Login
Get your free website from Spanglefish
This is a free Spanglefish 2 website.

Croeso

Dyma wefan prosiect Cymru gyfan Race Council Cymru yn 2016: Cymru Ddu – Ein Cymru Ni, a gefnogwyd gan gynllun Arian i Bawb Cronfa Loteri Fawr.

Cliciwch yma ar gyfer Saesneg/English.

Beth sy’n digwydd a pham?

Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn cynnig cyfres o gyfleoedd cyffrous i fudiadau ac unigolion ddysgu rhagor am dri nod craidd ein prosiect:

  • Herio hiliaeth
  • Dathlu cyfraniadau a chyflawniadau pobl Dduon, ac
  • Adnabod yr hanes a rennir gan Gymru a phobl Dduon ledled y byd.

Cynhelir digwyddiadau ledled Cymru lle byddwn yn arddangos gwaith Race Council Cymru ac yn hyrwyddo thema Mis Hanes Pobl Dduon eleni: Ifanc, Dawnus a Du. Bydd mudiadau a grwpiau cymunedol eraill hefyd yn rhannu eu gwaith ar hanes pobl Dduon a herio hiliaeth.

Beth alla i'w wneud?

Bydd ein digwyddiadau, a’r adnoddau rydym wedi’u creu i gyd-fynd â nhw, yn cynnig dulliau ymarferol o herio hiliaeth – yn anffodus, mae gwir angen hyn i frwydro’r cynnydd diweddar mewn troseddau casineb ledled y wlad. Byddent hefyd yn cynnig digon o gyfle i drafod a dadlau ynghylch yr heriau a wynebwn yng Nghymru heddiw.

Cysylltwch â ni os hoffech arddangos eich gwaith yn ein digwyddiadau neu os hoffech ragor o wybodaeth.

Uzo Iwobi, Liz Millman a Marian Gwyn
Cydlynwyr prosiect Cymru Ddu – Ein Cymru Ni / Black Wales – Our Wales 

 

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement