Login
Get your free website from Spanglefish
This is a free Spanglefish 2 website.

Dathlu Hanes Pobl Dduon yn Wrecsam

Dyddiad: 16 Hydref 2016
Lleoliad: Saith Seren, Wrecsam

Trefnwyd y digwyddiad hwn ar gyfer Race Council Cymru gan CLPW CIC, grŵp sy’n bodoli er mwyn dathlu’r gymuned o 2,000 o bobl Dduon Portiwgaleg eu hiaith sy’n byw yn Wrecsam (llun ar y dde).

Canolbwyntiodd ar ddysgu am hanes pobl Dduon, dathlu’r presenoldeb Du yng Nghymru, a rhannu diwylliant. Dechreuodd y digwyddiad gyda chyfres o gyflwyniadau gan gynrychiolydd Race Council Cymru, Iolanda Banu Viegas, Andreia John o CLPW CIC, Liz Millman o Learning Links international, Dr Marian Gwyn o Race Council Cymru a’r gŵr gwadd rhyngwladol Yasus Afari. Rhan olaf y diwrnod oedd dathliad o ddiwylliant Du, ble gallai pawb ymuno â’r dawnsio, gwrando ar amrywiaeth eang o gerddoriaeth byd a bwyta bwyd o wahanol wledydd.

Agorodd Iolanda Banu Viegas ac Andreia John (llun ar y dde) y digwyddiad drwy groesawu pawb. Rhoddodd Iolanda drosolwg o wreiddiau’r gymuned Bortiwgaleg yn Wrecsam. Eglurodd mai ychydig oedd gan yr aelodau’n gyffredin cyn i’r CLPW gael ei sefydlu, heb law am rannu Portiwgaleg fel iaith; roedden nhw oll yn hanu o wledydd pedwar ban byd a oedd wedi bod yn rhan o’r ymerodraeth Bortiwgalaidd erstalwm. Daethant ynghŷd i ffurfio CLPW, a roddodd gyfleoedd iddyn nhw nid yn unig rannu eu treftadaeth gyffredin ond hefyd gynnig cymorth a chyngor. Atgoffodd Iolanda’r gynulleidfa o’r heriau a wynebodd aelodau CLPW gan droseddau casineb yn dilyn refferendwm yr UE ym Mehefin 2016. Aeth Andreia yn ei blaen i amlinellu trefn y diwrnod a chyflwyno’r siaradwyr.

Rhoddodd Liz Millman o Learning Links International (llun ar y dde) drosolwg o’r prosiect Cymru Ddu – Ein Cymru Ni. Eglurodd sut y mae’n cefnogi gwaith Mis Hanes Pobl Dduon. Siaradodd am bwysigrwydd hanes pobl Dduon i stori Cymru a pha mor bwysig yw dathlu amrywiaeth. Siaradodd am gryfder mudiadau fel CLPW, sy’n cefnogi teuluoedd Portiwgaleg eu hiaith sy’n hanu o wyth gwlad o amgylch y byd a diolchodd i’r mudiad am fod yn esiampl mor gadarnhaol i eraill o amgylch y wlad.

Siaradodd Dr Marian Gwyn o Race Council Cymru (llun ar y dde) am yr hanes hir sydd gan Gymru o ymgysylltu gyda chymunedau o bedwar ban byd. Dywedodd bod tystiolaeth archeolegol o fasnachu rhyngwladol ar safleoedd Cymreig fel gwaith copr y Gogarth Mawr yn Llandudno, yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd. Dywedodd Marian ei bod, fel hanesydd, yn cael ei herio’n barhaus gan gyflwyniad traddodiadol hanes Prydain, sy’n arfer cael ei gyflwyno o safbwynt Gwyn, Ewro-ganolog. Pwysleisiodd bod dod â nifer o safbwyntiau ynghŷd yn golygu bod hanes Cymru yn dod yn stori sydd yn fwy onest ac yn fwy perthnasol i boblogaeth gynyddol amrywiol y wlad.

Siaradodd yr ‘addysgwr-ddiddanwr’ Jamaicaidd Yasus Afari (llun ar y dde) am ran Prydain yn y fasnach gaethwasiaeth Affricanaidd. Mynegodd ei fod yn edifar ganddo nad yw Prydain erioed wedi ymddiheuro am ei rôl mewn caethwasiaeth Atlantaidd, ac awgrymodd bod ymglymiad Prydain a Ffrainc yn y Dwyrain Canol wedi arwain at ymddangosiad grwpiau fel Isis. Credai nad all Prydain anwybyddu ei hanes a’i wthio i un ochr. Diweddglo ei sgwrs oedd adrodd ei gerdd We are the Friends of the Earth, yn atgoffa pobl ein bod oll o’r un ddaear ac y dylem oll ymroi i’w achub.

Daeth y diwrnod i ben gyda dawnsio egnïol o amryw o ddiwylliannau Duon a gyda bwyd blasus. Yn y llun isod: Sasha, aelod o CLPW yn cychwyn y dawnsio.

Roedd adborth am y diwrnod yn cynnwys:

  • Ffordd ardderchog o ddathlu presenoldeb Du yng ngogledd Cymru a dysgu am hanes bobl Dduon ar yr un pryd.
  • Roedd yn wych cael cymysgu gyda phobl o gymaint o wahanol wledydd, ond eto oll gyda chysylltiad â Chymru.
  • Roedd y diwrnod mor hamddenol y gallwn gymryd rhan heb deimlo’n nerfus.
  • Roedd y gerddoriaeth yn ardderchog.
  • Fe wnes i fwynhau’r lleoliad – daeth fy mhlant gyda fi ac fe gawson nhw amser da yn ymuno â’r gweithgareddau ac yn cyfarfod pawb.
Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement