CLWB BOWLIO LLANDYSUL BOWLING CLUB
POLISI DIOGELU AC AMDDIFFYN PLANT
Mae Clwb Bowlio Llandysul wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’w gyfrifoldebau tuag at y plant sy’n cymryd rhan mewm gweithgareddau bowlio yn ein hadeiladau ac o fewn y clwb, ac wedi cynhyrchu’r Polisi Diogelu ac Amddiffyn Plant canlynol yn ogystal â gweithdrefnau ategol er mwym nodi’r safonau y dymunwn eu cynnal wrth ddarparu gweithgareddau ar gyfer plant a diogelu lles y plant sydd dan ein gofal.
Mae Clwb Bowlio Llandysul yn gysylltiedig â Ffederasiwn Bowlio Cymru ac yn cydnabod polisiau’r bwrdd rheoli fel y’u disgrifir yn eu ‘Crynodeb o Bolisi Amddiffyn Plant ac Oedolion Bregus’. Gellir dod o hyd i’r ddogfen hon ar eu gwefan.
Mae Clwb Bowlio Llandysul yn cydnabod ei ddyletswydd i ofalu am a diogelu lles pob plentyn (a ddiffinnir fel person dan ddeunaw oed) sy’n cymryd rhan mewm gweithgareddau bowlio o fewn y clwb. Mae gan bob plentyn hawl i gael ei amddiffyn ac i sicrhau fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’w anghenion penodol. Bydd Clwb Bowlio Llandysul, felly, yn gwneud pob ymgais i sicrhau fod pob plentyn sy’n ymwneud gyda’r clwb yn cael ei ddiogelu a’i amddiffyn drwy ddilyn canllawiau Amddiffyn Plant a fabwysiadwyd gan Bwyllgor Rheoli’r clwb.
Cyfrifoldeb pob oedolyn o fewn y clwb yw cynorthwyo’r pwyllgor yn yr ymgais hwn.
ï¶ Darparu amddiffyniad a diogelwch priodol i blant tra byddant yng ngofal y clwb a hefyd eu cynorthwyo i fwynhau’r profiad o gymryd rhan mewm chwaraeon.
ï¶ Sicrhau rhieni y bydd eu plant yn derbyn y gofal ymarferol gorau posibl wrth iddynt gymryd rhan mewm gweithgareddau o fewn y clwb.
ï¶ Darparu cefnogaeth i’r swyddog amddiffyn plant enwebedig (gweler isod) i ymateb yn wybodus ac yn hyderus i faterion penodol yn ymwneud gydag amddiffyn plant ac i gyflawni eu rôl nhw yn effeithiol.
ï¶ Mae gan bob plentyn, beth bynnag ei oedran, ei ddiwylliant, ei anabledd, ei ryw, ei iaith, ei darddiad ethnig a’i ffydd grefyddol yr hawl i gael ei amddiffyn rhag camdriniaeth.
ï¶ Rhoddir ystyriaeth ddifrifol i bob honiad ac amheuaeth o gamdriniaeth neu arfer wael ac ymatebir i’r honiadau a’r amheuon hyn yn gyflym ac yn briodol.
ï¶ Seilir polisi a gweithdrefnau Clwb Bowlio Llandysul ar yr egwyddorion uchod ac ar ddeddfwriaeth Brydeinig a rhyngwladol a chanllawiau’r llywodraeth.
ï¶ Cyfrifoldeb y Swyddog Amddiffyn Plant yw ymateb i unrhyw honiadau, bryderon neu ddigwyddiadau amddiffyn plant ac mae wedi ei hyfforddi i’r perwyl hwn.
ï¶ Mae cyfrifoldeb ar y rhieni i gyd-weithio gyda’r clwb er mwyn rhoi gweithdrefnau ar waith a rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’w plant fel y gallant eu diogelu eu hunian.
Swyddog Amddiffyn Plant y Clwb yw:-
Stella Cross
Bwlchyffin
Llanfihangel ar Arth
Pencader
SA39 9JR
01559-395854
Diwygiwyd
07/01/2017