Login
Get your free website from Spanglefish

5 Ymhle buon ni’n chwilio a beth wnaethon ni ei ddarganfod?

Rhoddodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ddechrau da inni trwy rannu rhestr o 500 o Bandai (melinau pannu) ledled Cymru. A dweud y gwir, roedd hynny’n ormod i’w amgyffred a dweud y gwir, ond rhoddodd syniad inni o faint o wlân a gâi ei gynhyrchu yng Nghymru wledig – roedd yn ddiwydiant anferthol!

Rhoddodd ymweliadau i Sain Ffagan, Amgueddfa Wlân Cymru, ac Amgueddfa Decstilau’r Drenewydd gyfoeth o wybodaeth am y cyfnod hwyrach yn ein hymchwil o’r 1700au hyd 1850, pan gafodd gwehyddu, ac wedyn nyddu, eu mecaneiddio, ond roedd brethyn yn dal i gael ei gynhyrchu ar gyfer marchnadoedd y Planhigfeydd, yn enwedig yng Ngogledd America.

Fodd bynnag, yn gyffredinol, heblaw am gyhoeddiadau Geraint Jenkins, yn cynnwys ‘The Welsh Woollen Industry’ nad ydynt mewn print bellach, prin yw’r cyhoeddiadau sydd ar gael mewn siopau llyfrau heddiw sy’n adrodd hanes y rôl bwysig y chwaraeodd y diwydiant gwlân yng Nghymru cyn cyfnod Melinau Gwlân Cymru.

O’r Pandai i’r Ffatrïoedd

Llwyddodd yr Ymchwilwyr Cymunedol Gwirfoddol i ddod o hyd i lawer o wybodaeth trwy chwilio’r we ac fe gafwyd mwy o wybodaeth hefyd trwy ymweld â llyfrgelloedd ac archifdai lleol.

Rhoddodd yr Athro Chris Evans erthygl wych i ni i alluogi pobl i weld y darlun mawr a rhoi trefn ar eu canfyddiadau a’u gosod mewn cyd-destun. Cliciwch YMA.

Anogwyd yr ymchwilwyr i greu eu hamserlin eu hunain, er mwyn ffitio digwyddiadau a datblygiadau o fewn dyddiadau’r prosiect, sef 1650 – 1850. Cliciwch YMA i weld sut roedd hyn yn gweithio.

Datblygwyd amrywiaeth o adnoddau da yn ystod daucanmlwyddiant diwedd y Fasnach Gaethweision Brydeinig yn 2007, er nad dyma ddiwedd caethwasiaeth a barhaodd yn nhrefedigaethau Prydain hyd y 1830au ac yn yr Unol Daleithiau hyd XXXX

Dyma raglenni gan y BBC a gynhyrchwyd yn 2007 – mae 'Wales and Slavery" Rhan 1 a Rhan 2 ar gael ar YouTube.

Gan mai o WonderWool a’n cysylltiadau uniongyrchol â Grwpiau Nyddwyr, Gwehyddwyr a Lliwyr y daeth y criw o Ymchwilwyr Cymunedol Gwirfoddol ar gyfer y cam cyntaf, fe wnaethom ganolbwyntio ar ddarganfod sut roedd y brethyn yn cael ei gynhyrchu a pha nodweddion oedd ganddo a wnaeth iddo ymddangos yn addas ar gyfer dilladu gweithwyr caeth. Fodd bynnag, wrth i’r gwirfoddolwyr fynd ar ymweliadau, a darllen ac ymchwilio, daeth yn amlwg ein bod yn canolbwyntio ar 3 ardal ble’r oedd y brethyn a elwid yn Welsh Plains yn cael ei wehyddu a’i brosesu.

Bu’r criw o Ymchwilwyr Cymunedol Gwirfoddol yn yr ail gam yn adolygu’r hyn a ddarganfuwyd a chanolbwyntiwyd ar archwilio’r ardaloedd ble câi’r brethyn ei gynhyrchu yng nghyffiniau Dolgellau, Machynlleth a Glyn Ceiriog. Rhoddodd hyn gyfle hefyd i edrych ar y prosesau a oedd yn rhan o bannu a gorffen y brethyn.

Wrth inni symud ymlaen i’r trydydd cam, roedden ni’n gallu archwilio mwy am y nifer fawr o bobl a oedd yn rhan o gludo’r brethyn a dechreuom ddeall rhai o’r materion logisteg, ac archwilio arwyddocâd lleoedd eraill, yn cynnwys yr Amwythig a’r Trallwng, Lerpwl a Bryste.

Roedd marchnadoedd Llundain, yr Iseldiroedd (wedi’u gwladychu gan Sbaen), Gorllewin Affrica a’r Byd Newydd hefyd yn rhan o’r stori, ond roeddem yn ddigon ffodus i ddod o hyd i ymgynghorwyr a wnaeth wirfoddoli i’n helpu i dynnu darnau’r hanes ynghyd, o’r pwynt ble gadawai’r brethyn Gymru a chael ei gludo i bedwar ban byd. 

Trwy’r adborth gan y timau o Ymchwilwyr Cymunedol Gwirfoddol, fe wnaethom ddysgu mai ychydig iawn a wyddid am y brethyn hwn a’r defnydd penodol a wnaed ohono, ond roedd digonedd o wybodaeth hynod ddiddorol ar gael.

Wrth inni ennyn gwell dealltwriaeth o’r hanes cymdeithasol, daeth rhan y Shrewsbury Drapers a Masnachwyr Lerpwl a Bryste yn arbennig o bwysig – fel yr oeddem wedi’i amau yn y lle cyntaf – ond roedd grŵp arall o bobl a fu’n allweddol yn natblygiad yr ardaloedd ble cynyddodd y gwaith o gynhyrchu Brethyn Cymreig yn aruthrol i fodloni gofynion Capteiniaid Llongau Caethweision Lerpwl. Fodd bynnag, profodd dod o hyd i’r grŵp hwn o bobl a weithiai i’r Capteiniaid yn anodd, ond mae’n rhaid eu bod wedi datblygu perthynas waith dda gyda’r ffermwyr, y gwehyddwyr a’r panwyr.  

Add Nigel’s bit

 

site map | cookie policy | privacy policy | accessibility statement