Login
Get your free website from Spanglefish
Spanglefish Gold Status Expired 09/05/2023.

DIOLCH I GRONFA DREFTADAETH Y LOTERI GENEDLAETHOL a’r Adroddiad Terfynol

Ym mis Mawrth 2019, cawsom flwyddyn o gyllid gan y Gronfa am ein cais:

‘Canolbwynt y prosiect yw archwilio treftadaeth cymunedau’r ffermydd mynydd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru a’r diwydiant cartref a’u cynhaliodd yn ystod yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Yn y cyfnod hwn, datblygodd cynhyrchiad brethyn gwlân a ddaeth i gael ei alw’n “Welsh Plains” neu Frethyn Cymreig. Cynyddodd cynhyrchiad y brethyn yn sylweddol i ddiwallu gofynion masnach ryngwladol ac yna, yn y 19eg ganrif, dirywiodd yn ddramatig pan roddwyd y gorau i ddefnyddio caethweision ar blanhigfeydd dan berchnogaeth Brydeinig.

Fodd bynnag, yn ei anterth yn y 18fed ganrif, daeth incwm sylweddol i ffermwyr mynydd tlawd trwy’r archebion a gwerthiant y brethyn, a bu twf dramatig yn y cymunedau lleol wrth greu’r seilwaith yr oedd ei angen i gynnal graddfa ddiwydiannol y gwaith cynhyrchu. Mae trefi marchnad fel y Drenewydd a Dolgellau yn dystiolaeth o raddfa’r diwydiant a’r gefnogaeth ariannol a fuddsoddwyd i ddatblygu a chynhyrchu’r brethyn hwn.

Roedd galw mawr am Frethyn Cymreig gan y masnachwyr a oedd yn cyfarparu llongau caethweision ym Mryste a Lerpwl, dau o’r tri phrif borthladd yn y farchnad gaethwasiaeth ym Mhrydain ar y pryd. Câi’r brethyn ei gyfnewid am bobl a chargo arall angenrheidiol ar gyfer y Fasnach Gaethweision ar hyd arfordir Gorllewin Affrica. Mae’r “Welsh Plains” wedi’i enwi mewn dogfennau fel cynnyrch dewisol ar gyfer llwyddo yn y broses o gyfnewid nwyddau, ac felly roedd hwn yn gynnyrch hynod werthfawr. Ar adegau eraill, caiff ei alw’n Welsh Cottons, Negro Cloth neu Welsh Flannel, ac weithiau caiff ei ddrysu â ffabrigau eraill hefyd.

Roedd galw mawr hefyd am y brethyn i ddiwallu’r gofyniad cyfreithiol am lwfans brethyn blynyddol ar gyfer gweithwyr caeth y planhigfeydd Prydeinig yn y Caribî a’r Taleithiau Deheuol. Roedd y Planhigfawyr yn gyfoethog dros ben felly roedd yn fusnes da i sicrhau bod eu gweithlu caeth yn cael eu dilladu’n ddigonol.

Mae treftadaeth archeolegol y pandai a’r peiriannau cardio a ddefnyddiwyd i brosesu’r gwlân yn swatio’n guddiedig yng nghymoedd Canolbarth a Gogledd Cymru, yn adfeilion wedi’u gorchuddio â thyfiant, neu ar safleoedd sydd bellach yn gartrefi pert.’

Dyma’r adroddiad terfynol y gwnaethom ei baratoi:

Final Report xxx 

 

Fe wnaethom ganfod amrywiaeth o ffyrdd i alluogi unigolion a grwpiau bychain i gymryd rhan:

A – fel “GYC gweithredol” neu fel grwp bychan, yn canolbwyntio ar ardal leol benodol i helpu i greu map, gyda gwybodaeth ychwanegol a disgrifiad o fywyd yn yr ardal rhwng 1650 a 1850.

B – fel “GYC diddordeb mewn maes penodol” yn ymchwilio ac yn rhannu gwybodaeth am agwedd benodol a allai* fod yn gysylltiedig â’r stori hon: e.e. Cysylltiadau morio rhyngwladol Abermaw. *Hyd yn oed os na ddaw cysylltiad i’r golwg, mae’n ddefnyddiol fel rhan o’r darlun mawr.

C – fel “Darllenwr” unigol neu ymchwilydd ar-lein.

CH – fel Aelod neu Drefnwr ar un o’r ‘Grwpiau Darllen ac Ymchwil Hanes a Threftadaeth’.

D – fel “Ymgynghorydd GYC” os ydych chi’n hanesydd lleol sydd â diddordeb mewn cefnogi’r prosiect hwn.

DD – fel “Hyrwyddwr Prosiect”, yn gwirfoddoli i rannu stori’r prosiect gyda mudiadau lleol a sioeau amaethyddol.

E – fel “Storïwr” cofrestredig, yn cynrychioli’r prosiect i rannu’r stori/y canfyddiadau gyda grwpiau WI a Merched y Wawr lleol, grwpiau Rotari a’r Llewod, Ysgolion a Cholegau, Ffermwyr Ifainc ac eraill. Byddwn yn creu rhestr o “Storïwyr Cofrestredig”.

F – fel “Cyfrannwr Creadigol” yn archwilio ffyrdd o adrodd y stori gan ddefnyddio eich sgiliau, e.e. fel nyddwr, gwehyddwr, neu liwiwr gwlân.

FF – fel “Ysgrifennwr Creadigol” yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil mewn stori fer neu gerdd

G – fel Hanesydd Academaidd gyda diddordeb yn yr agwedd hon ar hanes.

H – neu gallwch drafod unrhyw ffordd arall y dymunwch gymryd rhan!

Fe wnaethom wahodd darpar wirfoddolwyr i gofrestru eu diddordeb gan ddefnyddio’r ffurflen adborth ar wefan y prosiect.

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement