Login
Get your free website from Spanglefish
Spanglefish Gold Status Expired 09/05/2023.

1a Cartref

Yn 2019, cyfrannodd mwy na 50 o Ymchwilwyr Cymunedol Gwirfoddol lawer iawn o’u hamser i archwilio’u hardaloedd lleol yng Nghymru i ddarganfod mwy am hanes cynhyrchu brethyn gwlân wedi’i nyddu a’i wehyddu gartref rhwng 1650 ac 1850. Bu’r criw hefyd yn ymchwilio ac yn darllen am y defnydd a wnaed o’r brethyn hwn yn y Fasnach Gaethweision. Gelwid y brethyn hwn a gâi ei allforio yn ‘Welsh Plains’.

Tîm Cysylltiadau Dysgu Rhyngwladol oedd yn cynnal y prosiect, gydag arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Cefnogwyd yr ymchwil hefyd gan amrywiaeth eang o ymchwilwyr academaidd, cymdeithasau hanes, llyfrgelloedd ac archifau.

Rhoddodd yr Athro Chris Evans o Brifysgol De Cymru 10 diwrnod o’i amser, a gweithiodd Dr Marian Gwyn, Pennaeth Treftadaeth Race Council Cymru, hefyd ar y prosiectau fel ymgynghorydd, ynghyd â Merfyn Wynn Tomos, Archifydd wedi ymddeol o Ddolgellau, a ymgymerodd ag amrywiaeth o weithgareddau gwirfoddol yn cynnwys llunio’r cyflwyniad am y cysylltiad annisgwyl rhwng gwlân Cymru a’r fasnach gaethweision. Diolch i’r holl Ymchwilwyr Cymunedol Gwirfoddol, ymgynghorwyr y prosiect a’r mudiadau a gymerodd ddiddordeb gweithgar a chefnogol yn yr ymchwil, a diolch yn arbennig i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am eu help a’u cyngor wrth inni baratoi’r cais ac yn ystod ein gwaith drwy gydol y flwyddyn. 

Mae stori’r prosiect a chanfyddiadau’r ymchwil i’w gweld fel a ganlyn:

-       Gyda’r gwefannau dwyieithog hyn CLICIWCH YMA I WELD Y SAFLE SAESNEG sy’n rhoi gwybodaeth am y gwaith o gynhyrchu brethyn Cymreig a’i gysylltiadau â’r fasnach gaethweision, ynghyd â rhoi cefndir i’r prosiect a syniadau dysgu agored defnyddiol y gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwilio hanes y diwydiant gwlân yn eu hardal eu defnyddio

-       Fel PowerPoint CLICIWCH YMA sy’n cyflwyno’r prosiect gan ddefnyddio darluniau hardd a grëwyd gan un o’n gwirfoddolwyr

-       Gyda ffilm fer CLICIWCH YMA sy’n cyflwyno rhai o’r gwirfoddolwyr a’r ymgynghorwyr

-       Gyda chanfyddiadau ymchwil a gyflwynir ar wefan Casgliad y Werin Cymru CLICIWCH YMA

-       Gyda’r adroddiad terfynol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a gyflwynir ar Tab 13 Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Dyma sut y gwnaethom gyflwyno ein prosiect hanes cuddiedig

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement