Login
Get your free website from Spanglefish
Spanglefish Gold Status Expired 09/05/2023.

Cyflwyno Cysylltiadau Dysgu Rhyngwladol (CDR)

Learning Links International (LLI)

Datblygwyd CDR/LLI mewn ymateb i'r gweithgareddau yn 2007 i gydnabod Deddf Dileu'r Fasnach Drawsiwerydd Mewn Caethweision.

Tyfodd CDR/LLI o fod yn brosiect anffurfiol i fod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol yn 2011.

Ein prif ddiben yw cymryd rhan mewn ymchwil gymunedol ac archwilio a rhannu straeon sy'n “anodd eu gwerthu” ac sy'n bennaf cysylltiedig â'r hanesion a rennir rhwng Prydain, Gorllewin Affrica a'r Caribî, yn ogystal â hanes trefedigaethol ehangach.

Er 2007, mae tîm rheoli CDR/LLI wedi dwyn ynghyd ymchwilwyr, artistiaid creadigol, academyddion a gwirfoddolwyr ymchwil cymunedol, sydd ag ystod unigryw o wybodaeth ac arbenigedd i'n galluogi i gefnogi a chydnabod yn well bwysigrwydd deall ein hanesion a rennir, yn ogystal â materion amgylcheddol perthnasol, derbyniad rhyng-ffydd a chydlyniad cymdeithasol.

Rydym yn mynd ati trwy chwilio am sefydliadau a gweithredwyr cymunedol o'r un anian, a gweithio gyda nhw i archwilio'r ffyrdd gorau o gydnabod a pharchu ein hanesion a rennir, rhannu dealltwriaeth o bwysigrwydd cydlyniad cymunedol, a herio hiliaeth.

Rydym yn defnyddio dull sy'n dwyn beirdd, perfformwyr a phobl greadigol eraill at ei gilydd gyda'n hymchwilwyr, gan gyfuno addysg ac adloniant mewn gweithdai a sioeau.

Rydym hefyd yn datblygu hyfforddwyr, adnoddau ac arddangosfeydd i'n galluogi i gynnal prosiectau a gweithgareddau ar gyfer athrawon, cymunedau, asiantaethau cenedlaethol a sefydliadau eraill.

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement