Login
Get your free website from Spanglefish
This is a free Spanglefish 2 website.

CLWB BOWLIO LLANDYSUL BOWLING CLUB
POLISI DIOGELU AC AMDDIFFYN PLANT

Mae Clwb Bowlio Llandysul wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’w gyfrifoldebau tuag at y plant sy’n cymryd rhan mewm gweithgareddau bowlio yn ein hadeiladau ac o fewn y clwb, ac wedi cynhyrchu’r Polisi Diogelu ac Amddiffyn Plant canlynol yn ogystal â gweithdrefnau ategol er mwym nodi’r safonau y dymunwn eu cynnal wrth ddarparu gweithgareddau ar gyfer plant a diogelu lles y plant sydd dan ein gofal.

Mae Clwb Bowlio Llandysul yn gysylltiedig â Ffederasiwn Bowlio Cymru ac yn cydnabod polisiau’r bwrdd rheoli fel y’u disgrifir yn eu ‘Crynodeb o Bolisi Amddiffyn Plant ac Oedolion Bregus’. Gellir dod o hyd i’r ddogfen hon ar eu gwefan.

Mae Clwb Bowlio Llandysul yn cydnabod ei ddyletswydd i ofalu am a diogelu lles pob plentyn (a ddiffinnir fel person dan ddeunaw oed) sy’n cymryd rhan mewm gweithgareddau bowlio o fewn y clwb. Mae gan bob plentyn hawl i gael ei amddiffyn ac i sicrhau fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’w anghenion penodol. Bydd Clwb Bowlio Llandysul, felly, yn gwneud pob ymgais i sicrhau fod pob plentyn sy’n ymwneud gyda’r clwb yn cael ei ddiogelu a’i amddiffyn drwy ddilyn canllawiau Amddiffyn Plant a fabwysiadwyd gan Bwyllgor Rheoli’r clwb.

Cyfrifoldeb pob oedolyn o fewn y clwb yw cynorthwyo’r pwyllgor yn yr ymgais hwn.

 Darparu amddiffyniad a diogelwch priodol i blant tra byddant yng ngofal y clwb a hefyd eu cynorthwyo i fwynhau’r profiad o gymryd rhan mewm chwaraeon.
 Sicrhau rhieni y bydd eu plant yn derbyn y gofal ymarferol gorau posibl wrth iddynt gymryd rhan mewm gweithgareddau o fewn y clwb.
 Darparu cefnogaeth i’r swyddog amddiffyn plant enwebedig (gweler isod) i ymateb yn wybodus ac yn hyderus i faterion penodol yn ymwneud gydag amddiffyn plant ac i gyflawni eu rôl nhw yn effeithiol.
 Mae gan bob plentyn, beth bynnag ei oedran,  ei ddiwylliant, ei anabledd, ei ryw, ei iaith, ei darddiad ethnig a’i ffydd grefyddol yr hawl i gael ei amddiffyn rhag camdriniaeth.
 Rhoddir ystyriaeth ddifrifol i bob honiad ac amheuaeth o gamdriniaeth neu arfer wael ac ymatebir i’r honiadau a’r amheuon hyn yn gyflym ac yn briodol.
 Seilir polisi a gweithdrefnau Clwb Bowlio Llandysul ar yr egwyddorion uchod ac ar ddeddfwriaeth Brydeinig a rhyngwladol a chanllawiau’r llywodraeth.
 Cyfrifoldeb y Swyddog Amddiffyn Plant yw ymateb i unrhyw honiadau, bryderon neu ddigwyddiadau amddiffyn plant ac mae wedi ei hyfforddi i’r perwyl hwn.
 Mae cyfrifoldeb ar y rhieni i gyd-weithio gyda’r clwb er mwyn rhoi gweithdrefnau ar waith a rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’w plant fel y gallant eu diogelu eu hunian.

Swyddog Amddiffyn Plant y Clwb yw:-

Stella Cross
Bwlchyffin
Llanfihangel ar Arth
Pencader
SA39 9JR
01559-395854

Diwygiwyd

07/01/2017

Click for Map
sitemap | cookie policy | privacy policy | accessibility statement