Login
Get your free website from Spanglefish
Spanglefish Gold Status Expired 09/05/2023.

16 Y Camau Nesaf

Sylweddolwn fod llawer mwy i’w archwilio am sut cyfrannodd y Welsh Plains i economi’r Fasnach Caethweision a sut roedd y cyflenwad o frethyn a nwyddau ar gyfer planhigfeydd yn gweithio. Mae’r prosiect wedi denu diddordeb rhyngwladol ac mae nifer o bobl yn ystyried ymchwil ychwanegol i’r ffyrdd y byddai’r Affricaniaid caeth yn defnyddio’r symiau cyfyngedig o ffabrig a gawsant gan y meistri.

Felly, ein bwriad yw dod o hyd i ffyrdd i’r prosiect barhau yn ystod y flwyddyn nesaf – yng Nghymru, byddwn yn galw’r cyfnod nesaf hwn yn “Brethyn”, ac yn canolbwyntio ar y diwydiant bwthyn a’r fasnach brethyn allan o Gymru, ynghyd â darganfod mwy am yr effaith a gafodd hyn ar y cymunedau diwydiannol bychain a ddatblygodd yn nyffrynnoedd Cymru a’r effaith ar fywyd yng Nghymru yn yr 1700au.

Yn Lloegr, mae tîm Cysylltiadau Dysgu Rhyngwladol yn bwriadu archwilio hanes cynhyrchu Kendal Cloth a brethyn arall o’r enw Penistone, a elwid yn “Negro Cloth” a byddwn yn archwilio ffyrdd o ariannu’r ymchwil hwn. Rydym hefyd eisiau archwilio mwy am y rhan a chwaraeodd porthladdoedd Lerpwl a Bryste yn nefnydd y Welsh Plains a brynwyd i gyflenwi’r Fasnach Caethweision. Hoffem hefyd ddysgu mwy am y rôl sylweddol y chwaraeodd yr Amwythig a Llundain yn y masnachu â’r Iseldiroedd yn y 1500au, gan ei bod yn debygol y câi’r brethyn hwn ei ddefnyddio mewn masnach ryngwladol gynharach i Dde America ble’r oedd y Sbaenwyr a’r Portiwgaliaid yn gorfodi Affricaniaid caeth i gloddio, yn ogystal â gweithio ar blanhigfeydd. 

Canfu cyfarfodydd a thrafodaethau gyda’r tîm yn Amgueddfa Genedlaethol Caethwasiaeth Lerpwl a’r Centre for Slavery Studies fod ymchwilwyr wedi methu â gweld y cyfraniad sylweddol iawn a wnaed gan bobl Cymru i ddatblygu’r porthladd caethweision yn Lerpwl, a hefyd y cyflenwad o nwyddau a anfonwyd i Fasnach y Planhigfeydd, ac mae cyfleoedd i ganolbwyntio’n benodol ar y cysylltiad hwn.

Rydym yn cynnal amrywiol ymgynghoriadau a byddem yn croesawu adborth a syniadau, naill ai trwy’r botwm ‘Adborth’ neu drwy ebost at lizmillman@yahoo.co.uk. 

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement