Login
Get your free website from Spanglefish
This is a free Spanglefish 2 website.

Hanes Pobl Dduon ar Safleoedd Treftadaeth

Cyfarfu aelodau o dîm y prosiect gyda chynrychiolwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Llandysul, canolbarth Cymru (llun ar y dde). Fe wnaethom drafod sut y gallai Amgueddfa Genedlaethol Cymru rannu straeon sy’n anodd eu hadrodd ar ei safleoedd drwy ddefnyddio’r amgueddfa wlân fel astudiaeth achos. Ar hyn o bryd, nid yw’r amgueddfa yn rhannu gyda’r cyhoedd sut yr oedd nyddwyr o ganolbarth Cymru yn ennill bywoliaeth drwy gynhyrchu brethyn i’r fasnach gaethwasiaeth yn ystod yr 17eg ac 18fed ganrif. Canolbwyntiodd y diwrnod ar sut y gallem wehyddu’r stori hon i mewn i ddehongliad yr amgueddfa.

Dechreuwyd y diwrnod drwy gael ein tywys o amgylch yr amgueddfa, sy’n adrodd stori diwydiant gwlân Cymru. Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli mewn hen felin wlân ac mae nifer o beiriannau sy’n dal i weithio wedi’u gosod yno o hyd. Mae o leiaf 90% o’i beirianwaith yn dal i fod yn gweithio ac mae’n cael ei roi ar waith ar gyfer y cyhoedd yn rheolaidd.

Mae’r prif galerïau lle arddangosir y peiriannau wedi’u dylunio fel mai prin yw’r dehongliad yno. Y bwriad oedd y byddai ymwelwyr yn ymgysylltu gyda staff yr amgueddfa, a fyddai’n rhannu hanes y safle gyda nhw. Fodd bynnag, mae materion cyllido yn golygu yn aml nad oes staff yno.

Mae ystafelloedd eraill o amgylch yr amgueddfa yn arddangos paneli gwybodaeth, ac yn cynnwys gosodiadau sy’n cynrychioli siopau traddodiadol ble byddai brethyn gwlân Cymreig yn cael ei werthu (llun ar y dde). Mae’r ystafelloedd hyn yn adrodd hanes cynhyrchiad gwlân yng Nghymru hyd y cyfnod modern.

Yn dilyn y daith dywys, eisteddom i lawr i drafod materion fel sut i ddod o hyd i wybodaeth hanesyddol am ddarpariaeth brethyn Cymreig i’r fasnach gaethwasiaeth a sut mae cyflwyno’r wybodaeth hon yn yr amgueddfa. Trafodwyd amrywiaeth o opsiynau ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth i ysgolion, a oedd yn cynnwys cymhariaeth o fywyd caethwas yn y Caribî gyda bywyd gweithiwr ffactri yn nyddiau cynnar Prydain ddiwydiannol.

Penderfynwyd mai’r hyn sydd ar goll o’r amgueddfa yw’r stori am ble’r oedd brethyn Cymreig yn mynd ar ôl iddo gael ei werthu. Dim ond un panel gwybodaeth sy’n rhannu rhan fach o’r stori hon ­– ­sut roedd gwlân Cymreig yn dilladu milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Trafodwyd pwy arall oedd gwlân Cymreig wedi’i ddilladu yn hanesyddol, yn cynnwys caethweision a charcharorion, ac ystyriwyd amryw ddulliau o ddehongli hyn ar gyfer y cyhoedd. Yr awgrym mwyaf poblogaidd oedd arddangos map o’r byd a fyddai’n dangos ble’r oedd brethyn gwlân Cymreig yn mynd ac i ba bwrpas y defnyddiwyd ef.

Trafodwyd ffyrdd o symud ymlaen i ymgorffori’r rhan bwysig hon o hanes Cymru yn yr amgueddfa. Roedd hyn yn cynnwys cynnal sesiynau hyfforddi ar gyfer staff, cynnig sgyrsiau cyhoeddus, a helpu gyda pharatoi dehongliadau newydd.

Nid oes esiampl o’r ‘brethyn plaen Cymreig’, yr enw ar y brethyn gwlân syml a werthwyd ar gyfer dillad caethweision, yn bodoli mwyach. Gwyddwn ei fod yn ddeunydd syml, fel gwlanen, a oedd yn ysgafn ond yn gryf. Roedd yn cael ei lifo yn nifer o liwiau, yn cynnwys glas, gwyrdd, oren a choch. Mae cofnodion yn dangos mai gwyrdd oedd y lliw mwyaf poblogaidd. Mae staff yr amgueddfa’n credu ei bod yn debygol fod y deunydd yn edrych yn debyg i’r sypyn o ddeunydd llwyd ar waelod y llun isod.

Roedd adborth o’r diwrnod yn gadarnhaol dros ben. Fodd bynnag, roedd staff yr amgueddfa yn ansicr pryd, os o gwbl, y gallent ymgorffori’r rhan bwysig hwn o hanes Cymru yn ei ddehongliad cyhoeddus.

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement