Login
Get your free website from Spanglefish
This is a free Spanglefish 2 website.

Mae croeso ichi roi cynnig ar y ‘dull dysgu agored’ rydym wedi’i baratoi isod fel rhan o’r hyn mae’r prosiect am ei adael ar ei ôl. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â diddordeb mynd ati i ymchwilio diwydiant gwlân Cymru yn eich ardal leol.

Seiliwyd y dull hwn ar yr adnoddau y gwnaethom eu paratoi ar gyfer yr Ymchwilwyr Cymunedol Gwirfoddol a gymerodd ran yn y prosiect “O Wlân i Siwgr – Gwlân Cymru a Chaethwasiaeth” ac a fu’n archwilio hanes y Welsh Plains i roi syniadau i unigolion neu grwpiau bychain fynd ati i weithio’n annibynnol. Bydd hyn hefyd yn cefnogi datblygiad Grwpiau Ymchwil a Darllen Hanes Cuddiedig sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil mewn ardaloedd lleol i helpu i fapio mwy ar leoliadau cynhyrchu ‘Welsh Plains’ neu fathau eraill o frethyn gwlân fel diwydiant bwthyn sylweddol.

Bwrw ati:  Yn gyntaf oll, ystyriwch pa ardal rydych am ei harchwilio i ddod o hyd i dystiolaeth. Daeth ymchwil ein prosiect ni o hyd i ardaloedd penodol yng nghyffiniau Dolgellau, Machynlleth a Glyn Ceiriog fel ardaloedd lle bu cynnydd sylweddol mewn cynhyrchu gwlân yn yr 1700au er mwyn bodloni’r galw amdano gan y Masnachwyr Caethweision. 

Fodd bynnag, rydym yn deall bod cynhyrchu brethyn gwlân wedi digwydd mewn cartrefi ledled Cymru ymhell cyn cyfnod ein hymchwil. Roedd y Mynachod Sistersaidd yn cefnogi pobl leol i gynhyrchu brethyn yn y 1200au. 

Mae’n debyg mai canolbwyntio ar ardal gymharol fach yw’r gorau, pentref bach neu gwm, efallai. Ond cofiwch ystyried y lleoedd cyfagos i roi cyd-destun i’ch canfyddiadau. Felly, os ydych chi’n byw mewn pandy neu felin wedi’i droi’n dŷ, neu os oes adeiladau anarferol o fawr neu olion diwydiannol yn eich pentref neu eich dyffryn, dyna le da i ddechrau ar eich ymchwil.

Safle hen felin bannu / pandy (h.y. cyn 1800) yw’r arwydd gorau o hanes cynhyrchu brethyn gwlân mewn ardal, ac mae gan y Comisiwn Brenhinol restr o leoliadau, ond fe’u nodir hefyd ar fapiau Ordnance Survey, ynghyd â safleoedd eraill y gallwch eu gwirio, fel enwau lleoedd, enwau tai, enwau strydoedd neu enwau caeau (enwau Cymraeg, fwy na thebyg), sy’n cyfeirio at wlân, defaid, cneifio, cribo, nyddu, gwehyddu, pannu, lliwio neu ddefnyddio fframiau bachau deintur – gweler isod. Efallai yr hoffech ystyried hefyd ble’r oedd y marchnadoedd lleol a’r llwybrau masnach; holwch bobl leol a ydynt yn adnabod unrhyw hen lwybrau trol neu bontydd.

Bydd sesiwn neu ddau o ymchwil ar y we o gymorth i chi ddod o hyd i lawer o wybodaeth am Ddiwydiant Gwlân cynnar Cymru, e.e. tudalennau Wicipedia – cliciwch YMA. I ddysgu mwy am y Fasnach Caethweision a chaethwasiaeth eiddo – cliciwch YMA i fynd i’r safle UNESCO sy’n cynnwys dyfyniad gan yr hanesydd Ffrengig Jean-Michel Deveau, a ddywedodd fod y fasnach gaethweision a chaethwasiaeth, a barhaodd o’r 16eg ganrif i’r 19eg, yn un o’r "trasiedïau mwyaf yn hanes dynolryw yn nhermau ei raddfa a’i barhad".

Roedd ffuglen hanesyddol hefyd yn ffordd ddefnyddiol o ddirnad bywydau pobl a’r cyfnod. Rhoddodd nofel Philip Gregory, 'A Respectable Trade' ddarlun o fywydau masnachwyr ym Mryste. 

 

????????????

 

Roeddem wrth ein boddau pan gysylltodd yr awdur Angharad Tomos â ni i gael cefnogaeth i ysgrifennu nofel hanesyddol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru, yn cymharu stori teuluoedd tlawd y ffermydd mynydd Cymreig â’r teuluoedd caeth ym mhlanhigfeydd Jamaica.

 

Bu ??? yn archwilio hanes ei theulu a daeth o hyd i 6 cenhedlaeth o ffermwyr mynydd yn ystod y cyfnod a welodd twf a dirywiad y diwydiant bwthyn, gan ddarganfod faint o’r meibion symudodd i ffwrdd i gael gwaith fel offeiriaid a phanwyr yn yr ardal leol. Darganfu bod rôl y pannwr yn un grefftus o statws uchel, ac y byddai panwyr wedi bod yn uchel eu parch. 

 

Cadarnhaodd ymchwil i archifau teuluol a phlwyfi hefyd y twf a’r lleihad ym mhoblogaeth ardaloedd rhwng 1650 – 1850 a dangosodd ymchwil a wnaed gan John ar gymuned Trefeglwys gerllaw Llanidloes hyn yn hynod o glir. Nid yw’r bythynnod a adeiladwyd gan ei gyndadau’r gwehyddwyr cynnar, ond mae’r nifer o felinau pannu yno’n rhoi syniad o faint o frethyn a gâi ei gynhyrchu i’w gwneud yn fentrau dichonadwy.

 

Mae hen fapiau sydd ar ddangos yn yr Institiwt yng Nglyn Ceiriog yn dangos caeau lleol gyda bachau deintur a daeth ymchwilwyr yn yr ardal o hyd i dystiolaeth o felinau pannu a hyd yn oed olion y lle’r oedd y mwynwyr plwm lleol yn mynd i wneud dŵr a chyflenwi’r wrin a oedd ei angen yn y broses pannu. 

 

 

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement