Ffyrdd eraill i chi gymryd rhan!
Ymunwch â chyfleoedd i ymweld â lleoliadau allweddol:
Amgueddfa Decstilau’r Drenewydd, Powys (Am ddim)
Amgueddfa Wlân Cymru, Sir Gaerfyrddin (Am ddim)
The International Slavery Museum, Lerpwl (Am ddim)
The Georgian House Museum, Bryste (Am ddim)
Castell Penrhyn, Bangor (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
A beth am fynychu’r digwyddiadau y byddwn yn eu cynnal yn ystod y flwyddyn?
Sesiynau gyda siaradwyr a chyfleoedd i ymweld â lleoliadau allweddol am ddim, yn cynnwys:
Yr Amwythig – Dydd Gwener 17eg Mai, mwyaf tebyg
Y Drenewydd,
Dolgellau,
Llanidloes,
Machynlleth
A sesiynau hyfforddi yn yr Archifdai yn Nolgellau a Chaernarfon, Llandrindod, Prifysgol Bangor a lleoedd eraill.
Caiff Gwirfoddolwyr Ymchwil Cymunedol hefyd gymryd rhan mewn dwy gynhadledd ryngwladol i ddangos ein canfyddiadau:
‘Dilladu’r Caethion Dros yr Iwerydd yn y Ddeunawfed Ganrif’ yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, 8 i 10 Gorffennaf 2019, a drefnir gan Brifysgol De Cymru gyda chefnogaeth y Pasold Textile History Research Fund a Chysylltiadau Dysgu Rhyngwladol
‘4ydd Symposiwm Cysylltiadau Dysgu Rhyngwladol ar Hanes Pobl Dduon’
Hydref 2019 fel rhan o raglen Mis Hanes Pobl Dduon – lleoliad i’w gadarnhau