Mae ein Hyfforddwyr a’n Ymgynghorwyr yma i helpu
Mae tîm Cysylltiadau Dysgu Rhyngwladol yn gweithio gyda chonsortiwm rhyngwladol o sefydliadau yn cynnwys Amgueddfa Cymru, Casgliad y Werin, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru, yn ogystal â’r Institute of Jamaica a’r Museum of Jamaica, ac amrywiaeth o academyddion o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, yr University of the West Indies a’r Grand Valley State University yn ne’r Unol Daleithiau.
Mae’r prosiect ehangach hwn yn canolbwyntio ar y defnydd o Frethyn Cymreig ar ôl yr holl ymdrech o’i gynhyrchu yng Nghymru wledig, yn olrhain y daith bell a wnâi’r Brethyn Cymreig a gynhyrchwyd yng Nghanolbarth Cymru i arfordir Gorllewin Affrica, neu ymlaen i’r planhigfeydd yn y Caribî a’r Taleithiau Deheuol. Rydym yn canfod gwybodaeth am y masnachwyr lu a fu’n rhan o gadwyn gyflenwi’r brethyn fel rhan o’r Fasnach Gaethweision Drawsiwerydd a’r dulliau o’i gludo dros dir a môr. Yna, byddwn yn edrych ar sut câi’r brethyn ei ddefnyddio.
Mae croeso i Wirfoddolwyr Ymchwil Cymunedol ymuno â’r gwaith archwilio hwn ynghyd â gwaith ymchwil lleol.
Cefnogir tîm y prosiect hefyd gan ymgynghorwyr o Amgueddfa Decstilau’r Drenewydd, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a’r Archifwyr sy’n ymddiddori’n frwd yn yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae diddordeb ganddynt yn beth fydd timau Gwirfoddolwyr Ymchwil Cymunedol y prosiect yn ei ddarganfod.
Bydd Tîm Casgliad y Werin Amgueddfa Cymru yn helpu i’n hyfforddi i greu a threfnu ein canfyddiadau ymchwil ar wefan Casgliad y Werin a bydd achrediad ar gael ar gyfer yr hyfforddiant hwn.