Login
Get your free website from Spanglefish
Spanglefish Gold Status Expired 09/05/2023.

Cefndir y Prosiect

Bleser gennym ddweud bod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi rhoi caniatâd i ni ddechrau ar y prosiect Welsh Plains/Brethyn Cymreig, sy'n anelu at ddwyn ynghyd gwirfoddolwyr ymchwil cymunedol o Ganolbarth a Gogledd Cymru sydd â diddordeb yn hanes nyddu a gwehyddu, â theuluoedd o gymunedau ffermio sydd â diddordeb mewn hanes a threftadaeth leol, a hynny er mwyn archwilio ac adrodd hanes y broses o gynhyrchu ffabrig gwlân o'r enw ‘Welsh Plains’ rhwng 1650 ac 1850, ynghyd â'i farchnadoedd, gan ddefnyddio cofnodion o'r archif ac archwilio enwau lleoedd Cymreig.

Dyma hanes diwydiant cartref na ŵyr neb fawr amdano, a oedd yn cyflenwi anghenion lleol cyn iddo ddatblygu mewn modd dramatig i ateb y galw a gynhyrchwyd gan y Fasnach Drawsiwerydd Mewn Caethweision, hanes nad ydym yn ei ddeall yn dda iawn. Bydd y prosiect hefyd yn archwilio bywydau anghyfarwydd y gwerinwyr tlawd a oedd yn chwilio am ffordd o gynyddu eu hincwm trwy wehyddu ffabrig gwlân ar gyfer “Masnach y Planhigfeydd”.

Bydd y prosiect yn cynhyrchu deunyddiau hyfforddi ar-lein ar gyfer Gwirfoddolwyr Ymchwil Cymunedol a theuluoedd lleol, i'w galluogi i wneud gwaith ymchwil a rhannu eu canfyddiadau. Sefydlir gweithgorau mewn ymgynghoriad â grwpiau hanes lleol sy'n bodoli; urddau perthnasol a grwpiau eraill sydd wedi'u lleoli ledled yr ardaloedd dan sylw. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys sefydlu “Grwpiau Darllen ac Ymchwilio i Hanes Cudd”, er mwyn cynyddu dealltwriaeth o hanes Cymru a'r byd ehangach ar yr adeg hon.

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement