SpanglefishCenarth Community Council | sitemap | log in
This is a free Spanglefish 1 website.

 

CYFARFOD GORFFENNAF 2023 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn y Ganolfan, Capel Iwan Ddydd Iau, y 6ed o Orffennaf 2023 am 7.00y.h.

1. PRESENNOL: Yn y Gadair - Cyng. Richard James, Cynghorwyr: Don Griffiths, Hywel Bowen, Pat Thomas, William Davies, Philip Gibbons, Anthony John, Meurig Thomas Cyng. Ken Howell, Cyng. Hazel Evans a Jeff Kedward PCSO & Shannon Sinnott. Clerc - Manon Thomas..

2. YMDDIHEURIADAU: Cyng. Guto Jones

3. DATGANIADAU DIDDORDEB: Dim

4. HEDDLU:

A. Datganodd Jeff Kedward PCSO bod grŵp o tua 10-12 o bobl ifanc wedi bod yn achosi difrod yng Nghastellnewydd Emlyn yn ddiweddar. Dywedodd nad yw erioed wedi gweld dim tebyg ac erioed wedi bod mor brysur wrth iddyn nhw ddifrodi toion adeiladau, ddringo ar do Neuadd yr Eglwys, torri mewn i adeiladau gwag y Cyngor a cynáu tân mewn saflëoedd bysiau. Datganodd bod Ysgol Emlyn yn cymryd disgyblion sydd wedi’u tynnu allan o ysgolion arall i mewn. Fe wnaeth Shannon Sinnott PCSO ddosbarthu posteri gwybodaeth ynghylch pryd i gysylltu â’r heddlu a sut i benu os yw’n fater brys neu beidio i’w dosbarthu yn y gymuned. Datganwyd os ydym yn gweld unigolyn ar do adeilad, yna dywedodd Shannon Sinnott ei fod yn fater brys a dylid ffonio 999, ond os ddigwyddodd y mater ddoe, yna’r rhif i ffonio yw 101 a gellid hefyd delio gyda’r materion hyn arlein. Ategodd y Cyng. Nigel Williams bod Adpar wedi newid o ganlyniad i’r pobl ifanc hyn ac mae’n drueni nad oes rhif uniongyrchol i gysylltu gyda’r Swyddfa Heddlu mwyach. Esboniondd Jeff Kedward PCSO bod y galwadau i gyd yn cael eu cyfeirio at y ‘Central Investigation Hub’ neu’r ‘CIH’ ac os bydd galwadau yn mynd yno, mae’n bosib na fydd swyddogion yr heddlu yr ardal yn clywed am yr alwad. Gofynnodd y Cyng. Hazel Evans os oes rhywle gallwn ni roi adborth i ddweud nad yw’r CIH yn effeithiol. Datganodd Jeff Kedward PCSO y gellid rhoi adborth ar wefan Heddlu Dyfed Powys. Esboniodd Jeff Kedward PCSO fod y galw yn ddigynsail gyda mwy o droseddau ar-lein a llai o heddweision ymatebol. Dywedodd y Cyng. Ken Howell fod mwy o heddweision yn Heddlu Dyfed Powys nag erioed o’r blaen. Dywedodd Jeff Kedward PCSO nad yw’r heddweision hyn yn niferoedd ar y strydoedd ond yn fysedd ar yr allweddellau ac o ganlyniad mae tua 20,000 yn llai o heddweision ledled Cymru. Dywedodd Jeff Kedward PCSO eu bod yn hyfforddi 60 heddwas ar hyn o bryd ond am y 2 fis cyntaf, mae’n nhw wedi’u partnerio gydag heddwas arall profiadol. Ategodd eu bod yn ceisio llunio rhestr o droseddwyr ifanc gan anfon llythyron i’w rhieni a gwarcheidwaid yn rhybuddio cyn y gwyliau haf.

5. COFNODION: Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Misol Mehefin 2023. Cynnig: Cyng. Don Griffiths Eilio: Cyng. Nigel Williams

6. MATERION YN CODI O’R COFNODION:

A. 6.B-1/JUL21 - Diffibrylydd - Clerk yn aros i glywed nôl am hyfforddiant am ddim.

B. 11.8-1/JUL21 - Kiosk Capel Iwan -Dim Diweddariad.

C. 10.A-3/MAR - Plac o Ddiolch y Winjen - Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyng Hywel Bowen am roi’r plac i fyny.

D. 11.B-7/APR - Twll heol Glannant a Chlos Glas - Datganodd y Cyng. William Davies bod y mater wedi’i atgyweirio.

E. 10.A-12/MAY - Coeden rhwng y Ganolfan a Maes Gwyn - Clerc yn aros i glywed nôl wrth National Grid - cwrso eto.

F. 10.C-12/MAY - Heol Cornel Blaenpant - Dim Diweddariad.

G. 10.E-12/MAY - Heol ar dro Bryngolau - Dim Diweddariad.

H. 10.F-12/MAY - Heol rhwng Tŷ Cerrig a Brohedydd - Dim Diweddariad.

I. 10.A-4/NOV - Heol Penrheol Isaf i Derlwyn - Dim Diweddariad. Ategodd y Cyng. Don Griffiths bod yr ardal yma’n wael a bod angen torri’r cloddiau.

J. 10.B-2/FEB - Biniau Ailgylchu - Dywedodd y Cyng. William Davies nad oedd wedi derbyn bocs ailgylchu gwydr o hyd.

K. 10.D-6/APR - Torrwr Porfa - Datganodd y Cadeirydd ei fod wedi torri lawr a’i fod yn y garej ar hyn o bryd yn cael ei drwsio.

L. 10.A-1/JUN - Twll ar dro Hendy - Dim Diweddariad.

M. 10.B-1/JUN - Llwybr Godremamog - Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod un coeden wedi cwympo yno ond mae’n bosib mynd heibio ond mae’n beth da ei fod yno gan ei fod yn atal beiciau modur rhag ei ddefnyddio. Dywedodd y Cyng. William Davies y byddai’n edrych mewn i’r mater gan mai ef wnaeth ddelio y llynedd.

N. 10.C-1/JUN - Heol Penrherber - Dywedodd y Cyng. Hywel Bowen fod yr heol ar gau ar hyn o bryd gan fod Dŵr Cymru’n gweithio yno.

O. 10.D-1/JUN - Heol o Sgwâr Ardwyn i Bentre Isaf - Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod y mater wedi’i atgyweirio.

7. GOHEBIAETH: Dim

8. CYNLLUNIO: Dim

9. MATERION ARIANNOL - Dywedodd y Clerc bod y taliadau canlynol wedi’u gwneud dros y mis diwethaf:

A. Cyflog y Clerc -

• Cyflog mis Gorffennaf 

• ’Expenses’ mis Gorffennaf

• Cyflog mis Awst

• Cyfanswm sy’n daladwy

B. Taliadau Mewn 

C. Taliadau Allan -

• Anfoneb Trywydd 11983 

• Anfoneb Jenny Wheeler 

• Anfoneb Neuadd Capel Iwan 

10. MATERION ANGEN TRAFODAETH -

A. Dywedodd y Cyng. Nigel Williams ei fod wedi ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru sawl gwaith (3 gwaith wythnos diwethaf) gan ei fod yn pryderu am goeden sydd wedi cwympo ar draws yr afon yng Nghenarth tuag at Aberteifi. Dywedodd bod hwn wedi arwain at greu argae a’i fod hefyd wedi gweld 2 blentyn yn ei ddefnyddio fel ffrâm ddringo. Mae’n pryderi y bydd Cyngor Cymuned Cenarth yn atebol am unrhyw anaf ac am achosi llifogydd gwaeth. Gan fod lefel yr afon yn isel ar hyn o bryd, diwedodd y gellid mynd ato’n hawdd er mwyn ei dorri. Dywedodd hefyd bod CNC yn cytuno gydag ef a byddant yn anfon rhywun allan. Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyng. Nigel Williams am hyn. Gofynnodd y Cyng. Philip Gibbons os oes lluniau i gael o hyn. Dywedodd y Cyng. Nigel Williams y byddai’n tynnu lluniau.

B. Gofynnodd y Cyng. William Davies beth oedd yn digwydd o ran torri’r glaswellt o amgylch Senetaff Cenarth. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths ei fod wedi cael ei dorri. Ategodd y Cyng. Nigel Williams ei fod wedi’i dorri ond bod angen mynd â rhaca drosto.

11. SYLWADAU CYNGHORWYR - Dim

12. CYFARFOD NESAF - Cynhelir y cyfarfod nesaf ar y 7fed o Fedi. Daeth y Cyfarfod i ben am 7:45yh.

 

 

JULY 2023 MEETING

Minutes of the meeting held at the Center, Capel Iwan on Thursday, 6th of July 2023 at 7pm.

1. PRESENT: In the Chair - Cllr. Richard James, Councillors: Don Griffiths, Hywel Bowen, Pat Thomas, Meurig Thomas, William Davies, Philip Gibbons, Anthony John, Cllr. Ken Howell, Cllr. Hazel Evans and Jeff Kedward PCSO and Shannon Sinnott PCSO.Clerk - Manon Thomas.

2. APOLOGIES: Cllr. Guto Jones.

3. DECLARATIONS OF INTEREST: None

4. POLICE:

A. Jeff Kedward PCSO stated that a group of around 10-12 young people had been causing damage in Newcastle Emlyn recently. He said he has never seen anything like it and has never been so busy as they damaged the roofs of buildings, climbed on the roof of the Church Hall, broke into empty Council buildings and set fire to bus stops. He declared that Ysgol Emlyn takes in pupils who have been removed from other schools. Shannon Sinnott PCSO distributed information posters about when to contact the police and how to determine if it is an urgent matter or not to distribute in the community. It was stated that if we see an individual on the roof of a building, then Shannon Sinnott PCSO said it is an urgent matter and 999 should be called, but if the issue happened yesterday, then the number to call is 101 and these issues could also be dealt with online. Cllr. Nigel Williams stated that Adpar has changed as a result of these young people and it is a shame that there is no direct number to contact the Police Office anymore. Jeff Kedward PCSO explained that all the calls are directed to the 'Central Investigation Hub' or the 'CIH' and if calls go there, it is possible that the police officers in the area will not hear about the call . Cllr. Hazel Evans asked if there is somewhere we can give feedback to say that the CIH is not effective. Jeff Kedward PCSO stated that feedback could be given on the Dyfed Powys Police website. Jeff Kedward PCSO explained that the demand is unprecedented with more crime online and fewer responding police officers. Cllr. Ken Howell said that there are more police officers in Dyfed Powys Police than ever before. Jeff Kedward PCSO said that these police officers are not numbers on the streets but fingers on keyboards and as a result there are around 20,000 fewer police officers throughout Wales. Jeff Kedward PCSO said they are currently training 60 police officers but for the first 2 months, they are partnered with another experienced police officer. He added that they are trying to compile a list of young offenders and sending letters to their parents and guardians warning them before the summer holidays.

5. MINUTES: Minutes for the July 2023 Meeting were proposed by Cllr. Don Griffiths and Seconded by Cllr. Nigel Williams.

6. MATTERS ARISING FOR MINUTES:

A. 6.B-1 / JUL - Defibrillator - Clerk waiting to hear back regarding free training.

B. 11.8-1/JUL21 - Capel Iwan Kiosk - No Update.

C. 10.A-3/MAR - Plaque of Thanks to the Winjen - The Chairman thanked Cllr Hywel Bowen for putting the plaque on the wall.

D. 11.B-7/APR - Pothole at Glannant and Clos Glas - Cllr. William Davies stated that this has now been rectified.

E. 10.A-12/MAY - Tree between the Center and Maes Gwyn - Clerk waiting to hear back from National Grid - will chase again.

F. 10.C-12/MAY - Turning on Blaenpant Road - No Update.

G. 10.E-12/MAY - Turning on Bryngolau road -No Update.

H. 10.F-12/MAY - Road between Tŷ Cerrig and Brohedydd - No Update.

I. 10.A-4/NOV - Penrheol Isaf Road to Derlwyn - No Update. Cllr. Don Griffiths added that this area was bad and needs trashing.

J. 10.B-2/FEB - Recycling Bins - Said Cllr. William Davies who still had not received a glass recycling box.

K. 10.D-6/APR - Lawn Mower- The Chairman stated that the lawn mower was in the garage having a service as it had broken down.

L. 10.A-1/JUN - Pothole on Hendy turn - No update.

M. 10.B-1/JUN - Godremamog path - Cllr. Don Griffiths said that one tree has fallen there but it is possible to pass but it is a good thing that it is there as it prevents motorbikes from using it. Cllr. William Davies said that he would look into the matter as he dealt with it last year.

N. 10.C-1/JUN - Penrherber Road - Cllr. Hywel Bowen stated that the road is closed because Welsh Water is working there.

O. 10.D-1/JUN - Road from Ardwyn Square to Pentre Isaf - Cllr. Don Griffiths stated that the matter has been rectified.

7. CORRESPONDENCE: None

8. PLANNING: None

9. FINANCIAL MATTERS

The Clerk stated that the following payments were made over the past month:

A. Clerk wage -

• July wage 

• July ’Expenses’ 

• August wate 

• Total payable 

B. Payments In-

C. Payments Out -

• Trywydd Invoice 11983 

• Jenny Wheeler Invoice 

• Capel Iwan Hall Invoice

10. MATTERS NEEDING DISCUSSION

P. Cllr Nigel Williams said that he has called Natural Resources Wales several times (3 times last week) as he is concerned about a tree that has fallen across the river in Cenarth towards Cardigan. He said that this led to the creation of a dam and that he also saw 2 children using it as a climbing frame. He is concerned that Cenarth Community Council will be liable for any injury and for causing worse flooding. As the level of the river is low at the moment, he said that it could be easily accessed in order to break it. He also said that NRW agrees with him and they will send someone out. The Chairman thanked Cllr. Nigel Williams for this. Cllr. Philip Gibbons asked if there are any pictures of this. Cllr. Nigel Williams said that he would take pictures.

Q. Cllr. William Davies askedwhat was happening in terms of cutting the grass around Cenarth Senate. Cllr. Don Griffiths said that it has been cut. Cllr. Nigel Williams added that it had been cut but needed to be raked over.

11. COUNCILLORS’ COMMENTS -

B. Cllr sent. Nigel Williams congratulations to the Clerk on her recent engagement.

C. The new Chairman thanked Nigel Williams for his good work as Chairman over the past year.

12. NEXT MEETING - The next meeting will be held on the 6ed o Orffennaf. The Meeting ended at 7:20pm

 

 

Click for MapWikanikoWork from Home
sitemap | cookie policy | privacy policy