![]() |
![]() |
||
This is a free Spanglefish 1 website. | ||
Cyfarfod Chwefror 2020Cynheliwyd Cyfarfod mis Chwefror 2020 yn y ganolfan, Capel Iwan ar y 6ed o Chwefror 2020. Yn bresennol roedd Samuel Jones, Anthony John, Richard James, William Davies, Guto Jones, Don Griffiths, Meurig Thomas, Hazel Evans, Jeff Lewis, Nigel Williams, Jeff Kedward PCSO a Brad Davies PCSO. Emyr Jones o'r Frigad Dan. Clerk - Ken Davies Ymddiheuriadau wrth Hywel Bowen. Heddlu - Dywedodd Jeff Kedward PCSO bod yna newid cyflymder traffig yng Nghenarth. Cadarnhawyd Cofnodion Cyfarfod Ionawr 2020. Cynnigwyd gan Guto Jones ac eiliwyd gan Jeff Lewis. Trafodwyd Diffibrilwyr gyda Emyr Jones o'r frigad dan a oedd yn costu £900 am y Diffib a £350 am y bocs yr un. Emyr fyddai'n gosod y batri ynddynt ac maent i fod para tua 10 mlynedd. Cytunwyd y byddai'r cynghorwyr yn trafod y mater yn ystod y cyfarfodydd nesaf. Trafodwyd arwyddion maes parcio Cenarth a oedd yn berchen i'r cyngor a cytunwyd y dylid prynu arwydd yn dweud 'dim parcio dros nos'. Materion Ariannol - Cytunwyd ar y canlynol:
Diwedd y cyfarfod
| ![]() |
|
![]() |