Login
Get your free website from Spanglefish
This is a free Spanglefish 2 website.

Dyfodol Hanes Pobl Dduon yng Nghymru

Cynhaliom ddau sesiwn – un yng ngogledd Cymru a’r llall yn y de – er mwyn dod â phobl ynghŷd o amrywiaeth o fudiadau i drafod sut i rannu hanes pobl Dduon yng Nghymru yn y dyfodol.

Roedd y mudiadau a gynrychiolwyd yn cynnwys:

  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Barnardo's
  • CLPW
  • Learning Links International
  • Amgueddfa Genedlaethol Cymru
  • Cymdeithas Gogledd Cymru Jamaica
  • Ymddiriedolaeth y Tywysog
  • Race Council Cymru
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Ysgol Dyffryn Ogwen

Dechreuodd pob diwrnod gyda throsolwg o sut y mae hanes pobl Dduon yn cael ei rannu yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd y mynychwyr wedyn yn trafod sut y gellid gwella ar hyn. 

Digwyddiad gogledd Cymru

Hysbysodd Liz Millman o Learning Links International y grŵp am y nifer o ddigwyddiadau hanes pobl Dduon y mae ei mudiad hi wedi’u cefnogi yng ngogledd Cymru eleni. Roedd hyn yn cynnwys yr Ŵyl Irie Pesda hynod lwyddiannus a gynhaliwyd ym Methesda, ger Bangor. Roedd yr wythnos o weithgareddau’n cynnwys:

  • Darlithoedd ffurfiol ar hanes pobl Dduon yng Nghymru gan Dr Marian Gwyn; 
  • Noswaith o ‘Feirdd Irie’, a dynnodd ynghŷd fardd cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn; y bardd dub ac addysgwr-ddiddanwr Jamaicaidd Yasus Afari; y bardd Cymreig, Carol Owen; y bardd Jamaicaidd, Natalie Fagan-Brown; a’r bardd Cymreig Rhys Trimble
  • Noswaith reggae Jamaicaidd gyda The Sons of Africa, band teyrnged i Count Ozzie; drymio gan y band Cymreig Bloc o Sŵn, a pherfformiad gan Yasus Afari
  • Gweithdai drymio a dawns i rannu gweithgareddau diwylliannol Jamaicaidd
  • Eisteddfod Jamaicaidd. Digwyddiad hwyliog yn dangos sut mae Jamaiciaid yn dathlu’r eisteddfod. Digwyddiad traddodiadol Cymreig yw’r eisteddfod, ble ceir cystadlaethau diwylliannol; roedd eisteddfodau’n gyffredin yn Jamaica tan yn ddiweddar.

Roedd cyfraniadau’r diwrnod yn cynnwys:

  • Yasus Afari yn siarad gyda’r grŵp am ei waith yn hyrwyddo hanes pobl Dduon drwy farddoniaeth.
  • Uzo Iwobi, Prif Swyddog Gweithredol Race Council Cymru (RCC), yn pwysleisio bod ymglymiad personol yn hanfodol i unrhyw beth sy’n digwydd ar hyn o bryd, gan mai ychydig iawn o gydnabyddiaeth ffurfiol o hanes pobl Dduon sydd yng Nghymru. Diolchodd hi’n bersonol i bawb a gymerodd ran am eu hymdrechion yn symud y gwaith hwn yn ei flaen.
  • Pwysleisiodd Jendayi Sarwah, ymgynghorydd sy’n gweithio ar gynllun rheoli pum mlynedd i ddod a hanes pobl Dduon at lygad y cyhoedd drwy’r celfyddydau, pa mor bwysig yw dysgu sut yr hoffai pobl Dduon i’w stori gael ei hadrodd.
  • Daeth Dr Marian Gwyn â’r diwrnod i ben drwy ddangos fideo o rôl Cymru mewn caethwasiaeth Atlantaidd. Cytunodd pawb mai cyfleoedd cyfyngedig sydd yna i ddarganfod rhagor am yr hanes hwn a pha mor bwysig ydyw i hyn fod ar gael yn fwy cyhoeddus.

Digwyddiad de Cymru

Amlinellodd Leanne Rahman o Gyngor Celfyddydau Cymru sut mae cyllid gan ei mudiad hi yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau hanes pobl Dduon, sydd yn adrodd y stori gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau celfyddydol. Cawsom weithio ar amserlin o’r digwyddiadau a gynhaliwyd eleni.

Amlinellodd Uzo Iwobi, Prif Swyddog Gweithredol Race Council Cymru (RCC), sut roedd RCC wedi arwain fel rheolwr Mis Hanes Pobl Dduon Cymru am y tro cyntaf yn 2016. Rhannodd y mynychwyr yn grwpiau i drafod pa bethau oedd wedi gweithio’n dda a pha bethau sydd angen mynd i’r afael â nhw i’r dyfodol.

Gofynnodd Jendayi Sarwah (llun ar y dde) i’r grŵp ganolbwyntio ar flaenoriaethau craidd hyrwyddo hanes pobl Dduon yng Nghymru i’r dyfodol. Roedd gan y mynychwyr ddiddordeb arbennig yn nodau’r prosiect hwn, sef:

  • Dathlu cyfraniadau a chyflawniadau pobl Dduon
  • Herio hiliaeth
  • Hyrwyddo hanes pobl Dduon yng Nghymru, ynghyd â hanes rhan Cymru mewn trefedigaeth Atlantaidd.

Roedd yr adborth o’r ddau ddiwrnod yn gadarnhaol dros ben, gyda’r mynychwyr yn dweud gymaint roedden nhw wedi mwynhau’r cyfle i ddysgu am wahanol safbwyntiau ar hanes pobl Dduon a bod yn rhan o’r broses o wella’r modd y caiff ei rannu yng Nghymru.


 
Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement