SpanglefishCenarth Community Council | sitemap | log in
This is a free Spanglefish 1 website.

CYFARFOD IONAWR 2022

1. PRESENNOL: Yn y Gadair - Cyng. Meurig Thomas, Cynghorwyr: Hazel Evans, William Davies, Anthony John Don Griffiths, Nigel Williams, Hywel Bowen a Richard James. Clerc - Manon Thomas.

2. YMDDIHEURIADAU: Dim

3. DATGANIADAU DIDDORDEB: Dim

4. HEDDLU:

  • A. Datganodd Jeff Kedward PCSO bod yna newid wedi bod yn ddiweddar gydag Heddlu Castellnewydd Emlyn ac ar hyn o bryd does dim PCSO yno ac ers i Jeff Kedward PCSO gael damwain, y mae yn awr wedi’i leoli yn Swyddfa Heddlu Aberteifi yn gwneud gwaith desg. Dywedodd y gall wneud ymweliadau ond ni fydd y rhain mwyach mewn gwisg heddlu.
  • Dywedodd hefyd bod y ‘Community Speed Watch’ wedi bod allan yng Nghenarth unwaith.
  • Dywedodd bod Brad Davies PCSO wedi cymhwyso fel heddwas a’i fod yn cael hyfforddiant am gyfnod o 30 wythnos cyn mynd allan i Aberteifi.
  • Datganodd nad oedd unrhyw newyddion o Gastellnewydd Emlyn na Chenarth.
  • Ychwanegodd y Cyng. Hazel Evans bod yr heol o Gwm Cych i Abercych yn mynd i fod ar gai am gyfnod o fis.

5. COFNODION: Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Misol Tachwedd 2021. Cynnig: Cyng. Anthony John Eilio: Cyng. Don Griffiths

6. MATERION YN CODI O’R COFNODION:

  • 6.B-1/JUL - Diffibrylydd - Dywedodd y Clerc ei bod wedi bod yn siarad yn gyson gydag Alan Jones o Gyngor CNE a bod yna oedi o hyd gan fod y cwmni’n aros am yr archebion i ddod mewn ond byddan nhw’n cael eu hanfon atom cyn gynted â phosib. Dywedodd y Clerc hefyd bod y Defib Store wedi bod mewn cysylltiad yn gofyn am daliad cyn ‘delivery’ ac felly mae’r siec bellach wedi’i anfon atant.
  • 7.2-1/JUL - Hysbysfwrdd safle bws Cenarth - Dywedodd y Clerc bod y ffram wedi cyrraedd a’i fod yn barod i’w roi i fyny yn safle bws Cenarth. Y Cyng William Davies i drefnu ei roi i fyny.
  • 11.8-1/JUL - Kiosk Capel Iwan -Dywedodd y Cyng. Hywel Bowen nad oedd unrhyw ddiweddariad.
  • 11.A-7/OCT - Sgwâr Pentre Isaf - Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod yna dyllau yno o hyd.
  • 11.A-4/NOV - Cloddiau Mount a Sgwâr Capel Iwan -dim newid.
  • 11.B-2/DEC - Giât Cefn y Neuadd - Dywedodd y Cyng. Don Griffiths mai’r Cyngor sydd berchen y giât. Dywedodd y Cyng. William Davies na fydd problem cael cadarnhâd Cyngor y Neuadd i godi giât. Cytunwyd y byddai’r Cyng. Richard James yn creu giât a fyddai’n cael ei roi ar wal y Neuadd a’n medru cael ei gloi i atal cerbydau. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths nad oes unrhywbeth yno ar hyn o bryd i atal pobl rhag dwyn y meinciau o’r cae.

7. GOHEBIAETH:

  • A. Ebost allan i Macmillan Cancer Support Carmarthen yn gofyn am gyfeiriad i’w anfon ac ebost yn ôl wrth Sue Reece ar 2/12/2021.
  • Ebyst rhwng y Clerc a Sue Scholes o’r Defib Stor yn gofyn am daliad ar 14/12/2021.
  • Ebost 17/12/2021 wrth adran gynllunio’r Cyngor am Gais PL/03233.
  • Ebost 20/12/2021 wrth Emma Davies, Cyfrifydd gyda’r Cyngor Sir yn datgan bydd taliad praesept yn cael ei dalu i gyfrif Cyngor Cymuned Cenarth ar 24/12/2021.
  • Ebost 22/12/2021 wrth Emma Davies, Cyfrifydd gyda’r Cyngor Sir yn gofyn i ni drafod taliad Praesept 2022/2023 a’i hateb erbyn 31ain o Ionawr 2022. Cytunwyd ar ffigwr Praesept o am eleni.
  • Ebost 13/12/2021 wrth Amanda Bebb gyda Gwybodaeth Etholiadol 2022.
  • Ebost 14/12/2021 wrth y Cyng. Guto Jones yn dweud bod taliad blynyddol Windjen Blaen Bowi i’w gael ei dalu mewn i gyfrif y Cyngor.
  • Ebost 15/12/2021 wrth Clarke Telecom am y ‘Proposed Radio Base Station Installation at Land at Pengwernganol, Penrherber’.
  • Ebost 23/12/2021 wrth y Society of Local Council Clerks yn gofyn am daliad aelodaeth blynyddol

8. CYNLLUNIO:

  • A. PL/03233 - Extension to rear of existing dwelling to allow a lounge with upper bedroom - Quarry Cottage, Capel Iwan, SA38 9LY - Dyddiad Gorffen Ymghynghori - 7/1/2022. Dim Gwrthwynebiad.

9. MATERION ARIANNOL

Dywedodd y Clerc bod y taliadau canlynol wedi’u gwneud dros y mis diwethaf:

  • Cyflog ac Expenses y Clerc
  • Taliadau Mewn -
    • Taliad Praesept y Cyngor Sir
    • Taliad Windjen Blaen Bowi Ltd 
  • Taliadau Allan -
    • Taliad i Jenny Wheeler am arddio
    • Taliad i Macmillan Cancer Support Carmarthen
    • Taliad am ddefnydd y Neuadd
    • Taliad Aelodaeth y SLCC

10. MATERION ANGEN TRAFODAETH

  • Cinio Nadolig y Cyngor - cytunwyd y byddwn yn trefnu cinio yn hwyrach yn y flwyddyn o ganlyniad i COVID-19.
  • Taliad Praesept 2022/2023 yn unol gydag ebost 7.E uchod - cafwyd trafodaeth am beth ddylai’r Cyngor ofyn am fel taliad. Praesept ar gyfer 2022/2023 a cytunwyd yn unfrydol y dylwn ofyn am yr un swm â llynedd.
  • Cytundeb y Clerc - Darllenwyd gan y Cynghorwyr ac arwyddwyd gan y Cadeirydd.

11. SYLWADAU’R CYNGHORWYR

  • A. Gofynnodd y Cyng. Hywel Bowen beth oedd hanes llanw’r tyllau rhwng Llain a Blaengwyddon. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans bod Tony Williams o’r Cyngor Sir wedi trefnu anfon ‘hot box’ llawn tarr poeth i lanw’r tyllau ac mai’r ardal yma sydd i fod derbyn y llwyth nesaf.

12. CYFARFOD NESAF

Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Iau, 3ydd o Chwefror am 7yh yn y Ganolfan, Capel Iwan.

Daeth y Cyfarfod i ben am 7:55pm

 


JANUARY 2022 MEETING

1. PRESENT: In the Chair - Cllr. Meurig Thomas, Councilors: Hazel Evans, William Davies, Anthony John Don Griffiths, Nigel Williams, Hywel Bowen and Richard James. Clerk - Manon Thomas.

2. APOLOGIES: None

3. DECLARATIONS OF INTEREST: None

4. POLICE:

  • A. PCSO Jeff Kedward stated that there had been a recent change with Newcastle Emlyn Police and there is currently no PCSO and since Jeff Kedward PCSO had an accident, he is now based at the Cardigan Police Office carrying out desk work. He said he can make visits but these will no longer be in police uniform.
  • He also said that the 'Community Speed ​​Watch' had been out in Cenarth once.
  • He said that Brad Davies PCSO had qualified as a police officer and had been training for 30 weeks before heading out to Cardigan.
  • He stated that there was no news from Newcastle Emlyn or Cenarth.
  • Cllr. Hazel Evans said that the road from Cwm Cych to Abercych was going to be closed for a month.

5. MINUTES:

To confirm the Minutes of December 2021 Monthly Meeting. Proposed: Cllr. Anthony John Seconded: Cllr. Don Griffiths

6. MATTERS ARISING FROM MINUTES:

  • 6.B-1 / JUL - Defibrillator - The Clerk stated that she had been in regular contact with Alan Jones of CNE Council and that there were still delays as the company was waiting for the orders to come in but they will be sent to us as soon as possible. The Clerk also stated that the Defib Store had been in contact requesting payment before 'delivery' and therefore the check had now been sent to them.
  • 7.2-1 / JUL - Cenarth bus stop notice board - The Clerk reported that the frame has arrived and is ready to be erected at Cenarth bus stop. Cllr William Davies to arrange putting it up.
  • 11.8-1 / JUL - Capel Iwan Kiosk - Cllr. Hywel Bowen said there was no update.
  • 11.A-7 / OCT - Pentre Isaf Square - Cllr. Don Griffiths said there are still holes there.
  • 11.A-4 / NOV - Capel Iwan Mount and Square Hedges -no change
  • 11.B-2 / DEC - Hall Gate - Cllr. Don Griffiths that the gate is owned by the Council. Cllr. William Davies stated that there would be no problem from the Hall Council point of view. Confirmation to erect a gate. It was agreed that Cllr. Richard James would create a gate that would be placed on the wall of the Hall and could be locked to stop vehicles. Cllr. Don Griffiths said that there is nothing there at present to prevent people stealing the benches from the field.

7. CORRESPONDENCE:

  • A. Email out to Macmillan Cancer Support Carmarthen requesting an address to send and email back to Sue Reece on 2/12/2021.
  • Emails between Clerk and Sue Scholes of the Defib Store requesting payment on 14/12/2021.
  • Email 17/12/2021 from the Council's Planning Application section PL / 03233.
  • Email 20/12/2021 to Emma Davies, Accountant with the County Council stating that precept payment will be paid into Cenarth Community Council account on 24/12/2021. Email 22/12/2021 to Emma Davies, Accountant with the County Council asking us to discuss and respond to the 2022/2023 Precept payment by 31st January 2022. This year's precept figure has been agreed.
  • Email 13/12/2021 from Amanda Bebb with Election Information 2022.
  • Email 14/12/2021 to Cllr. Guto Jones says BlaenBowi Windmill annual payment is to be paid into the Council's account.
  • Email 15/12/2021 from Clarke Telecom about the Proposed Radio Base Station Installation at Land at Pengwernganol, Penrherber '.
  • Email 23/12/2021 from the Society of Local Council Clerks requesting an annual subscription

8. PLANNING:

  • A. PL / 03233 - Extension to existing dwelling to allow lounge with upper bedroom - Quarry Cottage, Capel Iwan, SA38 9LY - Consultation End Date - 7/1/2022. No Objection.

9. FINANCIAL MATTERS

The Clerk stated that the following payments had been made over the past month:

  • Clerk's Salary and Expenses
  • Payments In -
    • County Council Precept Payment Blaen Bowi Windmill
  • Payments Out -
    • Payment to Jenny Wheeler for gardening
    • Payment to Macmillan Cancer Support Carmarthen
    • Payment for Hall use
    • SLCC Membership Payment

10. MATTERNS NEEDING DISCUSSION

  • Council Christmas Lunch - it was agreed that as a result of COVID-19 we will arrange lunch later in the year.
  • Precept Payment 2022/2023 by email 7.E above - there was a discussion about what the Council should ask for as payment. Precept for 2022/2023 and it was unanimously agreed that we should ask for the same amount as last year.
  • Clerk's Employment Contract- Councilors read and signed by the Chairman.

11. COUNCILOR'S COMMENTS

  • A. Cllr. Hywel Bowen asked for an update regarding the holes around Blaengwyddon. Cllr. Hazel Evans stated that Tony Williams of the County Council had arranged to send a hot box full of hot to fill the holes and that this area was supposed to receive the next shipment.

12. NEXT MEETING

The next meeting will be held on Thursday, 3rd of February at 7pm at the Center, Capel Iwan.

The Meeting concluded at 7:55 pm


 

Click for MapWikanikoWork from Home
sitemap | cookie policy | privacy policy