![]() |
![]() |
||
This is a free Spanglefish 1 website. | ||
Cyfarfod Cyngor Cymuned Cenarth Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn y Ganolfan, Capel Iwan Ddydd Iau, y 2il o Fawrth 2023 am 7.00 y.h. 1. PRESENNOL: Yn y Gadair - Cyng. Nigel Williams, Cynghorwyr: y Cyng. Hazel Evans, Don Griffiths, Pat Thomas, William Davies, Philip Gibbons, Anthony John a Richard James, Cyng. Ken Howell, Hywel Bowen, Meurig Thomas a. Clerc - Manon Thomas. 2. YMDDIHEURIADAU: Guto Jones, Jeff Kedward PCSO. 3. DATGANIADAU DIDDORDEB: Dim 4. HEDDLU: Dim 5. COFNODION: Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Misol Chwefror 2023. Cynnig: Cyng. Don Griffiths Eilio: Cyng. William Davies 6. MATERION YN CODI O’R COFNODION: A. 6.B-1/JUL21 - Diffibrylydd - Cadarnhaodd y Cyng. Philip Gibbons nad oedd arwydd Cwm Morgan i fyny o hyd. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n cwrso’r Cyngor Sir eto. B. 11.8-1/JUL21 - Kiosk Capel Iwan - Dim Diweddariad. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths nad yw’n edrych yn debygol y byddwn ni’n gweld un yno eto. C. 10.A-3/MAR - Plac o Ddiolch y Winjen - Dywedodd y Clerk bod y Cyng. Guto Jones wedi ffonio hi heddiw i ddatgan bod y plac ar y ffordd a dylai fod gyda ni erbyn y cyfarfod nesaf. Dywedodd y Cadeirydd bod hwn yn newyddion da. D. 11.B-7/APR - Twll heol Glannant a Chlos Glas - Dywedodd y Cyng. William Davies ei fod yn well ond bod twll yno o hyd. Dywedodd y Cyng. Pat Thomas bod y Cyngor Sir wedi ‘patcho’ i fyny ond ei fod yn wael eto. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n ceisio cael Chris Edwards o’r Cyngor Sir allan. E. 10.A-12/MAY - Coeden rhwng y Ganolfan a Maes Gwyn - Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi ceisio cael gafael ar Paul Toft ddwywaith heb unrhyw lwc felly bydd yn parhau i geisio. F. 10.C-12/MAY - Heol Cornel Blaenpant - Dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n ceisio cael Chris Edwards o’r Cyngor Sir allan. G. 10.D-12/MAY - Heol Heibio Blaengwyddon - Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas bod y Cyngor Sir wedi gwneud darnau ond mae’r darnau gwaethaf ar ôl. Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons ei fod yn broblem diogelwch os bydd olwyn y bwrw’r darnau gwael, gall fynd yn fflat. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n ceisio cael Chris Edwards o’r Cyngor Sir allan. H. 10.E-12/MAY - Heol ar dro Bryngolau - Dyweododd y Cyng. Don Griffiths bod y tyllau yn llanw â dŵr. Dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n ceisio cael Chris Edwards o’r Cyngor Sir allan. I. 10.F-12/MAY - Heol rhwng Tŷ Cerrig a Brohedydd - Dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n ceisio cael Chris Edwards o’r Cyngor Sir allan. J. 10.A-4/NOV - Heol Penrheol Isaf i Derlwyn - Dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n ceisio cael Chris Edwards o’r Cyngor Sir allan. K. 10.B-4/NOV - Gwifrau Ffôn Penrheol Isaf i Derlwyn - Dywedodd y Cyng. Hazel Evans y byddai’n ceisio cael Chris Edwards o’r Cyngor Sir allan. L. 10.B-12/JAN - Fan Sgwâr Capel Iwan - Dywedodd y Cynghorwyr bod y Fan bellach wedi mynd. M. 10.B-2/FEB - Biniau Ailgylchu - Dywedodd y Cyng. Hywel Bowen nad yw wedi cael bocs gwydyr. Dywedodd y Cyng. Meurig Thomas bod rhai pobl wedi cael 3 bocs. Dywedodd y Cyng. William Davies nad yw’r tai o amgylch Blackoak wedi cael bocs. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths nad yw’r lori yn mynd lawr heibio Pentre Isaf er bod llwyth o fagiau bin yno. Dywedodd y Cyng. Ken Howell bod y cytundeb wedi’i roi i gwmni o’r Alban. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths nad yw’n syndod bod problemau i gael felly. Gofynnodd y Cyng. Pat Thomas pam nad yw’r bagiau i gyd yn cael eu casglu ar yr un diwrnod. 7. GOHEBIAETH: A. Ebost wrth Chris Fraser, Llys y Werin yn cynnig sesiynnau hyfforddiant Diffibrylydd yn y gymuned. Cynnigodd y Cyng. Hywel Bowen, os oes cymhwysedd gan Chris, y dylai’r Cyngor roi caniatâd iddi fwrw ati. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n beth da i fedru cael hyfforddiant am ddim i’r gymuned. Cytunwyd y byddai’r Clerk yn cysylltu yn ôl i drafod. 8. CYNLLUNIO: Dim 9. MATERION ARIANNOL - Dywedodd y Clerc bod y taliadau canlynol wedi’u gwneud dros y mis diwethaf: A. Cyflog y Clerc - • Cyflog mis Mawrth • ’Expenses’ mis Mawrth B. Taliadau Mewn - • Taliad Wayleaves C. Taliadau Allan - • Anfoneb True Lazer Engraving 10. MATERION ANGEN TRAFODAETH - A. Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons bod angen ‘sweeper’ ar yr heol gwaelod yng Nghwm Morgan. B. Dywedodd y Cyng. Richard James bod Huw Blaenpant wedi galw gydag ef i ddweud bod Capel Pontgarreg yn cael ei werthu ar wahân i’r fynwent. Dywedodd y Cyng. Philip Gibbons bod modd symud cerrig beddau er ei fod yn gallu cymryd tua 2 flynedd ond mae’n bosib i’r perchnogion newydd symud y cerrig beddau ond gall achosi drwgdeimlad. Dywedodd y Cadeirydd nad yw’r matter yma o dan ein awdurdodaeth ni ac roedd y Cyng. Hazel Evans yn cytuno. Dywedodd y Cyng. Hywel Bowen nad oedd yn deall digon am y matter. Cynnigodd y Cyng. Meurig Thomas o bosib byddai’r arwerthwr yn gwybod rhywbeth. Dywedodd y Cyng. Hywel Bowen mai Undeb Methodistiaid Caerdydd sy’n ei werthu ac nid yr aelodau. Dywedodd y Cyng. Don Griffiths bod ‘dry rott’ trwy’r capel i gyd. C. Dywedodd y Cyng. Pat Thomas nad oes bocs halen ym Mhanteg o hyd. Gofynnodd y Cyng. Hywel Bowen os oedd y bocsys halen wedi’u hail-lenwi ers y tywydd rhewllyd blaenorol gan fod yr un ger ei gartref ef wedi’i wagio ac mae’n addo eira yr wythnos nesaf. 11. SYLWADAU CYNGHORWYR - Dim 12. CYFARFOD NESAF - Cynhelir y cyfarfod nesaf ar y 6ed o Ebrill. Daeth y Cyfarfod i ben am 7:50yh.
Cenarth Community Council Meeting Minutes of the meeting held at the Center, Capel Iwan on Thursday, 2nd March 2022 at 7.00 pm. 1. PRESENT: In the Chair - Cllr. Nigel Williams, Councillors: Cllr. Hazel Evans, Don Griffiths, Pat Thomas, William Davies, Richard James, Phillip Gibbons, Cllr. Ken Howell, Hywel Bowen, Meurig Thomas and Anthony John.Clerc - Manon Thomas. 2. APOLOGIES: Cllr. Guto Jones and Jeff Kedward PSCO. 3. DECLARATIONS OF INTEREST: None 4. POLICE: None 5. MINUTES: Minutes for the February 2023 Meeting were proposed by Cllr. Don Griffiths and Seconded by Cllr. William Davies. 6. MATTERS ARISING FOR MINUTES: A. 6.B-1 / JUL - Defibrillator - Cllr Philip Gibbons confirmed that the Cwm Morgan sign was still not up. Cllr Hazel Evans said that he would chase the County Council again. B. 11.8-1/JUL21 - Capel Iwan Kiosk - No update. Cllr Don Griffiths said that it doesn't look likely we'll see one there again. C. 10.A-3/MAR - Winjen Thank You Plaque - The Clerk said that Cllr. Guto Jones phoned her today to state that the plaque is on the way and should be with us by the next meeting. The Chairman said that this was good news. D. 11.B-7/APR - Hole in the road between Glannant and Clos Glas - Cllr. William Davies said that it is better but that there is still a hole. Cllr. Pat Thomas said that the County Council has 'patched' up but that it is bad again. Cllr Hazel Evans said that she would try to get Chris Edwards from the County Council out. E. 10.A-12/MAY - Tree between the Center and Maes Gwyn - The Chairman said he had tried to get hold of Paul Toft twice with no luck so he would continue to try. F. 10.C-12/MAY - Road on Blaenpant corner - Cllr. Hazel Evans said that she would try to get Chris Edwards from the County Council out. G. 10.D-12/MAY - Road past Blaengwyddon - Cllr. Meurig Thomas said that the County Council has done parts but the worst parts are left. Cllr. Philip Gibbons said that it is a safety problem if the wheel hits the bad pieces, it can go flat. Cllr. Hazel Evans said that she would try to get Chris Edwards from the County Council out. H. 10.E-12/MAY - Road on Bryngolau corner - Cllr. Don Griffiths said that the holes are full of water. Cllr. Hazel Evans said that she would try to get Chris Edwards from the County Council out. I. 10..F-12/MAY - Road between Tŷ Cerrig and Brohedydd - Cllr. Hazel Evans said that she would try to get Chris Edwards from the County Council out. J. 10.A-4/NOV - Road between Penrheol Isaf and Derlwyn - Cllr. Hazel Evans said that she would try to get Chris Edwards from the County Council out. K. 10.B-4/NOV - Phone Lines Between Penrheol Isaf and Derlwyn -The Clerk said she had contacted the County Council about the matter and was waiting to hear back. L. 10.B-12/JAN - Capel Iwan Square Van - The Councilors confirmed that the Van had been removed. M. 10.B-2/FEB - Recycling Bins - Cllr. Hywel Bowen said who has not received a glass box. Cllr said. Meurig Thomas that some people got 3 boxes. Cllr. William Davies said that the houses around Blackoak have not been given a box. Cllr. Don Griffiths said that the lorry does not go down past Pentre Isaf even though there are loads of bin bags there. Cllr. Ken Howell said that the contract was awarded to a Scottish company. Cllr. Don Griffiths said that it is not surprising that there are problems like that. Cllr. Pat Thomas asked why the bags are not all collected on the same day. 7. CORRESPONDENCE: A. Email from Chris Fraser, Llys y Werin offering Defibrillator training sessions in the community. Cllr. Hywel Bowen proposed, if Chris has competence, the Council should give her permission to proceed. The Chairman said that it would be a good thing to be able to get free training for the community. It was agreed that the Clerk would contact back to discuss. 8. PLANNING: None 9. FINANCIAL MATTERS The Clerk stated that the following payments were made over the past month: A. Clerk wage - • March wage • March Expenses B. Payments In- • Wayleaves Payment C. Payments Out - • True Lazer Engraving Invoice 10. MATTERS NEEDING DISCUSSION B. Cllr. Philip Gibbons said that a 'sweeper' is needed on the bottom road in Cwm Morgan. C. Cllr. Richard James said that Huw Blaenpant called with him to say that Capel Pontgarreg was being sold separately from the cemetery. Cllr. Philip Gibbons said that it is possible to move gravestones although it can take about 2 years but it is possible for the new owners to move the gravestones but it may cause resentment. The Chairman said that this matter is not under our jurisdiction and Cllr. Hazel Evans agrees. Cllr said. Hywel Bowen who did not understand enough about the matter. Cllr. Meurig Thomas proposed possibly the auctioneer would know something. Cllr. Hywel Bowen said that the Cardiff Methodist Union is selling it and not the members. Cllr. Don Griffiths said that there was 'dry rott' throughout the chapel. D. Cllr. Pat Thomas said that there is still no salt box in Panteg. Cllr. Hywel Bowen asked if the salt boxes had been refilled since the previous freezing weather as the one near his home has been emptied and he promises snow next week. 11. COUNCILLORS’ COMMENTS - None 12. NEXT MEETING - The next meeting will be held on the 6th April. The Meeting ended at 7:50pm. | ![]() ![]() ![]() |
|
![]() |