Login
Get your free website from Spanglefish
This is a free Spanglefish 2 website.

Symposiwm Troseddau Casineb a Hanes Pobl Dduon

Dyddiad: 12 Hydref 2016
Lleoliad: Comrades Club, Conwy

Denodd y digwyddiad grŵp eang o fynychwyr, yn cynnwys rhai o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn ogystal ag actifyddion cymunedol. Denodd hefyd y rhai oedd â diddordeb dysgu mwy am y cynnydd mewn troseddau casineb a hiliaeth yn dilyn y refferendwm ar yr UE ym Mehefin 2016. Canolbwyntiodd y bore ar ddeall trosedd casineb ac archwilio ystadegau troseddu casineb yng Nghymru. Ffocws gweddill y diwrnod oedd adnabod ffactorau a oedd yn arwain at hiliaeth a sut y gellid taclo’r rhain, drwy addysg, er enghraifft.

Llun uchod ar y dde: Gareth Cuerden o’r Prosiect Troseddau Casineb Cymru Gyfan gyda Mary Stennett, gweddw’r actifydd amrywiaeth, Enrico Stennett.

Mynychodd cynrychiolwyr o nifer o fudiadau, yn cynnwys:

  • Race Council Cymru
  • Prosiect Troseddau Casineb Cymru Gyfan
  • Cymorth i Ddioddefwyr
  • Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Cymdeithas Jamaica Gogledd Cymru
  • CLPW CIC Wrecsam
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Learning Links International

Gareth Cuerden (llun ar y dde), Rheolwr Prosiect Troseddau Casineb Cymru Gyfan, roddodd y prif gyflwyniad am ymchwil presennol ar droseddau casineb yng Nghymru. Cadarnhaodd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn dilyn canlyniad y refferendwm. Trafododd y problemau y mae ei fudiad yn eu hwynebu wrth annog dioddefwyr i riportio digwyddiadau a rhannodd esiamplau dirdynnol o drosedd casineb. Roedd ei gyflwyniad yn destun cryn drafodaeth o fewn y grŵp, gydag aelodau yn holi cwestiynau am sut i atal troseddau o’r fath rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Defnyddiodd y cyflwynydd gwadd rhyngwladol, Yasus Afari (llun ar y dde), ei sgiliau fel ‘addysgwr-ddiddanwr’ a bardd i archwilio’r materion a heriau a wynebir gan gymunedau wrth iddynt ddod yn fwyfwy amrywiol. Pwysleisiodd ein bod oll yn bobl y byd ac y dylid croesawu amrywiaeth. Siaradodd am y materion penodol ynghlwm â chaethwasiaeth Atlantaidd ac nad all fod unrhyw esgus dros beidio ag archwilio’r rhain, ond datganodd yn glir y dylid gwneud hyn yn agored, heb bigo hen grachen. Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd, pwysleisiodd, y gallwn fynd i’r afael â phroblemau’r byd. 

Cyflwynodd Dr Marian Gwyn (llun ar y dde) "Cymru Ddu – Ein Cymru Ni / Black Wales – Our Wales", a rhoddodd drosolwg o’r prosiect y mae’r wefan hon yn ei hyrwyddo. Rhoddodd drosolwg hanesyddol o rôl Cymru yn yr ehangiad traws-Atlantaidd a’r fasnach caethweision, gan egluro bod nifer o gysylltiadau a oedd wedi bod yn gudd, a dim ond yn dechrau dod i’r amlwg nawr. Dangosodd pam fod rôl Prydain yn y byd ehangach wedi llunio’r wlad a welwn heddiw – lle diwylliannol amrywiol a bywiog. Pwysleisiodd fod deall yr hanes a rennir yn ein byd yn gam sylweddol tuag at ymdrin â hiliaeth.

Siaradodd Jendayi Serwah, o Race Council Cymru, am bwysigrwydd addysg mewn deall gwahaniaeth ac amrywiaeth ond pwysleisiodd mai un cam yn unig yw hynny – mae angen gweithredu os rydym am newid cymdeithas. Fe atgoffodd y gynulleidfa nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod unrhyw beth am hanes Affrica cyn caethwasiaeth Atlantaidd a bod hyn yn fater sydd angen mynd i’r afael ag ef. Gorffennodd drwy rannu holiaduron am y ffordd ymlaen i ddathlu hanes Du a phobl Dduon yng Nghymru. Bydd y data a gasglwyd o’r rhain yn cyfrannu at ddatblygiad Jendayi o raglen gelfyddydau 5 mlynedd ar hanes pobl Dduon ar ran Race Council Cymru.

Siaradodd Liz Millman o Learning Links International (llun ar y dde) am fenter newydd y mae ei mudiad hi’n gweithio arno, o’r enw Cyfeillgar a Theg. Ei gweledigaeth iddo yw fel safon o ymddygiadau y gall pobl a mudiadau anelu ato. Gallai cwmnïau, cymunedau, ysgolion ac ati weithio tuag at safonau penodol (a amlinellwyd gan Liz) a thrwy hynny gyflawni gwobr, gyda brandio y gellid ei ddefnyddio ar eu deunyddiau cyhoeddusrwydd (yn debyg i Fuddsoddwyr mewn Pobl). Gellid asesu hyn yn rheolaidd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.

Daeth y diwrnod i ben gyda’r mynychwyr yn cyfleu eu clod. Roedd y pethau a sylwyd arnynt fwyaf yn cynnwys:

  • Ystadegau am droseddau casineb
  • Safbwynt rhyngwladol ar hanes pobl Dduon
  • Gwybodaeth am gysylltiadau cudd Cymru gyda chaethwasiaeth Atlantaidd
  • Sut y gall Cyfeillgar a Theg helpu i fynd i’r afael ag achosion hiliaeth
  • Cyfleoedd i rwydweithio
Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement