Login
Get your free website from Spanglefish
This is a free Spanglefish 2 website.

Hanes Pobl Dduon yng Nghymru

Ychydig iawn â wyddir am yr hanes y mae Cymru a’r Iwerydd Du yn ei rannu. Mae’r prosiect hwn yn anelu at fynd i’r afael â hyn mewn digwyddiadau o amgylch Cymru yn ystod 2016. Bydd hefyd yn amlygu cymaint mwy o waith sydd angen ei wneud cyn y caiff yr hanes hwn ei integreiddio’n gyfan gwbl yn y straeon y mae Cymru’n eu hadrodd amdani hi ei hun.

Anwybyddwyd cyfraniad a wnaeth pobl Dduon i Gymru dros genedlaethau yn rhy hir, ond eto cawsant – ac maen nhw’n parhau i gael – eu cynrychioli ym mhob agwedd o fywyd Cymreig: mewn diwylliant, celfyddydau, chwaraeon a gwleidyddiaeth. Mae amgueddfeydd yn Lerpwl, Hull a Llundain sy’n archwilio hanes a chyfraniad pobl Dduon yn Lloegr, does unman yng Nghymru yn adrodd y stori.

Mae hiliaeth yn broblem sy’n melltithio bywydau pobl ledled Cymru. Mae Race Council Cymru wedi adnabod maint y broblem yn ei adroddiad a gyhoeddwyd yn 2015. Mae canlyniadau’r refferendwm dros adael yr UE wedi cynyddu’r nifer o droseddau hiliol yn sylweddol. Mae ein prosiect yn gweithredu ar y canlyniadau hyn drwy herio hiliaeth a hybu dealltwriaeth ehangach o’r cyfraniad sylweddol i Gymru gan bobl Dduon a ddaw drwy’r hanes a rannwn a thrwy herio ystrydebau hiliol.

Daeth rhai o’r cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a hanes pobl Dduon i’r wyneb o ganlyniad i’r gwaith a gynhaliwyd ar gyfer coffâd dau ganmlwyddiant dileu’r fasnach draws Atlantaidd yn 2007. Fodd bynnag, mae holl ddigwyddiadau’r coffâd hwnnw wedi’u cau bellach.

Mae hyn yn cynnwys arddangosfa fawr Amgueddfa Cymru, Traed mewn Cyffion, ac arddangosfa’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Siwgr a Chaethwasiaeth – Cysylltiad Penrhyn, yng Nghastell Penrhyn. Disgrifiwyd y rhain gan Gronfa Treftadaeth y Loteri fel ‘ffyrdd pwysig ac effeithiol i bobl yng Nghymru adnabod a dysgu am ran o’u treftadaeth sy’n aml yn angof’. Mae’r hanes hwn yn cael ei ‘anghofio’ unwaith eto gan mai ychydig iawn o’r wybodaeth hon sy’n cael ei hymgorffori mewn dehongliadau newydd ar safleoedd treftadaeth Cymru.

Mae’r ‘anghofio’ hwn yn cynnwys ymchwil diweddar gan academyddion Cymreig sy’n archwilio cysylltiadau Cymru ag Affrica a'r Americas na gafodd erioed ei rannu’n gyhoeddus. Does unman yng Nghymru, er enghraifft, sy’n archwilio stori’r brethyn Cymreig a wehyddwyd cyn yr oes ddiwydiannol yng nghanolbarth Cymru, ac a ddilladodd Affricaniaid caeth yn yr Americas yn yr 17eg a 18fed ganrif. Mae’r cyfoeth a ddaeth i drefi fel Dolgellau a’r Bala yn sgil hyn yn glir ond heb ei archwilio. Dydy hyd yn oed Amgueddfa Wlân Genedlaethol Cymru ddim yn adrodd y stori hon.

Mae ymchwil newydd ar arloeswyr a chenhadon yn Affrica yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif hefyd yn aros i gael ei rannu.

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement