SpanglefishCenarth Community Council | sitemap | log in
This is a free Spanglefish 1 website.

CYFARFOD MEHEFIN 2021

1. Yn bresennol - Meurig Thomas (Cadeirydd), Don Griffiths,  William Davies, Anthony John, Nigel Williams, Hazel Evans. Clercod - Ken Davies a Manon Thomas.

2. Ymddiheuriadau - Richard James, Hywel Bowen, Guto Jones.

3. DATGANIADAU DIDDORDEB: Dim

4. HEDDLU: Dim

5. COFNODION: Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Misol Mai 6ed 2021.

Croesawodd Ken Davies Manon Thomas i’r Cyfarfod, ail gyfarfod eleni.

            Cynnig: Cyng. Don Griffiths    Eilio: Cyng. Anthony John

6.  GOHEBIAETH:

Llythyr - Ken Davies i Manon Thomas - Cynnig swydd y Clerc.
Llythyr - Manon Thomas i Ken Davies - Diolch a derbyn swydd y Clerc.
Llythyr - Prif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin Wendy Walters i Ken Davies - Diolch am 50 mlynedd o wasanaeth.
Llythyr - Jonathan Edwards AS Tŷ’r Cyffredin i Ken Davies - Diolch am 50 mlynedd o wasanaeth.
Llythyr - Adam Price AC Senedd Cymru i Ken Davies - Diolch am 50 mlynedd o wasanaeth.
Llythyr o ddiolch i Laurance Aldridge, Brynheulog a Seimon, Penrheol Isaf am ailwneud a phaentio’r seddi yn y sgwâr a creu hysbysfwrdd newydd.

7.  MATERION YN CODI:

Diffibrilwyr -

Dywedodd Ken Davies ei fod wedi cysylltu ag Emyr Jones o Wasanaeth Tân CNE a Chlwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan am gael Diffibrilwr i’r Ganolfan a bydd yn gwneud ymholiadau pellach i asesu sefyllfa rhwystro mynediad.

Tyllau yn yr Heol -

Dywedodd Ken Davies bod y Cadeirydd wedi rhwygo teiar ei gerbyd wrth yrru dros y tyllau ger Blaengwyddon a’i fod wedi cysylltu gyda Nia Stokes o adran gynllunio’r Cyngor.

Coed Onnen -

Dywedodd Ken Davies bod rhibanau coch wedi’u clymu i’r coed sy’n pydru a bod hawl gyda’r Cyngor i’w torri lawr gan orfodi’r tirberchnogion i dalu, os nad oedden nhw’n herio.

Tir y Cyngor -

Dywedodd Ken Davies bod rhestr o tir sy’n berchen i’r Cyngor ar wefan Un Llais Cymru ac mae’r Llywodraeth wedi datgan bod angen cofrestru’r holl dir.
Darllenodd Ken Davies restr o’r tir.

8. CYNLLUNIO:

Dywedodd Ken Davies bod Dragon Storage wedi diolch i’r Cyngor am helpu gyda’u cais cynllunio diweddar.

  • PL/01281 - Estyniad un llawr i’r 3 Horseshoes, Cenarth Dywedodd Hazel Evans y byddai’n cysylltu â Jason Lawday erbyn y cyfarfod nesaf i ofyn beth fyddai’n golygu o ran camau gorfodi pe bai rhywbeth yn digwydd yn y dyfodol - byddai’r faich yn cwympo arnom ni.
  • PL/01904 - Cais gynllunio llawn am gartref fforddiannwy ar dir Bryn Cerrig, Capel Iwan. Agored o’r 27ain o Fai tan 17eg o Fehefin. Cartref 3 ystafell wely i Sion Thomas, ei bartner a’i blentyn. Dywedodd y Cynghorydd Don Griffiths y byddai hwn yn caniatáu teulu ifanc i aros yn yr ardal i ffermio. Dywedodd y Cynghorydd William Davies na fyddai hwn yn ‘disturbo’ neb. Dim Gwrthwynebiad.
  • PL/01290 - Cais Gynllunio am ‘Rural Enterprise Dwelling’ ar fferm Sarnau, Trelech gyda Lloyd Howells. Dim Gwrthwynebiad.
  • PL/01332 - Cais Gynllunio yn Dyrlwyn, Penrherber. Dim Gwrthwynebiad.
  • PL/01834 - ‘Consturction of Detached Garage’ yn Awel y Coed, Heol Gelli, Cenarth - Geraint Owens - Dim Gwrthwynebiad.

9. MATERION ARIANNOL

Dywedodd Ken Davies bod y taliadau canlynol wedi’u gwneud dros y mis diwethaf:

  • grant i’r Cyngor,
  • Taliad i’r neuadd ar gyfer y cyfarfodydd;
  • Taliad y Clerc;
  • Macmillan Cancer Care Carmarthenshire;
  • Ambiwlans Awyr Cymru;
  • Laurance Aldridge, Brynheulog a Seimon, Penrheol Isaf wedi ailwneud a phaentio’r seddi yn y sgwâr a creu hysbysfwrdd newydd;
  • Trwsio’r torrwr porfa - Cambrian Garage;
  • Hawlio TAW yn ôl am llynedd;
  • Ad-daliad Wayleves WPD.

10. MATERION ANGEN TRAFODAETH

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Lewis os oedd Penrherber yn un o’r pentrefi a oedd angen Diffibrilwr. Dywedodd Ken Davies bod y Cyngor yn chwilio am leoliadau ym Mhenrherber, Tanglwst a Chwm Morgan yn ogystal i’r un tu allan i’r Ganolfan. Ken Davies wedi siarad gyda Dewi am leoliadau yn Nhanglwst. O ran Penrherber, cynnigodd y Cynghorydd Don Griffiths y Kiosk ond does dim trydan yno. Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans bod modd cael diffibrilwyr batri ond gall dymheredd effeithio ar y batri a dyma pam mae eisiau trydan. Cynnigodd y Cynghorydd Don Griffiths yr hen swyddfa bost ym Mhenrherber a’r pobl sy’n byw ar y sgwâr a dylid galw gyda nhw ond anaml iawn y maen nhw adref felly dylid anfon llythr os na bydd ateb.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans ei bod wedi derbyn e-bost wrth Nick Hopkins, y Felin sy’n rhedeg Data Solutions Management Ltd & Agri Bond Ltd, dyn busnes lleol sy’n barod i gyfrannu tuag at ddiffibrwlwr Capel Iwan. Gallant gostu tua £1,145 + TAW. Y Clerc i gysylltu gyda Mr Hopkins.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Lewis ie fod hi’n bwysig nad yw’r cymunedau allanol yn teimlo eu bod yn cael eu hamddifadu gan y Cyngor gan eu bod nhw’n talu trethi hefyd.

11. SYLWADAU’R CYNGHORWYR

  • Telwyd teyrnged i’r Cynghorwr Samuel Jones am ei holl waith yn y Cyngor ac fel Llywodraethwr Ysgol y Ddwylan. Clywyd ar ôl y cyfarfod diwethaf ei fod wedi marw. Ken Davies wedi anfon llythr cydymdeimlad i’r merched. Penderfynwyd hefyd i anfon llythr wrth y Cyngor gan ei fod wedi bod yn Gynghorwr am 17 mlynedd, ers 6ed o Dachwedd 2003. Bydd rhaid llanw sedd y Cynghorydd Samuel Jones o fewn 6 mis wrth gysylltu gyda’r Cyngor Sir gan ofyn am ‘notice of deceased and notice of vacancy’. Y Clerc i gysylltu. Trafodwyd aelodau newydd posib. Roedd y Cynghorydd Samuel Jones yn aelod o ‘ward’ Cenarth. Rhaid i aelodau fyw o fewn i 3 milltir i’r ffin. Y Cynghorwyr i feddwl am aelodau posib erbyn y cyfarfod nesaf.
  • Dywedodd y Cynghorydd Don Griffiths nad oes tarmac wedi’i roi lawr ym Mhentre Isaf o hyd. Y Cynghorydd Hazel Evans i ofyn i Tony.
  • Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams bod matras wedi’i adael yng Nghwm Sara a’i fod wedi’i symud i fyny at Edward Fitzwilliam. Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, os oes sbwriel yn cael ei adael ar dir preifat, mae i fyny i’r unigolyn i’w symud.

12. CYFARFOD NESAF

Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Iau, 1af o Orffennaf am 7yh yn y Ganolfan, Capel Iwan.

 

Daeth y Cyfarfod i ben am 9yh.

 


JUNE 2021 MEETING

1. Present - Meurig Thomas (Chairman), Don Griffiths, William Davies, Anthony John, Nigel Williams, Hazel Evans. Clerks - Ken Davies and Manon Thomas.

2. Apologies - Richard James, Hywel Bowen, Guto Jones.

3. DECLARATIONS OF INTEREST: None

4. POLICE: None

5. MINUTES:

To confirm the Minutes of the Monthly Meeting of May 6th 2021. Ken Davies welcomed Manon Thomas to the Meeting, this year's second meeting.

Proposed: Cllr. Don Griffiths Seconded: Cllr. Anthony John

6. CORRESPONDENCE:

  • Letter - Ken Davies to Manon Thomas - Clerk's offer of office.
  • Letter - Manon Thomas to Ken Davies - Thank you and accept the post of Clerk.
  • Letter - Carmarthenshire County Council Chief Executive Wendy Walters to Ken Davies - Thank you for 50 years of service.
  • Letter - Jonathan Edwards MP for the House of Commons to Ken Davies - Thank you for 50 years of service.
  • Letter - Adam Price AM Welsh Assembly to Ken Davies - Thank you for 50 years of service.
  • Letter of thanks to Laurance Aldridge, Brynheulog and Seimon, Penrheol Isaf for redoing and painting the seats in the square and creating a new notice board.

7. MATTERS ARISING:

Defibrillators - Ken Davies said that he has contacted Emyr Jones of CNE Fire Service and Capel Iwan Young Farmers Club about getting a Defibrillator to the Center and will be making further inquiries to assess the situation of obstruction of access.

Holes in the Road - Ken Davies said that the Chairman had ripped the tire of his vehicle while driving over the potholes near Blaengwyddon and had contacted Nia Stokes of the Council's planning department.

Ash Trees - Ken Davies said that red ribbons were tied to the decaying trees and the Council had the right to cut them down, forcing the landowners to pay, if they did not challenge.

Council Land - Ken Davies said that there is a list of Council owned land on the One Voice Wales website and the Government has stated that all land needs to be registered. Ken Davies read a list of the land
 

8. PLANNING:

Ken Davies said Dragon Storage thanked the Council for helping with its recent planning application.

  • PL / 01281 - Single storey extension to the 3 Horseshoes, Cenarth Hazel Evans said that he would contact Jason Lawday by the next meeting to ask what enforcement action would mean in the future - the burden falls on us.
  • PL / 01904 - Full planning application for an affordable home at Bryn Cerrig land, Capel Iwan. Open from the 27th of May until the 17th of June. 3 bedroom home for Sion Thomas, his partner and his child. Councilor Don Griffiths said this would allow a young family to stay in the area to farm. Councilor William Davies said this would not 'distur' anyone. No Objection.
  • PL / 01290 - Planning Application for 'Rural Enterprise Dwelling' at Sarnau Farm, Trelech with Lloyd Howells. No Objection.
  • PL / 01332 - Planning Application at Dyrlwyn, Penrherber. No Objection.
  • PL / 01834 - 'Consturction of Detached Garage' at Awel y Coed, Hay Road, Cenarth - Geraint Owens - No Objection.

9. FINANCIAL MATTERS

Ken Davies said that the following payments had been made over the last month:

  • grant to the Council,
  • Payment to the hall for the meetings;
  • Clerk's Payment;
  • Macmillan Cancer Care Carmarthenshire;
  • Wales Air Ambulance;
  • Laurance Aldridge,
  • Brynheulog and Seimon, Penrheol Isaf redone and painted the seats in the square and created a new notice board;
  • Lawn Mower Repair - Cambrian Garage;
  • Reclaiming VAT for last year;
  • Wayleves WPD rebate


10. MATTERS NEEDING DISCUSSION

Councilor Jeff Lewis asked if Penrherber was one of the villages that needed a Defibrillator. Ken Davies said that the Council was looking for locations in Penrherber, Tanglwst and Cwm Morgan as well as the one outside the Center. Ken Davies spoke to Dewi about locations in Tanglwst. As for Penrherber, Councilor Don Griffiths proposed the Kiosk but there is no electricity. Councilor Hazel Evans said battery defibrillators are available but the battery can be affected by temperature which is why electricity is needed. Councilor Don Griffiths proposed the old post office in Penrherber and the people who live on the square and should be called but they are rarely home so a letter should be sent if there is no reply.

Councilor Hazel Evans said she had received an email from Nick Hopkins, the Mill who runs Data Solutions Management Ltd & Agri Bond Ltd, a local businessman willing to donate towards Capel Iwan's defibrillator. They can cost around £ 1,145 + VAT. The Clerk to contact Mr Hopkins.

Councilor Jeff Lewis said that it is important that the outlying communities do not feel deprived by the Council as they also pay taxes.

11. COUNCILOR'S COMMENTS

  • Tributes were paid to Councilor Samuel Jones for all his work in the Council and as a Governor of Ysgol y Ddwylan. It was reported after the last meeting that he had died. Ken Davies sent a letter of condolence to his daughters. It was also decided to send a letter from the Council as he had been a Councilor for 17 years, since 6th November 2003. Councilor Samuel Jones 'seat must be filled within 6 months when contacting the County Council requesting' notice of deceased and notice of vacancy '. Clerk to contact. Possible new members were discussed. Councilor Samuel Jones was a member of the Cenarth 'ward'. Members must live within 3 miles of the border. Councilors to think of potential members by next meeting.
  • Councilor Don Griffiths said tarmac has not yet been laid in Pentre Isaf. Councilor Hazel Evans to ask Tony Williams.
  • Councilor Nigel Williams said a mattress had been left in the Sara Valley and had been moved up to Edward Fitzwilliam. Councilor Hazel Evans said that if rubbish is left on private land, it is up to the individual to remove it.

12. NEXT MEETING

The next meeting will be held on Thursday, July 1st at 7pm at Y Ganolfan, Capel Iwan.

The Meeting closed at 9pm.
 

Click for MapWikanikoWork from Home
sitemap | cookie policy | privacy policy