SpanglefishCenarth Community Council | sitemap | log in
This is a free Spanglefish 1 website.

Cyfarfod Cyngor Cymuned Cenarth

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn y Ganolfan, Capel Iwan Ddydd Iau, y 7fed o Dachwedd am 7y.h.

1. PRESENNOL: Yn y Gadair - Cyng. Hywel Bowen Cynghorwyr: Pat Thomas, Don Griffiths, Nigel Williams, Helen Williams, Richard James, Meurig Thomas. Clerc - Manon Thomas,

2. YMDDIHEURIADAU:, Leah Jones PCSO, Cyng. Ken Howell, Jeff Kedward PCSO, Anthony John, Philip Gibbons, Cyng. Hazel Evans, William Davies.

3. DATGANIADAU DIDDORDEB: - Dim

4. HEDDLU: - Dim

5. COFNODION: Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Misol Hydref 2024. Cynnig: Cyng. Don Griffiths Eilio: Cyng. Pat Thomas

6. MATERION YN CODI O’R COFNODION:

A. 6.B-1/JUL21 - Diffibrylydd - Cytunwyd y byddai Don Griffiths a Nigel Williams yn eu gwirio yn y pythefnos nesaf.

B. 10.A-4/NOV - Heol Penrheol Isaf i Derlwyn - Dim Diweddariad. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths ei fod wedi gweld bois y Cyngor Sir ddoe yn llanw twll gyda rhaw, damsgyn ar ei ben, tynnu llun a gyrru i ffwrdd. Dywedodd ei fod yn ‘jôc’. Dywedodd y Cyng. Helen Williams ei fod yn wastraff arian gan bydd angen eu gwneud eto ymhen rhai misoedd.

C. 10.A-1/JUN - Twll ar dro Hendy, Cenarth - Dywedodd y Cadeirydd bod un o’r rhain wedi’i sorto.

D. 10.A-11/JAN - Bocs Halen Panteg - Dywedodd y Cyng. Pat Thomas bod hwn wedi’i neud.

E. 10.A-1/FEB - Dŵr ar dro Bryngolau - Dim Diweddariad

F. 10.B-9/MAY - Tarmacio cefn y neuadd - Dim Diweddariad.

G. 10.E-9/MAY - Heol o Gwm Morgan i Glyncoch - Dim diweddariad.

H. 10.A-3/OCT - Dŵr Bwlchcaebrith i Blaendyffryn - Dim diweddariad.

I. 10.B-3/OCT - Twll rhwng Bronygarn a Hendy - Dim diweddariad.

J. 10.C-3/OCT - Llwybr heibio’r heuadd - Dywedodd y Cyng. Richard James byddai’n well aros i neud hwn yr un pryd â’r tarmacio. Dywedodd y Cadeirydd bod y ‘manhole’ wrthi’n cael ei sortio a’i fod wedi concritio yno gan mai dim ond pren oedd yn ei ddal lan.

K. Toiledau Cenarth - Cytunwyd y dylid cynnig cyfarfod gyda’r Cyngor Sir.

7. GOHEBIAETH:

- Llythyr Apêl Teganau Nadolig - cynnigodd y Cyng. Meurig Thomas £200 ac eiliwyd hyn gan y Cyng. Don Griffiths.

- Llythyr Apêl Ambiwlans Awyr Cymru - cynnigwyd rhoi yr un peth cynnigwyd £250 gan y cyng. Meurig Thomas ac eiliwyd gan y Cyng. Helen Williams.

- Llythyr Radio Glangwili - Cynnigwyd £100 gan y Cyng. Meurig Thomas ac eiliwyd hyn gan y Cyng. Hywel Bowen.

- ‘Asset Transfer’ Toiledau Cenarth - Dywedodd y Cyng. Nigel Williams mai £3,500 mae’n costu i’r toiledau arall yng Nghenarth. Dywedodd y Cadeirydd bod toiledau arall ochr Ceredigion. Dywedodd y Cyng. Richard James bod angen rhagor o wybodaeth o ran hwn. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn bwysig cadw rhain gan fod llawer o ymwelwyr yno drwy’r flwyddyn.

8. CYNLLUNIO:

B. PL/08394 - Full planning permission - Construction of concrete slurry store and associated works - Pengelli Fach, Cenarth - Dim Gwrthwynebiad

C. PL/08399 - Prior notification: Road (agricultural/forestry) - 1 No. new timber harvesting track approx 750m in length and 5m in width - Allt y Ceiliog, Cenarth, SA38 9JL - cytunwyd bod angen rhagor o wybodaeth ar hyn.

9. MATERION ARIANNOL - Dywedodd y Clerc bod y taliadau canlynol wedi’u gwneud dros y mis diwethaf:

A. Cyflog y Clerc -

• Cyflog mis Tachwedd 

• ‘Expenses’ mis Tachwedd 

B. Taliadau Mewn - Dim

C. Taliadau Allan -

• Torch Sul y Cofio

• Anfoneb Trywydd 

• Anfoneb Cambrian Garage 

• Anfoneb William Davies 

• Poppy Appeal 

• Ambiwlans Awyr Cymru

• Apêl Anrhegion Nadolig Sir Gâr 

• Radio Glangwili

10. MATERION ANGEN TRAFODAETH -

A. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod coed wedi cwympo ar y llwybr ger Godremamog eto.

B. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod y fainc yn sgwâr Capel Iwan wedi torri.

11. SYLWADAU CYNGHORWYR -

C. Anfonwyd dymuniadau gorau’r Cyngor i deulu’r Cyng. William Davies a’r Cyng. Anthony John.

D. Fe wnaeth y Cadeirydd longyfarch y Clerc am ennill y gadair a’r goron yn Eisteddfod CFfI Sir Gâr ac i CFfI Capel Iwan am eu llwyddiant yn Eisteddfod Sir Gâr a Chymru

12. CYFARFOD NESAF - Cynhelir y cyfarfod nesaf ar y 5ed o Ragfyr. Daeth y Cyfarfod i ben am 7.50yh.

Cenarth Community Council Meeting

Minutes of the meeting held at the Center, Capel Iwan on Thursday, 7th of November 2024 at 7pm.

1. PRESENT: In the Chair - Cllr. Hywel Bowen Councillors: Pat Thomas, Don Griffiths, Nigel Williams, Helen Williams, Richard James, Meurig Thomas. Clerk - Manon Thomas,

2. APOLOGIES: Leah Jones PCSO, Cllr. Ken Howell, Jeff Kedward PCSO, Anthony John, Philip Gibbons, Cllr. Hazel Evans, William Davies.

3. DECLARATIONS OF INTEREST: None

4. POLICE: None

5. MINUTES: Minutes for the October 2024 meeting were proposed by Cllr. Don Griffiths and Seconded by Cllr. Pat Thomas.

6. MATTERS ARISING FOR MINUTES:

A. 6.B-1 / JUL - Defibrillator - It was agreed that Don Griffiths and Nigel Williams would check them in the next two weeks.

B. 10.A-4/NOV - Penrheol Isaf Road to Derlwyn - No update. Cllr. Don Griffiths stated that he had seen the County Council workers yesterday filling a pothole with a spade, stamping on it, taking a photo, then driving off. He said it was a joke. Cllr. Helen Williams stated that this is a waste of money as they will have to do this again in a few months.

C. 10.A-1/JUN - Pothole on Hendy turning - The Chairman stated that one of these had been sorted.

D. 10.A-11/JAN - Panteg Salt Box - Cllr Pat Thomas stated that this had been done.

E. 10.A-1/FEB - Water on Bryngolau turn - No update.

F. 10.B-9/MAY - Tarmac at back of the Hall - No update.

G. 10.E-9/MAY - Road from Cwm Morgan to Glyncoch - No Update.

H. 10.A-3/OCT - Water from Bwlchcaebrith to Blaendyffryn - No update.

I. 10.B-3/OCT - Pothole between Bronygarn and Hendy - No update.

J. 10.C-3/OCT - Path by the Hall - Cllr. Richard James stated that it would be best to do this at the same time as the tarmac. The Chairman stated that the manhole is being sorted at the moment and that he had put concrete down as there was only wood holding it up.

K. Cenarth Toilets - It was agreed that we should offer a meeting with the County Council.

7. CORRESPONDENCE:

- Christmas Toy Appeal Letter - Cllr. Meurig Thomas offered £200 and this was seconded by Cllr. Don Griffiths.

- Wales Air Ambulance Letter - It was suggested that we should give the same as previous years. Cllr Meurig Thomas offered £250 and this was seconded by Cllr. Helen Williams.

- Llythyr Radio Glangwili - Cllr. Meurig Thomas offered £100 and this was seconded by Cllr. Hywel Bowen.

- Cenarth Toilets Asset Transfer- Cllr. Nigel Williams sated that it costs £3,500 to keep the other toilets in Cenarth opern. The Chairman stated that the other toilets are on Ceredigion’s side. Cllr. Richard James stated that more information is needed on this. The Chairman stated that it is important to keep them open for visitors throughout the year.

8. PLANNING:

D. PL/08394 - Full planning permission - Construction of concrete slurry store and associated works - Pengelli Fach, Cenarth - No objection.

E. PL/08399 - Prior notification: Road (agricultural/forestry) - 1 No. new timber harvesting track approx 750m in length and 5m in width - Allt y Ceiliog, Cenarth, SA38 9JL - It was agreed that further information was required on this.

9. FINANCIAL MATTERS

The Clerk stated that the following payments were made over the past month:

A. Clerk wage -

- November wage 

- November expenses 

B. Payments in - None

C. Payments out -

• Remeberance Sunday wreaths

• Trywydd Invoice

• Cambrian Garage Invoice

• William Davies Invoice 

• Poppy Appeal

• Wales Air Ambulance

• Carmarthenshire Christmas Gift Appeal 

• Radio Glangwili 

10. MATTERS NEEDING DISCUSSION

A. Cllr. Don Griffiths stated that the branches have fallen near Godremamog path again.

B. Cllr. Don Griffiths stated that the bench on Capel Iwan square has broken.

11. COUNCILLORS’ COMMENTS -

C. The Council sent their best wishes to Cllr. William Davies and Cllr Anthony John’s family.

D. The Chairman congratulated the Clerk for winning the chair and the crown in the Carmarthenshire YFC Eisteddfod and Capel Iwan YFC for their success in the Carmarthenshire and Wales YFC Eisteddfod.

12. NEXT MEETING - The next meeting will be held on the 5th of December. The meeting was closed at 7.50pm

 

 

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy