Login
Get your free website from Spanglefish

"Negro Cloth" a "Welsh Plains"

Professor Chris Evans, "Slave Wales: Wales and Atlantic Slavery 1660 - 1850"

"Yn y ddeunawfed ganrif, roedd Cymru’n nodedig am gynhyrchu brethyn gwlân bras ac o hwnnw y câi dillad eu gwneud ar gyfer gweithwyr caeth y Byd Newydd. Yr enw arno oedd ‘Negro Cloth’, deunydd di-liw sydd erbyn hyn yn angof ar y cyfan. Ond roedd yn bwysig. ‘Pwy fuasai’n credu’, holodd un sylwebydd yn y ddeunawfed ganrif, ‘bod brethyn gwlân yn eitem a ddefnyddir i’r fath raddau yn y gylchfa grasboeth? Ond, felly y mae hi. Yn arbennig y mathau geirwon, at ddefnydd y negroaid; cânt eu hallforio ar gyfradd aruthrol.’

Ac felly yr oedd hi. Roedd gwehyddion y Negro Cloth yn gwasanaethu marchnad a dyfodd yn anhygoel drwy’r ddeunawfed ganrif. Rhwng Chwyldro Gogoneddus 1688 a Rhyfel 1812, bu twf wythblyg ym mhoblogaeth gaeth yr ynysoedd siwgr Prydeinig, o 87,000 i 743,000. Roedd cyfradd y twf yng Ngogledd America Brydeinig yn fwy byth, o tua 10,000 o unigolion i tua 1.19 miliwn. Dyma farchnad na ellid ei diwallu. Fel arfer, roedd gweithwyr caeth angen set newydd o ddillad bob hydref, a chymerwyd yn ganiataol y byddai blwyddyn o lafurio wedi gwisgo dogn y flwyddyn cynt yn garpiau. O dybio lwfans safonol fesul caethwas, gallwn amcangyfrif yn fras faint o’r Negro Cloth a ddefnyddiwyd bob blwyddyn. Yn ffodus, cawn straeon eithaf cyson o’r ffynonellau sydd ar gael i ni: rhoddwyd lwfans o tua 5 llath i bob oedolyn. Mae’n debyg mai lwfans ychydig yn llai a gâi’r ieuenctid, felly gallwn setlo ar 4 llath fesul caethwas fel ffigur cyfartalog ar gyfer y ddeunawfed ganrif. Mae hynny’n awgrymu bod pobl gaeth wedi defnyddio 388,000 o lathenni o frethyn gwlân tua’r flwyddyn 1690, yn llamu i 7,736,000 llath yn 1812.

Nid oedd gwehyddion Cymru’n cael eu ffordd eu hunain yn llwyr yn y farchnad dwf hon. Roedd cystadleuaeth gan nwyddau eraill. Cynhyrchwyd un ohonynt, a gâi ei farchnata fel ‘Kendal Cotton’, yn Cumbria. Roedd math arall, a elwid yn ‘Penistone’ ar ôl y plwyf o’r un enw ar weundir y West Riding yn Swydd Efrog, hefyd i’w gael ym myd y planhigfeydd penbaladr. Cynhyrchwyd y math pennaf o’r Negro Cloth, a elwid yn ‘Welsh plains’ neu ‘Welsh cotton’ – sef Brethyn Cymreig – ei gynhyrchu yn Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd. ‘Ymddengys mai cotwm Cymreig da sydd yn gwneud orau ar y cyfan’, cyhoeddodd un perchennog caethweision; roedd y gystadleuaeth yn ‘ysgafn ac yn annigonol’. Aeth un sylwebydd mor bell â honni yn y 1770au mai holl ddiben gwlân Cymreig oedd ‘dilladu’r Negroaid druan yn India’r Gorllewin’.

Roedd gwneuthuriad y Negro Cloth yn amlwg yn gryn ffenomen, yn enwedig yng nghanolbarth Cymru, ond ychydig o sylw a gaiff gan haneswyr tecstilau a phrin iawn y mae’n ymddangos yn atgofion y werin. Er hynny, gellir adrodd amlinell fras y stori. Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg, ymledodd gweithgynhyrchu gwlân drwy ardaloedd bugeiliol yr ucheldiroedd lle’r oedd aelwydydd tlawd y werin yn chwilio am fodd o roi hwb i’w hincwm. Roedd cynhyrchu tecstilau o ansawdd isel yn fodd o wneud hynny. Gellid cardio gwlân a nyddu edafedd yn ystod y cyfnodau tawel a oedd yn rhan o batrwm amaeth yr ucheldiroedd gwlyb. Digwyddai’r gwehyddu ar wyddiau a gedwid mewn estyniadau ar ochr ffermdai a bythynnod. Mae lluosogiad pandai ar hyd nentydd mynyddoedd Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg yn fynegai o dwf y diwylliant. Dyma un o’r ychydig fynegeion sydd ar gael, gan fod y fasnach ddomestig wasgarog hon wedi gadael ychydig iawn o’i hol ar ffurf urddau neu neuaddau brethyn.

Pannu oedd yr unig weithred o gaboli a gynhaliwyd yn lleol. Roedd prosesau gwerthfawr, tra medrus fel cneifio yn cael eu cynnal yn yr Amwythig, dros y ffin yn Lloegr, lle’r oedd y Drapers Company yn cadw gafael gadarn ar farchnata tecstilau canolbarth Cymru. Yn yr ail ganrif ar bymtheg, gwerthwyd brethyn Cymreig yng ngorllewin Ewrop; yn y ddeunawfed ganrif, fodd bynnag, fe’i hanfonwyd i farchnadoedd yr Iwerydd. Pan, yn y 1780au, yr aeth Elias Ball, plannwr o Dde Carolina, i archwilio ffynhonnell y Negro Cloth a wisgai ei gaethweision, darganfu bod ‘y farchnad fawr ar gyfer yr eitem hon… yn yr Amwythig, prif ddinas Sir Amwythig’ wedi’i phorthi o’r meysydd cynhyrchu i’r gorllewin. Clymwyd nifer cynyddol o dyddynwyr gwledig Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd i economi’r Iwerydd. Roedd hen werin y graith yn troi at gyflogaeth ddiwydiannol ychwanegol mewn ymateb i dlodi cynyddol. Ynghyd â hwy, daeth ffermwyr mynyddig a oedd yn ceisio cwrdd â chostau rhenti, trethi a degymau cynyddol trwy gyfranogi yn y broses o drin gwlân. Erbyn canol y ganrif roedd plwyfi perfeddwlad cynhyrchu gwlân Sir Drefaldwyn yn llawn nyddwyr a gwehyddion. Cymaint oedd y mewnlif o boblogaeth i rai pentrefi bach nad oes eglurhad arall amdano ond y cyfleoedd cyflogaeth a ddaeth fel rhan o’r diwydiant gwlân.

Trwy Lundain yr âi llawer o’r brethyn a gâi ei allforio. Pan fu Henry Laurens, masnachwr o Charleston, yn ymweld â phrifddinas yr ymerodraeth yn 1774 roedd yn hyderus y byddai digonedd o gyflenwad o’r Negro Cloth ar gael: ‘Gwnaf archwilio’r parseli hynny sydd yn warysau Llundain yfory neu’r diwrnod canlynol’, meddai wrth ei bartneriaid yn Charleston. Os oedd y stoc yn isel, doedd dim angen poeni, gan nad oedd cyflenwad ffres byth ymhell: ‘disgwylir parseli o’r Plains o Gymru fesul awr’, meddai wrth un partner; roedd ‘cyflenwad mawr dros y môr o Gymru’ ar ddyfod, meddai wrth un arall. Fodd bynnag, mae’n debyg bod Llundain wedi chwarae rhan llai canolog wrth i’r ddeunawfed ganrif fynd yn ei blaen, gan ildio tir i Fryste’n gyntaf, wedyn i Lerpwl.

Wrth i’r degawdau fynd heibio, daeth elfennau o’r porthladdoedd caethweision i ddisodli’r uchafiaeth a arferai berthyn i’r Drapers Company of Shrewsbury. Unwaith, roedd gwehyddion wedi troedio’n llafurus gyda’u brethyn i ganolfannau marchnad lleol; bellach, deuai asiantau’r masnachwyr brethyn rhyngwladol atyn nhw. ‘Mae gan Fasnachwyr Lerpwl nawr rywun yno, i brynu gan y cynhyrchwyr; ac i helpu’r gwneuthurwyr tlotach gydag arian i gynnal eu crefft’. Mae’n siŵr bod croeso mawr i flaendaliadau o arian parod i’r ‘gwneuthurwyr tlawd’, ond roeddent hefyd yn arwydd bod perchnogaeth y cynnyrch wedi symud o’r gwehydd i’r cyfalafwr masnachol. Gwerineiddio truenus ddaeth nesaf.

Yn wir, nid oedd ffawd llawer o weithwyr diwydiant gwlân canolbarth Cymru yn un i genfigennu ato. Er bod brethyn Cymreig yn cael ei ddefnyddio i ddilladu rhai o’r bodau dynol a ddioddefodd ecsbloetiaeth ffyrnicaf yr oes, roedd y rhai a oedd yn cardio, nyddu a gwehyddu gwlân ym mhlwyfi mynyddig Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn ei hunain yn dioddef iselhad cymdeithasol ac economaidd cynyddol. Roedd y boblogaeth wledig wedi troi at gynhyrchu gwlân mewn ymdrech daer i gwrdd â rhenti cynyddol dosbarth barus o landlordiaid, fel yr ydym wedi’i weld, ond roeddent yn dibynnu’n helaeth ar gryfder cystadleuol eu cynnyrch mewn marchnadoedd pellennig. Wrth i’r ddeunawfed ganrif ddirwyn i ben daeth y cryfder hwnnw’n gynyddol ansicr. Er bod y farchnad am y Negro Cloth yn ehangu, roedd y cyd-destun gwleidyddol yn gynyddol ansefydlog. Ni pharodd yr aflonyddwch a ddaeth yn sgil y Gwrthryfel yn America’n hir, ond roedd amseroedd llawer gwaeth i ddod yn sgil ailgychwyn y rhyfela yn y 1790au a’r 1800au. Parhaodd Negro Cloth o Gymru i gylchredeg ym marchnadoedd yr Iwerydd ar ôl diwedd Rhyfeloedd Napoleon ond gydag anawsterau cynyddol.

Erbyn y 1830au nid oedd diwydiant gwlân domestig canolbarth Cymru’n cael ei drafod fel rhywbeth ffyniannus na diwydiant a gâi ei yrru gan allforio. Rhaid dyfalu’r rhesymau dros hyn. Efallai bod gwehyddion o Gymru wedi’u trechu gan gystadleuaeth o New England, ardal a oedd yn prysur dyfu’n un ddiwydiannol, a phrofodd eu harloesedd a’u marchnata brethyn yn rhy gystadleuol. Aeth pethau’n ddifrifol ar ôl Rhyfel 1812, a ataliodd allforion Prydeinig i’r Unol Daleithiau ac a fu’n symbyliad cryf i ddiwydiant Americanaidd. Roedd gwneuthurwyr tecstilau yn yr Unol Daleithiau nawr mewn sefyllfa dda i gymryd drosodd yn y marchnadoedd domestig a fu unwaith yn diriogaeth cynnyrch Cymreig.

Doedd pethau ddim gwell ar frethyn Cymreig mewn marchnadoedd hanesyddol eraill. Roedd y galw am Negro Cloth o Gymru yn siŵr o fod wedi lleihau yn India’r Gorllewin hefyd. Roedd rhyddfreiniad yn y Caribî Prydeinig yn yr 1830au wedi cyflwyno rhywfaint o ddewis cwsmer na chafwyd erioed mohono yn hen economi’r planhigfeydd. Pa bynnag bryd roedd y dewis ganddynt, rhoddodd y cyn-gaethweision y gorau i’r brethyn gwlân trwm gan ffafrio brethyn cotwm mwy cyfforddus. O ganlyniad, cafodd cymunedau mynyddig Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn, a oedd yn dibynnu ar gynhyrchu’r brethyn, eu taflu i drallod. Erbyn i’r Frenhines Victoria esgyn i’r orsedd, roedd yr ardaloedd cynhyrchu gwlân yng nghanolbarth Cymru wedi cofnodi rhai o’r lefelau uchaf o dlodi ym Mhrydain. Plethodd prosesau dad-ddiwydiannu a dad-boblogi ynghyd. Trowyd cefnau ar y gwyddiau, ymadawodd y bobl, a gadawodd y cof am y ‘Negro Cloth’ Cymreig gyda nhw. Mae’n bryd i adfer y cof hwnnw.




Click for Map WikanikoWork from Home
site map | cookie policy | privacy policy | accessibility statement