Login
Get your free website from Spanglefish
This is a free Spanglefish 2 website.

Gweithdai Amrywiaeth a Hanes Pobl Dduon

Anelodd deuddydd o weithdai gan dîm Race Council Cymru at (i) hyrwyddo amrywiaeth gyda Chyngor ar Bopeth a (ii) dathlu llwyddiant Grŵp Ymchwil y Sefydliad Affricanaidd. 

Llun – Gwyneth Higginson (canol) yn cael potyn o flodau i ddiolch iddi am ddod â’i llyfr lloffion Sefydliad Affricanaidd gyda hi. Hefyd – Liz Millman o Race Council Cymru a Charles Eaves, un o sefydlwyr Grŵp Ymchwil y Sefydliad Affricanaidd

Rhan 1 – Amrywiaeth, 14 Gorffennaf 2016

Hanner diwrnod o weithio gydag ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr Cyngor ar Bopeth Conwy. Cynigiom gymysgedd o sgyrsiau a gweithdai gyda’r themâu canlynol:

  • Parch at ieithoedd
  • Brwydro dallineb ethnig
  • Hunaniaeth a pherthyn
  • Herio hiliaeth
  • Beth y gallwch chi ei wneud

Anogwyd cyfranogwyr i feddwl am faterion fel:

  • Ffyrdd y gallan nhw estyn allan at bobl o gefndiroedd lleiafrifol ac na fyddent o bosib yn cysylltu â Chyngor ar Bopeth ynglŷn â’u pryderon
  • Sensitifrwydd diwylliannol – deall bod yr hyn sy’n iawn mewn un gymuned yn anaddas mewn cymuned arall
  • Bod ieithoedd yno i’n helpu ni ddeall y byd, nid i gulhau ein safbwyntiau
  • Beth y gallan nhw yn bersonol ei wneud i adnabod a dathlu amrywiaeth.

Rhan 2 – Dathlu gwaith Grŵp Ymchwil y Sefydliad Affricanaidd, 15 Gorffennaf 2016

Cynhaliwyd diwrnod cyfan o ddathlu’r hanes a rannwn ac ymdrechion cymunedol yn y Ganolfan Ymgysylltu Diwylliannol ym Mae Colwyn.

Llun – clawr ffolder a gynhyrchwyd gan Grŵp Ymchwil y Sefydliad Affricanaidd

Cefndir – Mae Grŵp Ymchwil y Sefydliad Affricanaidd wedi archwilio hanes y Sefydliad Affricanaidd ym Mae Colwyn (1890-1912). Daeth y sefydliad, dan law’r cenhadwr William Hughes, â myfyrwyr Affricanaidd ifanc i Fae Colwyn i ddysgu sgiliau newydd a dysgu am Gristnogaeth. Roedd y disgyblion hyn wedyn yn dychwelyd i’w gwledydd yn Affrica, yn dod yn weinidogion, athrawon a phobl broffesiynol eraill. Cydsefydlodd un, Davidson Don Tengo Jabavu, y coleg yn Ne Affrica ble’r astudiodd Nelson Mandela.

Mae’r Grŵp Ymchwil wedi cynhyrchu ffolder manwl i gyflwyno’u gwaith am y Sefydliad, y myfyrwyr, eu heffaith ar Fae Colwyn a llawer mwy. Mae’r ffolder wedi’i osod yn glir, yn llawn gwybodaeth ac yn ddeniadol. Mae’n deyrnged i waith caled y grŵp.

Trosolwg o’r diwrnod – mynychwyd y digwyddiad yn dda iawn, gyda dim ond lle i sefyll am ran helaeth o’r diwrnod! Bu cynrychiolwyr nifer o fudiadau yn arddangos eu gwaith ar amrywiaeth, mynd i’r afael â hiliaeth a gwerth hanes wedi’i rannu. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Race Council Cymru 
  • Grŵp Ymchwil y Sefydliad Affricanaidd
  • Learning Links International
  • HOPE not Hate
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Cyngor Tref Conwy
  • Cyngor ar Bopeth  

Llun – Cynrychiolydd HOPE not Hate, Katie Wilkinson (2il o’r chwith) yn dal ei baner gyda chymorth gan y cyfranogwyr

Dr Marian Gwyn o Race Council Cymru oedd y brif siaradwraig, a chododd y pwyntiau canlynol:

  • Roedd y Parch. Hughes yn flaengar yn ei agwedd tuag at addysg, hyfforddiant ac amrywiaeth
  • Mae gwaith y Sefydliad Affricanaidd o ddathlu gwaith myfyrwyr Duon talentog yn ategu thema Mis Hanes Pobl Dduon eleni: Ifanc, Dawnus a Du
  • Mae hanesion a rennir, fel gwaith y Grŵp Ymchwil yn torri i ffwrdd oddi wrth hanes ffurfiol, gan ganiatáu gwahanol safbwyntiau i gael eu hystyried. Mae hwn yn ddull ardderchog o archwilio gorffennol anodd, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig ag erchylltra trefedigaethol
  • Mae gwaith da yn ysbrydoli eraill i wneud pethau da, a bydd gwaith y Grŵp Ymchwil ysbrydoli eraill i archwilio’r hanes a rennir yn eu hardal nhw.

Uchelbwyntiau’r diwrnod

  • Datganodd PC Newton-Miller yn gadarn bod Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu polisi goddef dim ar droseddau casineb. Diolchodd Liz Millman o Race Council Cymru i’r heddlu am eu gweithredu cadarnhaol yn brwydro’r cynnydd diweddar mewn hiliaeth yn dilyn y refferendwm UE diweddar.
  • Cadarnhaodd Katie Wilkinson mai cenhadaeth HOPE not Hate yw annog cymunedau i herio hiliaeth drwy gynnig cyngor a chefnogaeth.
  • Ymunodd nifer o’r mynychwyr mewn dadl fywiog am bwysigrwydd bod yn agored wrth archwilio pwnc sensitif. Dywedodd un mynychwr y byddai’n anghywir gwyngalchu materion anodd gan y byddai hyn yn dibrisio canlyniadau cadarnhaol. Roedd y rhan fwyaf yn cydnabod y dylid cydnabod y pethau negyddol ond dathlu’r cadarnhaol.
  • Daeth David Reed, cydsfydlydd y Grŵp Ymchwil â chasgliad hynod ddiddorol o bethau cofiadwy o’i flynyddoedd yn byw a gweithio mewn gwledydd yn Affrica. Roedd yr arteffactau a gyflwynodd yn cynnwys bwrdd mboa (gêm a chwaraeir gyda ffa), chisangi (offeryn cerddorol), a mapiau a lluniau.
  • Siaradodd Mrs Rita Hughes am sut yr oedd hi wedi helpu myfyriwr Du, Norbert X Mbu-Mbutu, a gyrhaeddodd Bae Colwyn i astudio’r Sefydliad Affricanaidd. Aeth yn ei flaen i gyhoeddi ei waith yn Bamonimambo – Rediscovering Congo and British Isles Common History. 
  • Daeth Mrs Gwyneth Higginson â’i llyfr lloffion, a etifeddodd gan berthynas oedrannus a oedd yn ddisgynnydd o'r cenhadwr William Hughes. Mae’r llyfr lloffion yn llawn sylwadau, cerddi a darluniau wedi’u hysgrifennu gan y myfyrwyr Duon yn y Sefydliad Affricanaidd. Roedd y llyfr yn destun cryn ddiddordeb a thrafodaeth ymysg pawb a oedd yn bresennol.
     

Llun – cyfranogwyr yn archwilio a thrafod llyfr lloffion y Sefydliad Affricanaidd

Adborth

Cafwyd adborth ardderchog o’r ddau ddigwyddiad.

  • Croesawodd tîm Cyngor ar Bopeth y cyfle i archwilio ffyrdd newydd o edrych ar eu ffordd o weithio.

Roedd uchafbwyntiau Diwrnod Agored y Sefydliad Affricanaidd yn cynnwys:

  • "Roedd yn wych gweld y dogfennau a’r arteffactau gwreiddiol"
  • "Roeddwn i wrth fy modd gyda’r ffordd y gallai pawb drafod pynciau anodd yn agored"
  • "Wedi mwynhau’r diwrnod drwyddo draw – cefais gyfarfod pobl a oedd yn gallu llenwi’r bylchau yn yr wybodaeth sydd gen i "
  • "Arhosodd pobl er mwyn siarad a darganfod rhagor "
  • "Gallwn weld y fath gyffelybiaeth rhwng y gorffennol a’r presennol drwy wrando ar yr hyn oedd gan bobl i’w ddweud. Fe ddysgais lawer iawn"
  • "Mae’r Grŵp Ymchwil yn haeddu cydnabyddiaeth am ei holl waith caled."
  • "Doeddwn i erioed wedi clywed am HOPE not Hate o’r blaen. Roedd yn wych clywed am eu gwaith"
  • "Rydw i’n gweld heddiw fel caleidosgop o syniadau yn llifo o’r hyn oedd bobl yn ei ddweud. Roeddwn wrth fy modd "

Bonws! 

Ym mis Gorffennaf 2016, daeth dirprwyaeth o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo i ymweld â Chymru er mwyn olrhain y cysylltiadau rhwng y ddwy wlad. Canolbwyntiwyd ar ddwy dref – Bae Colwyn – safle’r Sefydliad Affricanaidd, a Dinbych – tref enedigol Henry Morton Stanley, yr arloeswr a’r newyddiadurwr o’r 19eg ganrif. Gellir gwylio dwy fideo fer o’u hymweliad yma:

 

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement