SpanglefishCenarth Community Council | sitemap | log in
This is a free Spanglefish 1 website.

Cyfarfod Mawrth 2020

Cynheliwyd y cyfarfod yn Y Ganolfan, Capel Iwan ar y 5ed o Fawrth 2020.

Aelodau Presennol - Samuel Jones, William Davies, Jeff Lewis, Don Griffiths, Hazel Evans, Jeff Kedward PCSO, Brad Davies PCSO, Nigel Williams. Clerk - Ken Davies.

Ymddiheuriadau - Hywel Bowen, Guto Jones, Anthony John, Richard James, Meurig Thomas

Nigel Williams cafwyd ei benodi fel y Cadeirydd o ganlyniad i absennoldeb y Cadierydd a'r Is-adeirydd.

Materion yr Heddlu - 

  • Datganwyd bod ceir yn blocio Pentre Isaf. Datganwyd mai Daniel Kempton sy'n gyfrifol am yr orsaf heddlu a byddai'r Clerk yn gofyn iddo i wirio'r fynedfa.
  • Datganwyd y byddai cronfa ar agor o'r 1af o Ebrill ar gyfer yr 'Highways' a dylai'r Clerk ofyn am arian ar gyfer tyllau sydd angen llanw.
  • Datganwyd bod y palmant yn wael ger Swyddfa Bost Cenarth.

Materion y Codi -

  • Diffibrylydd - trafodwyd y dylid dod o hyd i rywle yn Penrherber, y Ganolfan, Tanglwst a Chwm Morgan ar eu cyfer. Datganodd Samuel Jones bod 'black box' i gael ger Bwl y Foel a allai fod yn ddefnyddiol
  • Trafodwyd 'Taclo Tipio Cymru' a fyddai'n rhoi dirwy o hyd at £50,000 wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru i atal y broblem.

Taliadau Allan - 

  • Expenses y Clerk
  • Citezens Advice Beureau Ceredigion - cynnigwyd gan Jeff Lewis ac eiliwyd gan William Davies
  • Taliad i William Davies am glirio llwybrau'r ardal - cynnigwyd gan Don Griffiths ac eiliwyd gan Jeff Lewis
  • Taliad Un Llais Cymru - cynnigwyd gan Jeff Lewis ac Eiliwyd gan Samuel Jones
  • Taliad i Richard James am dorri cloddiau a phorfa - cynnigwyd gan William Davies ac Eiliwyd gan Samuel Jones
  • Taliad i Ann James am y wefan - Cynnigwyd gan Samuel Jones ac eiliwyd gan Don Griffiths.

Diwedd y cyfarfod.

Click for MapWikanikoWork from Home
sitemap | cookie policy | privacy policy