Login
Get your free website from Spanglefish

17 ..... i siwgr

..... i Siwgr

Rhoddodd ymweliadau â’r Tŷ Georgaidd a’r amgueddfeydd ym Mryste a gweld adeiladau gwych eraill a adeiladwyd gan y masnachwyr ddarlun clir o gyfoeth y rhai a oedd yn rhan o gyflenwi a rhedeg llongau caethweision, a’r perchnogion hynny a oedd yn disgwyl dychweliad eu llongau’n llawn ‘aur gwyn’, fel y gelwid siwgr. Roedd pawb a oedd yn rhan o’r diwydiannau cynhaliol a’r cadwyni cyflenwi hefyd yn elwa, ond ychydig iawn o’r cyfoeth hwn a welai’r nyddwyr a’r gwehyddwyr a lafuriai dros frethyn y Welsh Plains, neu ddim ohono o gwbl, unwaith roedd y masnachwyr a’r marsiandwyr wedi hawlio’u siâr. 

Roedd cyfleoedd i ymweld â Lerpwl ac Amgueddfa Genedlaethol Caethwasiaeth hefyd yn werthfawr dros ben i’r ymchwilwyr. Canfu cyfarfodydd a thrafodaethau gyda’r tîm yno ac yn y Centre for Slavery Studies fod ymchwilwyr wedi methu â gweld y cyfraniad sylweddol iawn a wnaed gan bobl Cymru i ddatblygu’r porthladd caethweision yn Lerpwl, a hefyd y cyflenwad o nwyddau a anfonwyd i Fasnach y Planhigfeydd, ac mae cyfleoedd i ganolbwyntio’n benodol ar y cysylltiad hwn.

Yn anffodus, mae rhai dolenni ac erthyglau diddorol nad ydym wedi gallu eu cyfieithu i Gymraeg. 

Dyma erthygl ragorol gan Stephen Hume yn y Montreal Gazette 02 01 2010 YMA

http://www.montrealgazette.com/technology/tech-biz/sugar+bittersweet+history/4411444/story.html

neu gallwch ei ddarllen yma fel erthygl y gellir ei argraffu: Siwgr: Hanes Melys Chwerw
- gan ddefnyddio llun o ffatri siwgr yn Welchman (sic) Gully yn St Thomas, Jamaica.

Cafodd un o’r ymchwilwyr gwirfoddol, Jenny, syniad am ddefnyddio’r cysylltiad rhwng y Brethyn Cymreig a’r Fasnach Caethweision i greu a gosod gwaith celf fel rhan o’i chwrs gradd mewn Ffabrig a Brethyn, sef arddangos dehongliadau o ddillad caethweision yn Wier Gardens yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a agorodd ddydd Iau 24ain o Fai. 

Meddai Jenny: Rydw i’n fyfyriwr aeddfed yn yr Hereford College of Arts yn dilyn gradd mewn Dylunio Crefftau Cyfoes. Mae fy ngwaith presennol wedi’i seilio o gwmpas Weir Gardens a’i hanes. Mae hyn wedi fy arwain at siwgr, caethwasiaeth a gwlân Cymru, a dyma ble cefais fy niddordeb yn y Welsh Plains.

 

sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement