edwards to the Queen's Garden Party in May and to thank her for this.

12. NEXT MEETING

The next meeting will be held on Thursday, 7th April at 7pm at Y Ganolfan, Capel Iwan.

The Meeting closed at 8pm

Click for MapWikanikoWork from Home
sitemap | cookie policy | privacy policy