Login
Get your free website from Spanglefish
Spanglefish Gold Status Expired 09/05/2023.

Cysylltwch â'r wefan yn Saesneg/English yma/here – mae'r ddau safle wrthi'n cael eu datblygu!

Dalier sylw: mae’r ddau safle hyn yn parhau i ddatblygu a phan fyddwn wrthi’n gweithio ar dudalenau, bydd y neges hon yn ymddangos:

Dalier sylw: mae’r ddogfen hon yn parhau i ddatblygu a gan ein bod wrthi’n datblygu’r adnoddau, ni allwn gynnwys cyfieithiad terfynol. Pe byddech angen i’r ddogfen gael ei chyfieithu i’r Gymraeg ar ei ffurf bresennol er mwyn ei defnyddio, rhowch wybod i ni ac fe ymdrechwn i’w pharatoi cyn gynted â phosibl.

Cyflwyno ein prosiect hanes cuddiedig

Mae'n bleser gennym ddweud bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi rhoi caniatâd i ni ddechrau ar y prosiect ‘O Wlân a Siwgr - Brethyn Cymreig a Chaethwasiaeth’, sy'n anelu at ddwyn ynghyd gwirfoddolwyr ymchwil cymunedol o Ganolbarth a Gogledd Cymru sydd â diddordeb yn hanes nyddu a gwehyddu, â theuluoedd o gymunedau ffermio sydd â diddordeb mewn hanes a threftadaeth leol, a hynny er mwyn archwilio ac adrodd hanes y broses o gynhyrchu ffabrig gwlân o'r enw ‘Welsh Plains’ rhwng 1650 ac 1850, ynghyd â'i farchnadoedd, gan ddefnyddio cofnodion o'r archif ac archwilio enwau lleoedd Cymreig.

Dyma hanes diwydiant cartref na ŵyr neb fawr amdano, a oedd yn cyflenwi anghenion lleol cyn iddo ddatblygu mewn modd dramatig i ateb y galw a gynhyrchwyd gan y Fasnach Drawsiwerydd Mewn Caethweision, hanes nad ydym yn ei ddeall yn dda iawn. Bydd y prosiect hefyd yn archwilio bywydau anghyfarwydd y gwerinwyr tlawd a oedd yn chwilio am ffordd o gynyddu eu hincwm trwy wehyddu ffabrig gwlân ar gyfer ‘Masnach y Planhigfeydd’.

Bydd y prosiect yn cynhyrchu deunyddiau hyfforddi ar-lein ar gyfer Gwirfoddolwyr Ymchwil Cymunedol a theuluoedd lleol, i'w galluogi i wneud gwaith ymchwil a rhannu eu canfyddiadau. Sefydlir gweithgorau mewn ymgynghoriad â grwpiau hanes lleol sy'n bodoli; urddau perthnasol a grwpiau eraill sydd wedi'u lleoli ledled yr ardaloedd dan sylw. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys sefydlu ‘Grwpiau Darllen ac Ymchwilio i Hanes Cudd’, er mwyn cynyddu dealltwriaeth o hanes Cymru a'r byd ehangach ar yr adeg hon.

Eglurodd yr Athro Chris Evans yn ei lythyr o gefnogaeth i’r cais a wnaethpwyd am y prosiect:

"Nid yw’n hysbys iawn bod ‘Welsh Plains’, neu Frethyn Cymreig, gwlân a gynhyrchwyd yng Nghanolbarth Cymru yn y ddeunawfed ganrif, wedi chwarae rhan hollbwysig mewn dilladu pobloedd gaeth yn y Caribî. Eto, roedd gwehyddu  ‘Negro Cloth’, enw arall ar y cynnyrch Cymreig hanesyddol hwn, yn creu incwm hanfodol i aelwydydd cefn gwlad tlawd yn Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd. Fel academydd ym Mhrifysgol De Cymru, amlinellais yr hanes yn Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery 1660–1850 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2010), ond amlinelliad yw’r stori rhwng cloriau’r gyfrol o hyd. Mae’n syfrdanol cyn lleied sy’n hysbys am y cymunedau a fu’n gwehyddu’r Welsh Plains/’Negro Cloth’, ac felly bydd ‘Archwilio Hanes Brethyn Cymreig’ yn werthfawr dros ben.

Bydd y rhaglen ymchwil gymunedol arfaethedig hon yn mynd ymhell i ddatgelu hanes y diwydiant tecstilau ar lefel plwyfol; bydd yn galluogi gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau newydd; a bydd yn ehangu’r diddordeb yn nhreftadaeth ddiwydiannol Cymru, yn enwedig ymysg cymunedau BAME sydd heb gynrychiolaeth ddigonol."

Diolch! 

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement