Digwyddiadau
Bydd tîm Race Council Cymru yn cynnal digwyddiadau ledled y wlad yn ystod 2016 i ymgysylltu pobl â nodau craidd ein prosiect, sef herio hiliaeth, dathlu cyfraniadau a chyflawniadau pobl Dduon, ac adnabod yr hanes a rennir gan Gymru a phobl Dduon ledled y byd.
Gweler y rhestr isod i ddarganfod pa bryd y cynhelir ein digwyddiadau.
Wedi colli un? Peidiwch â phoeni, cewch wybod beth ddigwyddodd drwy glicio ar y ddolen.
1. Gweithdai Amrywiaeth a Hanes Pobl Dduon – Gorffennaf 2016. Digwyddiad deuddydd yn anelu at hyrwyddo amrywiaeth gyda Chyngor ar Bopeth a dathlu llwyddiant Grŵp Ymchwil y Sefydliad Affricanaidd.
2. Symposiwm Troseddau Casineb a Hanes Pobl Dduon – 12 Hydref 2016. Digwyddiad sy’n anelu at ddeall gwreiddiau hanesyddol hiliaeth a datblygu strategaethau i fynd i’r afael ag ef.
3. Dathlu Hanes Pobl Dduon yn Wrecsam – 15 Hydref 2016. Digwyddiad i ddathlu’r gymuned o 2,000 o bobl Dduon Portiwgaleg eu hiaith sy’n byw yn Wrecsam gyda’r CLPW.
4. Hanes Pobl Dduon ar Safleoedd Treftadaeth – 11 Tachwedd 2016. Diwrnod yn archwilio sut mae ymgorffori hanes pobl Dduon yn nehongliadau presennol safleoedd treftadaeth yng Nghymru.
5. Dyfodol Hanes Pobl Dduon yng Nghymru – 5 a 12 Tachwedd 2016. Dau ddigwyddiad – un yng ngogledd Cymru a’r llall yn y de – a ddaeth â chynrychiolwyr mudiadau ynghÅ·d ledled Cymru i drafod y blaenoriaethau ar gyfer adrodd hanes pobl Dduon yng Nghymru.