Login
Get your free website from Spanglefish
This is a free Spanglefish 2 website.

Helpwch i sefydlu Grwp Ymchwil a Darllen Hanes Cuddiedig

Gan weithio mewn ymgynghoriad â grwpiau hanes lleol yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, a chyda llyfrgelloedd lleol, byddwn yn sefydlu “Grwpiau Ymchwil a Darllen Hanes Cuddiedig” i gynyddu’r ddealltwriaeth am hanes Cymru a’r byd ehangach yn y cyfnod hwn.

Byddwn yn ymateb i ddiddordeb mewn ardaloedd penodol ac yn archwilio’r ffyrdd y gall y grwpiau hyn weithredu dan arweiniad gwirfoddolwyr.

Does dim angen i hwn fod yn ymrwymiad hirdymor, gan fod modd sefydlu grwpiau am ychydig o sesiynau i alluogi Gwirfoddolwyr Ymchwil Cymunedol i ddod ynghyd a rhannu eu dulliau gwaith ymchwil lleol a’u canfyddiadau.

Bydd chwiliad ar Google yn rhoi canlyniadau ar gyfer nifer o lyfrau am Gaethwasiaeth, ond mae angen inni ddatblygu cyfeiriadau a chyhoeddiadau yn Gymraeg.

Gweler y daflen ‘Adnoddau i’ch Helpu i Gychwyn Arni’ sydd yn cynnwys syniadau ar gyfer darllen cychwynnol a manylion y digwyddiadau sydd ar y gweill.

 

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement